Dyma air gan Rhys ein Gweinidog yn cyflwyno’r gyfres newydd fydd yn cychwyn dydd Sul. Mae croeso i ffrindiau hen a newydd.

“Tymor yma rydym yn dechrau cyfres newydd o’r enw “Pobl Y Ffordd”. Y weledigaeth yw edrych ar y ffordd mae ffordd Iesu yn cynnig fframwaith a rhythm i ni allu profi’r hyn mae Ioan 10.10 yn sôn amdano sef fod Iesu wedi dod: ‘i roi bywyd i bobl, a hwnnw’n fywyd ar ei orau.’”

“Yn yr oes yma pan mae crefydd draddodiadol yn marw yn ein gwlad mae’n hawdd i Gristnogion a’r eglwys fynd yn fewnblyg a gwneud dim byd ond bola-syllio!” 

“Ond y weledigaeth gyda’r gyfres yma yw y bydd, gobeithio, yn rhywbeth fydd nid yn unig yn anogaeth i Gristnogion ond hefyd yn dangos rhywbeth o apêl ffordd Iesu i ffrindiau sydd efallai wedi diflasu neu heb ddiddordeb mewn crefydd ond yn parhau i weld Iesu a’i ffordd fel rhywbeth sy’n ennyn chwilfrydedd.” 

“Er bod nifer o gapeli yn cau trwy’r wlad mae’n syndod weithiau gweld gymaint o ewyllys da sy’n parhau i fod tuag at ffordd Iesu. Mae’n siŵr fod nifer o bobl wedi syrthio allan o’r arfer o fod yn rhan o gapel neu eglwys yn fwy na’u bod wedi colli ffydd. Gobeithio bydd y gyfres yma hefyd yn ffordd i groesawu pobl yn ôl i ail afael yn rhythm bywyd gydag Iesu.”

“Ar ddiwedd Actau 2 mae yna awgrym fod bywyd a rhythm pobl Iesu wedi creu argraff arbennig ar fyd blinedig oedd yn byw dan gysgod y Rhufeiniaid. Er bod y Rhufeiniaid wedi hen adael Segontium mae yna gysgodion o fathau gwahanol yn ein hamgylchynu ni i gyd. Fy ngobaith gyda’r gyfres a’n cyfeiriad dros y misoedd nesaf yw ein bod ni, mewn gostyngeiddrwydd, yn ceisio a gweddïo y bydd Duw yn ein gwneud ni – fel unigolion ac fel cymuned – yn bobl sy’n dangos fod ffordd Iesu sy’n cynnig rhywbeth i fyd blinedig heddiw.” 

www.caersalem.com

Please follow and like us: