Mae wedi bod yn benbleth i mi ddoe a heddiw. A wyt ti i ddilyn dy gydwybod a dadlau dy bwynt i’r pen ac o ganlyniad gelyniaethu pobl ac hefyd teimlo’n reit isel dy hun. Ynteu a ddylet ti frathu dy dafod a pheidio dilyn dy gydwybod ac eistedd yna yn dawel jest er mwyn cadw peth undod a chyfeillgarwch gyda gwrthrych dy anghytundeb? Ydy creu gelynion ar y ffordd yn rhan o daith dilyn cydwybod ynteu ydy’r creu gelynion yn brawf o dy fethiant i weithredu’n bragmataidd ar egwyddorion dy gydwybod?

Dwi wedi gweithredu ar sail fy nghydwybod (h.y. Roedd fy nghydwybod yn dweud wrtha i fod rhywbeth yn anghywir felly fe wnes i ddweud hynny) ond rhywsut nid yw fy nghydwybod yn dawel… rhyfedd o beth. Yr unig esboniad posib yw mod i’n torri fy nghalon mod i di upsetio pobl wrth siarad yr hyn oedd ar fy nghalon sy’n awgrymu mae’r ffordd rheitiach o weithredu yw cadw’r cyfan tu fewn OND wedyn ti ddim yn dilyn dy gydwybod ac felly dyna ni nol ar y dechrau wedi mynd rownd mewn cylch.

Wnâi ddim sôn am yr union achos yn gyhoeddus. Ond byddai’n ddiddorol darganfod sylwadau rhai o ddarllenwyr y blog. Dwi’n mynd i’r llyfyrgell efallai dof ar draws yr ateb!

Please follow and like us: