Cyflwyno deiseb i Jane Hutt ar fater Coleg Ffederal Cymraeg

Wrth i ni ddisgwyl cyhoeddiad Dydd Iau (03/07/08) gan y Gweinidog Addysg Jane Hutt ynglyn â pholisi Llywodraeth “Cymru’n Un” o Goleg Ffederal Cymraeg, bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno deiseb gyda 1,000 o enwau i’r Gweinidog heddiw yn amlinellu’r hyn a gredwn a dderbyniwyd ers blynyddoedd fel pedair egwyddor graidd Coleg Ffederal Cymraeg. Bydd y ddeiseb hefyd yn cael ei chyflwyno i Bwyllgor Deisebau’r Cynulliad.

Dywedodd Rhys Llwyd (Fi!), Swyddog Ymgyrch Coleg Cymraeg, Cymdeithas yr Iaith:

“Credwn y gellid defnyddio’r pedair egwyddor yma fel meini prawf i farnu os ydy’r Llywodraeth ar y trywydd cywir i wireddu eu haddewid o sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg. Credwn fod yn rhaid i Goleg Ffederal gynnwys yr elfennau canlynol:

(i.) Statws statudol a chyfansoddiad annibynnol,
(ii.) Siarter a chylch gorchwyl annibynnol gan gynnwys cyfrifoldeb dros holl addysg uwch cyfrwng Cymraeg Cymru,
(iii.) Llif arian annibynnol — o leiaf £20 miliwn yn y lle cyntaf tybiwn; ac yn olaf
(iv.) Cofrestr myfyrwyr annibynnol, a fydd yn sicrhau bod modd i fyfyrwyr gofrestru gyda’r Coleg Ffederal a gyda’u coleg daearyddol, gan arwain at ymdeimlad o berthyn a pherchnogaeth ohono.”

Ychwanegodd Elain Haf, myfyrwraig o Brifysgol Caerdydd:

“I’r rhai diffuant hynny sy’n gofidio y bydd creu Coleg Cymraeg fel sefydliad statudol annibynnol yn rhyddhau’r sefydliadau presennol o’u cyfrifoldebau gadewch i ni gael un peth yn glir. Mi fydd y sefydliadau presennol yn parhau i fod yn ddarparwyr dan unrhyw drefn newydd. Mor debyg yw’r gymhariaeth gyda’r dadleuon yn ’79 cyn sefydlu S4C. Sianel Gymraeg v’s mwy o ddarpariaeth Gymraeg ar y sianeli Saesneg. Coleg (aml-safle) Cymraeg v’s mwy o ddarpariaeth Gymraeg yn y prifysgolion presennol. Mae’n amlwg bellach mai rheidrwydd oedd sefydlu S4C er mwyn datblygu teledu Cymraeg, er bod y BBC yn parhau i fod yn chwaraewr pwysig ym myd darlledu Cymraeg. Yn yr un ffordd, rhaid gweld sefydlu Coleg Cymraeg i ddatblygu addysg Gymraeg, er y bydd y prifysgolion traddodiadol yn parhau i chwarae eu rhan.”

Eisoes mae llythyr agored gan dri deg a phump o academyddion blaenllaw sy’n ymarferwyr dydd i ddydd ym maes dysgu cyfrwng Cymraeg wedi ei anfon at Jane Hutt yn amlinellu’r egwyddorion craidd. Mae’r ddeiseb yma law yn llaw â llythyr yr academyddion yn dangos fod yna ewyllys gref yn bodoli i weld y Llywodraeth yn symud ymlaen ac yn sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg cyflawn ac nid bwrdd, cwango, neu rwydwaith yn unig.

Please follow and like us:

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.