Dwi wedi bod yn dechrau meddwl am y gyfres nesaf ar gyfer Caersalem Caernarfon ar ôl i ni orffen mynd trwy lyfr Nehemeia. Byddwn ni dal yn Nehemeia tan y Pasg ond dwi’n meddwl fod hi’n bwysig meddwl, paratoi, cynllunio a gweddio drwy syniadau dipyn ymlaen llaw.

Rhwng Pasg a Haf 2011 dwi’n ystyried gwneud cyfres sy’n seiliedig ar linellau o ganeuon poblogaidd Cymraeg ac edrych beth sydd gan y Beibl i’n dysgu ni am y cwestiynnau mae’r caneuon yn eu codi a’u gofyn. Bydd y gyfres o bregethau dal yn seiliedig ar y Beibl ond bydd y cwestiynnau a’r hook yn cael ei osod gan y caneuon pop. Er fod hi’n bwysig fod yr Eglwys yn edrych trwy’r Beibl am yr atebion mae’n bwysig i ni wrando ar ddiwylliant am y cwestiynnau neu mi fyddw ni’n ateb cwestiynnau sydd ddim yn cael eu gofyn.

Mae yna lawer o rai amlwg yn cynnig eu hunain megis:

  • ‘Mi glywais ddweud fod pawb yn blant i Dduw.’ – Dafydd Iwan
  • ‘Haws dilyn hysbyseb na dilyn Iesu.’ – Ffa Coffi Pawb
  • ‘Dwi wedi penderfynnu bod yn rhydd.’ – Dafydd Iwan
  • ‘Byw i’r funud.’ – Dyfrig Topper
  • ‘Cau ein llgada ac agor ein henaid.’ – Gwyneth Glyn
  • ‘Credaf mewn rhagluniaeth nid ofergoeliaeth.’ – Tecwyn Ifan
  • ‘Cadw’r sabath.’ – Sobin

Os fedrwch chi feddwl am linell allan o gân Gymraeg sy’n cynnig ei hun i agor testun a’n troi i weld beth sydd gan y Beibl i ddweud am y mater gadewch syniadau yn y sylwadau yma. Dwi ddim yn meddwl y bydd problem cymryd ystyr caneuon neu linellau allan o’i cyd-destun a’i hystyr gwreiddiol er mwyn agor pwnc/testun; hynny yw fe allw ni fod yn hyblyg gyda syniadau!

Please follow and like us: