Yn anffodus mae’r awto-ffocws ar fy 50mm f/1.4 wedi torri. Mae modd ei ddefnyddio o hyd wrth gwrs, ac yn sicr mae modd ei ddefnyddio ar gyfer ffilm gan fod rhai ffocysu â llaw beth bynnag ar hynny. Ond dwi angen awto-ffocws ar gyfer lluniau ond doeddwn i ddim am brynu 50mm newydd felly wnes i brynu’r 40mm f/2.8 STM newydd. Mae’n un o lensys “pancake” newydd Canon ac mae’n fach iawn iawn iawn iawn. Er mai ei brynu ar gyfer lluniau wnes i mae’n lens da ar gyfer ffilm hefyd mae’n debyg ac felly heno wnes i arbrofi i weld sut ganlyniadau oedd yn bosib drwyddo a dwi’n eithriadol o bles.

Dyma’r deunydd ches i allan ohono:

Cwrw Sinsir (Canon 40mm f/2.8 STM) from Rhys Llwyd on Vimeo.

Yr unig feirniadaeth sydd gen i yw bod ffocysu’n anodd gan fod y cylch ffocysu’n denau ofnadwy oherwydd, mae’n siŵr, fod y lens cyfan yn fychan iawn. Mae’r modur ffocysu STM sydd tu mewn iddo yn medru gwneud awto-ffocws wrth ffilmio wrth ei ddefnyddio gyda chamerâu diweddaraf Canon fel y 650D. Ond ar y 7D sydd gen i roedd rhaid ffocysu â llaw oedd yn medru fod yn lletchwith gyda’r cylch ffocysu bach. Ond am £150 dyma chi chwip o lens sydd, mewn partneriaeth gyda’r 7D, yn poeri allan ffilm anhygoel.

Nawr i yfed y Cwrw Sinsir yna!

Please follow and like us: