Wrth bori ar wefan y Cynulliad bore ma des i ar draws dogfen tra fanwl oedd yn nodi faint yr oedd yr Aelodau Cynulliad yn ei ennill. Mae’n gwneud darllen tra diddorol. Cyflog AC cyffredin (cyn tynnu treth) ydy £46,191. Yna mae’r Prif Weinidog, Gweinidogion, Y Llywydd a’r Is-Lywydd ac, yn tra ddiddorol, arweinydd yr wrth-blaid yn derbyn cyflogau fel a ganlyn (eto, cyn treth):

Prif Weinidog (Rhodri Morgan): £122,682

Gweinidogion Cabinet (e.e. Carwyn Jones): £85,868

Llywydd (Dafydd El): £85,868

Is-Lywydd (Buttler): £71,117

Arweinydd yr wrthblaid (Ieuan Wyn Jones): £85,868

Mae’r cyflogau yn hael bid siŵr ond a bod yn hollol onest roeddwn ni’n eu disgwyl i fod yn uwch.

[Ffynhonnell: ‘Penderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Aelodau’r Cynulliad a Swyddogion) (Cyflogau, Lwfansau etc.)’, Y Swyddfa Ffioedd, Rhagfyr 2006]

Please follow and like us: