Chydig wythnosau yn ôl fe gysylltodd Glyn Tomos, Golygydd Papur Dre efo fi isho cyfweliad gena i roi yn y papur am mod i newydd gychwyn gweithio i Caersalem Caernarfon. Am ryw reswm tynnwyd y cwestiynnau allan o’r papur ac felly yn y papur mae’r cyfan yn darllen fel monograff fawr yn anffodus – ond roedd cwestiynnau yn y gwreiddiol onest! Beth bynnag, dyma gyhoeddwyd yn rhifyn presennol Papur Dre.
Be ydi dy swydd newydd yng Nghaernarfon?
Dwi newydd gychwyn fy ngwaith fel Bugail neu Weinidog dan hyfforddiant yng Nghaersalem, Capel y Bedyddwyr yn Dre. Ar hyn o bryd dwi’n hyfforddi ar gyfer y gwaith ac mae’r misoedd nesaf yma yn rhan o fy hyfforddiant – cynllun tebyg i ymarfer dysgu ond i giw Weinidogion! Mae’n ffordd dda iawn i hyfforddi ar gyfer y gwaith dwi’n meddwl oherwydd fod y cyfan yn hands on ac eich bod chi’n treulio amser gyda pobl a sefyllfaoedd go-iawn yn hytrach na llyfrau a stafelloedd ddarlithio’n unig.
Be ydi dy hanes hyd yn hyn?
Geshi ngeni ym Mangor ond fe symudodd y teulu i Aberystwyth pan o ni’n ifanc felly dyna lle ges i fy magu mewn gwirionedd. Arhosais i yn Aber i astudio Gwleidyddiaeth yn y Brifysgol a mwynhau bod yn rhan o brotestio UMCA dros fwy o Addysg Gymraeg a threfnu gigs gyda Chymdeithas yr Iaith ac ati. Ond wedyn ar ôl Graddio ffeindish i fy hun nol ym Mangor yn gwneud PhD am Genedlaetholdeb Gristnogol R. Tudur Jones; dwi dal heb orffen y traethawd ond mae’n rhaid i mi ei roi mewn erbyn y Nadolig felly ymddiheuriadau ymlaen llaw os fydd yna olwg blinedig a stressed arna i dros yr wythnosau nesaf! Fe ddechreuais i fy hyfforddiant i fod yn Weinidog llynedd a gweithio gyda Olaf Davies ym Mhenuel, Bangor. Ges i flwyddyn dda ac wnes i ddysgu llawer ond ar ôl i John Treharne symud i Lwynhendy ger Llanelli yn ddiweddar daeth cyfle i mi symud i Gaernarfon a chychwyn torri cwys fy hun fel petai.
Tu hwnt i fy maich penodol dros rannu fy ffydd gyda fy nghyd Gymry dwi hefyd wedi chwarae mewn sawl band – ar hyn o bryd dwi’n drymio i’r Society Profiad ac unwaith fydd y PhD yma allan o’r ffordd dwi’n gobeithio cychwyn recordio LP newydd oherwydd mae angen chwistrelliad newydd o egni ar y Sin Gymraeg. Wna i ddim ymddiheuro chwaith am uniaethu fy hun ag ymgyrchoedd am gyfiawnder gan gynnwys ymgyrchu dros hawliau i Gymry Cymraeg a’u cymunedau. Ond hefyd dros y misoedd nesaf gyda’r toriadau sydd ar ddod bydd cyfrifoldeb arna i ufuddhau i’r Beibl ac i “Ddadlau o blaid y mud, a thros achos yr holl rai diobaith. I siarad yn eglur, a rhoi barn gyfiawn; i gefnogi achos yr anghenus a’r tlawd.” (Diarhebion 31:8) Ond gan gofio, wrth gwrs fod Iesu yn cynnig rhywbeth i’r enaid yn ogystal ag i’r corff hefyd.
Be ti’n gobeithio ei gyflawni yn y Dre?
Pam dy fod di, berson ifanc, yn mynd yn Weinidog? Dyna gwestiwn dwi’n ei gael yn reit aml dyddiau yma. Yr ateb syml, ac efallai fod hyn yn ymddangos yn amlwg ar ryw wedd, yw oherwydd mod i’n credu mewn Duw. Dwi’n credu fod gan Dduw a ffydd yn Iesu Grist yn arbennig rhywbeth i gynnig i gymdeithas heddiw ac yn syml iawn dwi’n gobeithio cynorthwyo pobl Caersalem i ddod i wybod mwy am Iesu ond hefyd eu cynorthwyo i sôn wrth y gymdeithas gyfan yn Dre am Iesu. Ceisio herio pobl i weld fod yna le yn ein bywydau ni i gyd all ond cael ei lenwi gan un peth, sef ffydd yn Iesu. Dydw i ddim yn berson crefyddol coeliwch neu beidio, does gen i fawr o amynedd gyda arferion crefyddol a thraddodiadau crefyddol. Dwi ddim wedi ngalw gan Dduw i gael mwy o bobl Dre i grefydda, dwi wedi fy ngalw i rannu fy mhrofiad fod Duw eisiau ymwneud a ni ac ei fod e’n ein derbyn ni fel ydym ni ond i ni ei dderbyn ef.
Mae’r Capel yn cynnal gwahanol bethau o un wythnos i’r llall a dros y flwyddyn gobeithio fyddwn ni’n datblygu ein gwaith a’n cenhadaeth. Rydym ni’n gymuned anffurfiol o bobl sydd ar daith gyda’n gilydd yn chwilio am, yn darganfod ac yn addoli Iesu gyda’n gilydd. Mewn ymateb i hynny rydym ni’n gofalu am ein gilydd ac yn ceisio gwasanaethu cymuned Caernarfon yn gyfan.
Croeso i chi fynd draw i’n gwefan i weld beth sy’ mlaen; mae ffilm fer yna yn eich cyflwyno chi i’n cyfres sydd newydd ddechrau yn mynd trwy Nehemeia, llyfr yn y Beibl yw Nehemeia sy’n trafod pobl oedd yn wynebu sefyllfa ddigon tebyg i’r hyn mae Cymru a Chaernarfon yn ei wynebu heddiw. Hefyd ar y wefan mae cyfle i lawrlwytho pregethau gena i ac Arwel: www.caersalem.com. Os ydych chi’n hoffi be ‘da chi’n gweld ac yn ei glywed neu wedi eich herio galwch mewn, cysylltwch neu stopiwch fi am sgwrs ar stryd unrhyw bryd.
Pan o ni’n fach, yn ogystal a meddwl mae’r Gymraeg oedd Iesu Grist yn siarad, roeddwn i’n meddwl mae Caernarfon oedd Jerwsalem! Felly, yn olaf, diolch am y croeso i Jerwsalem y Cymry Cymraeg, dwi’n disgwyl mlaen i fyw yn Dre gyda chi a helpu, calonogi ond hefyd herio lle fedra i.