Bydd y cyfweliad yma yn ymddangos yn rhifyn nesaf Cristion – ond tybio oeddw ni y byddai o ddiddordeb i rai o ddarllenwyr y blog na fyddai yn prynnu a darllen Cristion or rheidrwydd.
Diolch am fod yn barod i gael sgwrs gyda Cristion Mari. Dywed ychydig bach amdana ti dy hun i gychwyn?
Mi ges i fy ngeni a’m magu yn Swydd Derby, mewn tref o’r enw Chesterfield. Mae fy rhieni yn Gymry Cymraeg a dwi’n ddiolchgar iawn iddyn nhw am benderfynnu fy magu i a fy chwaer, Sara, yn siaradwyr Cymraeg er i ni gael ein magu dros y ffin. Roedd ein ysgol a’n bywyd cymdeithasol yn gyfan gwbl Saesneg, ond Cymraeg oedd iaith y cartref. Ond y cyfle cyntaf ces i – sef mynd i’r brifysgol – fe symudais i Gymru i fyw, fe es i i Gaerdydd am dair mlynedd i astudio’r gyfraith.
Diddorol iawn, beth wnest ti ar ôl graddio yng Nghaerdydd felly?
Doeddwn ni ddim yn gwybod beth roeddwn i isio gwneud ar ôl gorffen fy ngradd, ond roeddwn i’n gwybod nad oeddwn i yn barod i fynd yn dwrna! Wnes i benderfynu cymryd blwyddyn allan ac fe es i Zimbabwe a Swaziland am wyth mis i wirfoddoli mewn ysgolion gwledig. Roedd o’n brofiad ffurfiannol ac arwyddocaol iawn yn fy mywyd; gweld lefel o dlodi doeddwn i erioed wedi gweld o’r blaen. Gwelais am y tro cyntaf cyn lleied – mewn termau economaidd – sydd gan rai pobol yn y byd i gymharu a’r hyn oedd gennyf i. Ro’n i’n gweld bod yna lawer o bobol heb bethau ro’n ni di cymryd yn ganiataol – pethau fel addysg, gwasanaethau iechyd, dwr glan a digon o fwyd.
Roedd y cyfnod yma yn adeg arwyddocaol i mi yn ysbrydol hefyd. Roeddwn i wedi cael fy magu’n mynd i’r capel, ond pan yn iau doeddwn i ddim wedi deall yr efengyl, nac ychwaith wedi dod i fewn i berthynas bersonol gyda Iesu. Cyn mynd i Zimbabwe wnes i’r cwrs Alffa – cam bwysig ar fy siwrnai tuag at Iesu – yna tra ro’n i yn Zimbabwe wnes i ddechrau darllen y Beibl a gweddïo mewn ffordd newydd a gwahanol.
Felly sut wnes di ymateb i’r hyn wnes di weld yn Zimbabwe a dechrau ei brofi’n bersonol yn dy fywyd ysbrydol ar y pryd?
Roeddwn i’n gwybod, ar ôl gweld y tlodi yn Affrica, mod i isio gwneud rhywbeth hefo fy mywyd fyddai’n gweithio i leihau tlodi. Roedd yna gwrs meistr mewn Datblygu Rhyngwladol yn Abertawe felly wnes i symud yna i ddilyn y cwrs. Doeddwn i ddim yn adnabod neb yn Abertawe, ond trwy ffrind i ffrind fe ges i ystafell mewn tŷ gyda tair merch arall ac roddent i gyd yn Gristnogion. Fe weithiais i’n galed ar y cwrs yn Abertawe, ond ar yr un pryd wnes i ddechrau taclo ac mynd i’r afael a’r Beibl ac ystyried o ddifri beth oedd o’n ei olygu i fod yn Gristion. Wnes i ddechrau mynd i’r capel gyda fy ffrindiau, ac ar ôl llawer o gwestiynu ac ystyried cwestiynau mawr am Iesu a’r Beibl wnes i benderfynu rhoi fy mywyd iddo Ef, ac ymroi i’w ddilyn am byth. Ges i fy medyddio yn Abertawe ym Mehefin 2001, a diolch i ras Duw, mae fy ffydd wedi bod yn cryfhau a dyfnhau ers hynny.
Rwyt ti bellach yn gweithio i Tearfund, beth wnaeth dy arwain di i mewn i’r gwaith hwnnw?
Ro’n i isio swydd lle fyddai fy angerdd tuag at Dduw a’i efengyl, a fy angerdd i garu pobol tlawd, yn dod ynghyd. Dwi mor ddiolchgar i Dduw am agor y drws i mi weithio gyda Tearfund. Mae Tearfund yn elusen Gristnogol sydd â gweledigaeth ddeng mlynedd i weld 50 miliwn o bobl yn cael eu harbed rhag tlodi materol ac ysbrydol trwy gymorth rhwydwaith fyd-eang o 100,000 o eglwysi sy’n gweithredu cariad Duw yng Nghrist. Mae Tearfund yn gweithio mewn oddeutu hanner cant o wledydd, drwy bartneriaid Cristnogol, ac yn gwneud pob math o waith yn cynnwys helpu cymunedau tlawd gael dwr glan a glanweithdra, helpu bobol i dyfu digon o fwyd a gwneud bywoliaeth, taclo materion fel HIV ac AIDS, a mynd i’r afael ag anghyfiawnder economaidd a newid hinsawdd. Mae Tearfund yn dyheu i weld yr eglwys leol yn chwarae ei rhan yn y frwydr i sicrhau cyfiawnder a gweld bywydau yn cael eu trawsffurfio wrth iddi chwarae ei rôl yn yr ymdrech i oresgyn tlodi byd-eang.
Yn ogystal a gwneud gwaith gyda chymunedau trwy eglwysi lleol, rydym ni hefyd yn gwneud gwaith eiriolaeth, hynny yw advocacy. Mae Duw yn Dduw cariad a thosturi ond mae hefyd yn Dduw cyfiawnder a rydym ni’n cymryd ei her i ni allan o lyfr y Diarhebion i ‘dadlau o blaid y mud, a thros achos yr holl rai diobaith’ ac i gefnogi ‘achos yr anghenus a’r tlawd’ o ddifri. Dyna pam fod Tearfund yn gwneud llawer o waith ymgyrchu ac yn dal y llywodraethau i gyfri dros eu dyletswydd nhw i wasanaethu’r tlawd – yn yr adran yma o Tearfund dwi’n gweithio’n benodol. Rydw i wrth fy modd yn gweithio i Tearfund ac ymgyrchu am gyfiawnder. Dwi chwarae rhan mewn llawer o ymgyrchoedd, ond yn sicr yr uchafbwynt i mi yn y blynyddoedd diwethaf oedd yr ymgyrch ‘Rhown derfyn ar dlodi’ yn 2005. Dyma’r ymgyrch fwyaf roeddwn i wedi bod yn rhan ohono, ond profodd yr ymgyrch i fod yn bwysig am reswm arall i mi hefyd oherwydd wnes i gyfarfod fy ngŵr, Martin, yn ystod y rali enfawr yn Nghaeredin yn 2005.
Oes yna unrhyw faes penodol o fewn gwaith polisi, ymgyrchu ac eiriolaeth Tearfund rwyt ti’n ei ganolbwyntio arno?
Dwi’n gyfrifol am waith polisi Tearfund ar ddwr a glanweithdra. Dwi’n gwneud gwaith ymchwil i fewn i’r materion yma, sgwennu adroddiadau polisi a lobio llywodraethau – yn y gwledydd cyfoethog a’r tlawd. Dwi’n datblygu polisïau, ac yn lobio’r llywodraethau i’w mabwysiadu a’u gweithredu er mwyn i fwy o bobl tlawd gael dwr a glanweithdra. Dwi hefyd yn gweithio gyda partneriaid tramor ac yn cefnogi eu hymdrechion nhw wrth iddyn nhw ymgyrchu a galw ar eu llywodraethau i ddatblygu polisïau da a theg ar ddwr a glanweithdra. Mae dwr glan a lle saff i fynd i’r toiled yn flaenoriaeth i bobol tlawd – yn enwedig merched a phlant – ond mae llywodraethau yn aml yn esgeuluso’r mater. Rydym ni’n trio codi sylw a dangos pha mor bwysig ydy’r materion yma. Gallwch ddarllen mwy am ein ymgyrch dwr a glanweithdra ar wefan Tearfund.
Maen amlwg dy fod di’n gwneud gwaith pwysig yn Tearfund ac dy fod di’n mwynhau’n fawr – wyt ti’n disgwyl y bydd Duw yn dy arwain i gyfeiriad arall rywbryd yn fuan?
Mae Martin a finnau yn gweddïo llawer ar hyn o bryd am y dyfodol ac yn ceisio gweld beth mae Duw isio i ni wneud. Mae Martin wedi gadael ei swydd fel athro am y tro ac yn dilyn cwrs diwinyddol. Mae’r cwrs yn gorffen fis Medi nesa ac mae o’n dysgu Cymraeg. Rydym ni’n dau yn teimlo fod Duw o bosib yn ein galw ni i symud i Gymru. Dwi wedi caru Cymru ers mod i’n blentyn bach a dwi mor ddiolchgar oherwydd fod Duw wedi rhoi angerdd, nid yn unig i mi, ond hefyd i Martin i weld pobol yn troi at Iesu a gweld Ei Deyrnas yn dyfod yng Nghymru eto. Rydym ni’n agored i ewyllys Duw, ac yn ymddiried y bydd yn agor y drws cywir ar yr amser cywir.
Diolch yn fawr iawn am sgwrsio gyda Cristion Mari, pob bendith i ti gyda’r gwaith yn Tearfund ac fe ddisgwyliwn ymlaen i weld Martin yn rhugl ei Gymraeg ymhen y flwyddyn!