Dros yr wythnosau nesaf dwi’n gobeithio cyfweld llond dwrn o bobl yn o gobaith o ddefnyddio peth or deunydd yn fy nhraethawd ymchwil. Ar gyfer y pennodau mwy theoretic am waith R. Tudur Jones dwi’n medru troi at ei lyfrau a’i ysgrifau ond ar gyfer y pennodau yn olrhain a pwyso a mesur ei ddylanwad ar y mudiad cenedlaethol mae angen i mi gyfweld pobl oedd yno. Os bydd y bobl fydda i’n cyfweld yn cyd-synio mi fydda i’n rhannu’r cyfweliadau ar fy mhodlediad.
Maen dipyn fraint felly y bod neb llai na Dafydd Iwan wedi cytuno i mi bodledu ei atgofion ef am R. Tudur Jones. Maen trafod dylanwad ffydd yn lletach ar y mudiad cenedlaethol hefyd sy’n dra ddiddorol. Ydio’n sgŵp mod i wedi cael celeb fel yma i ymddangos ar fy mhodlediad wrth ei lansio? Wn i ddim, ond mwynhewch…
Tanysgrifiwch i’r podlediad drwy roi clec YMA neu cliciwch ar yr eicon ‘play’ isod i’w chwarae yn eich porwr.