R. Tudur Jones

Dadleua Tudur y byddai rhyddid i Gymru yn dwyn manteision arbennig i’r genedl gan gynnwys rhai economaidd. Dadleua mai rhyddid ffals ac anghyflawn fyddai unrhyw fesur o ryddid i Gymru oni chaiff Gymru ryddid a chyfrifoldeb lawn dros ei bywyd economaidd hi ei hun. Esbonia mai ‘un o’r enllibiau mwyaf cyson’ am Blaid Cymru yw ei bod hi’n esgeuluso bywyd economaidd Cymru. ‘Rhan bwysig iawn o urddas dyn’, meddai Tudur, ‘yw ei fod yn gallu rheoli moddion ei gynhaliaeth.’ Cred Tudur mai’r bwgan yn y maes economaidd oedd y meddylfryd laissez-fair gyfalafol; ac er gwaethaf ei sosialaeth honedig yr oedd y Blaid Lafur yn gymaint o gynheiliaid i’r drefn honno ag yr oedd y Ceidwadwyr hwythau. Dadleua fod cyfalafiaeth a chyfalafwyr wedi gadael ‘craith ar ein cydwybod gymdeithasol’ gan gyfeirio at y Siartwyr, Helyntion Beca ac yn fwy diweddar y chwalu ar Undebau Llafur fel enghreifftiau o gyfalafiaeth yn gorthrymu’r Cymry. Esbonia fod y Blaid Lafur er 1945 wedi cael ei chyfle i gyflwyno amgenach drefn economaidd i Gymru ond ei bod wedi methu. Er symud y diwydiannau Cymreig o ddwylo’r cyfalafwyr i ddwylo’r wladwriaeth ganolog yn Llundain yr oedd y diwydiannau’r un mor bell o afael y werin Gymreig. Yr oedd y gweithiwr yr un mor ymddieithried o’i gynnyrch. ‘Onide’, meddai Tudur, ‘byddai arweinwyr Llafur yng Nghymru wedi gweld eu cyfle i greu rhwydwaith o ddiwydiannau a fyddai mewn ystyr real iawn yn eiddo i’r genedl Gymreig.’ Fe ychwanegodd;

Nid dileu cyfalafiaeth a wnaethant ond ei dwysau. Ni wnaethpwyd chwarae teg â’r gweithwyr a’u gobaith am fwy o reolaeth tros eu gwaith beunyddiol am fod y mudiad Llafur wedi llyncu sosialaeth wladwriaethol Webbaidd… Trwy fyny chwalu’r fiwrocratiaeth ganolog, Seisnig hon y mae Plaid Cymru’n cymryd y dorch sosialaidd o ddwylo’r Blaid Lafur yng Nghymru.

Y drefn economaidd amgen fyddai’n gweddu orau i Gymru yn ôl Tudur oedd ‘cydweithrediad’. Ac y mae’n trosi’r un egwyddor i’r byd amaethyddol yn ogystal gan ei fod yn nodi fod Plaid Cymru yn galw am ‘berchentyaeth’ i’r ffermwr. Dadleua na ddylem adael i’r diwydiant amaeth syrthio a diflannu yn y byd modern oblegid ‘rhoddwyd y tir i ddyn gan y Creawdwr i gynnal dyn; eilbeth yw’r difyrrwch a gaiff drwyddo.’

Dyfyniadau o R. Tudur Jones: ‘Egwyddorion Cenedlaetholdeb: y frwydr dros urddas dyn yng Nghymru’ (Caerdydd: Plaid Cymru, 1959)

Please follow and like us: