cm2_boxDwi ddim yn berson chwaraeon, ddim o gwbl. Ond mae gennai rhyw ddiddordeb bach mewn dilyn pêl droed a hynny maen debyg oherwydd i mi gael fy nghyfareddu gyda Championship Manager, neu Champ Man, pan oeddwn yn iau – tair ar ddeg o flynyddoedd yn ôl erbyn hyn fel maen digwydd. Pan oeddwn ni yn fy arddegau wnes i erioed gymryd at gemau cyfrifiadur action nac ychwaith unrhyw gemau ar unrhyw games console. Fy niddordeb i oedd gemau strategol a simulation ar y PC – gemau fel Sim Tower, Sim City, Command & Conquer, Age of Empires ac, wrth gwrs, Champ Man.

Y fersiwn cyntaf o Champ Man wnes i chwarae oedd Championship Manager 2 95/96, y tymor ar ôl i Blackburn ennill y gynghrair, y tymor lle roedd Eric Cantona yn frenin a’r tymor lle roedd rhaid i chi fachu Victor Leonenko cyn i unrhywun arall wneud. Dyna’r gem fues i’n chwarae am flynyddoedd ac dwi’n cofio i mi gyrraedd y nawfed tymor unwaith gyda Man U ac erbyn hynny roeddwn ni’n curo pawb o leiaf 4-0, roedd fy nhîm wedi ei saernïo mor gywrain a finnau wedi deall pob tric a techneg o ran tactegau fel mod i’n curo pawb a phopeth heb eithriad.

Yr ail fersiwn o’r gem wnes i brynu oedd Championship Manager 3 99/00. Dwi’n cofio mae’r peth cyntaf wnes i oedd defnyddio’r union run tacteg ac yr oeddw ni wedi bod yn ei ddefnyddio am flynyddoedd ar Champ Man 2 – ond tro yma roeddwn ni’n cael fy nghuro’n ddi-eithriad. Yn y gem yma roedd y game engine yn llawer clyfrach ac felly roedd y gem dipyn caletach i’w feistroli.

Y trydydd cenhedlaeth i mi brynu oedd Football Manager 2005. Fe ges i relapse yn 2005 fe ymddengys. Dwi’n dweud “relapse” oherwydd fydd unrhywun sydd wedi chwarae’r gem yn gwybod ei fod yn hynod gaethiwus, mae fel cyffur sy’n eich tynnu chi yn ôl ato yn barhaus! Sylwch fod y gem wedi newid o fod yn Championship Manager i Football Manager erbyn 2005. Stiwdio o’r enw Sports Interactive fu’n datblygu’r gyfres rhwng 1993 a 2005 a buon nhw’n cyhoeddi’r gemau trwy Eidos ond bu i’r ddau gwmni wahanu yn 2005. Fe adawodd Sports Interactive gorlan Eidos a mynd a’r source code a bas data y gem gyda nhw a mynd at Sega i gyhoeddi’r gem nesaf yn y gyfres. Ond Eidos oedd perchennog yr enw “Championship Manager” felly roedd rhaid i Sports Interactive newid enw eu cyfres er mwyn parhau i gyhoeddi o hyn allan drwy Sega. Mae Eidos wedi parhau i gyhoeddi Championship Manager ond mi fydd y selogion yn gwybod yn iawn nad y Champ Man “go-iawn” sy’n cael ei gyhoeddi gan Eidos bellach ond yn hytrach fod y real deal ar gael dan yr enw “Football Manager”!

Pam sôn am hyn nawr? Wel, oherwydd mod i’n gwylio feinal Cynghrair y Pencampwyr ac yn ceisio gweithio allan pam fod bachgen nad sydd a dim diddordeb mewn chwaraeon yn gwylio’r gem. Pam? Oherwydd fy hen hoffter o Championship Manager! Atgofion melys os nad ychydig yn afiach.

Please follow and like us: