Mae’r wythnos yma wedi bod yn wythnos sur felys go-iawn o ran dyfodol yr iaith. Ddydd Mawrth roeddwn i yng nghyfarfod olaf Bwrdd Gweithredu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol (enw newydd a gwell y Coleg Ffederal Cymraeg gynt). Er na fydd y sefydliad fydd yn cael ei sefydlu dros y misoedd nesaf yr union beth oeddem ni wedi bod yn ymgyrchu amdano dros y ddegawd diwethaf, does dim dadlau mae’r ymgyrchwyr rhagor na pobl y status quo sydd wedi cario’r dydd. Mae sefydliad newydd yn cael ei sefydlu er mwyn bod yng ngofal addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg uwch. Ac mi fydd ganddo gyllideb digon derbyniol ag ystyried yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, ond mae hwn yn rhywbeth i gadw llygad barcud arno.

Dros y blynyddoedd diwethaf, wrth i ni ddadlau o blaid yr angen am un corff penodol ac annibynnol i ddatblygu a darparu addysg Gymraeg yn y sector, roeddem ni yn defnyddio S4C fel enghraifft o’r hyn roeddem ni’n deisyfu. Yn y trafodaethau yma y gwnaeth Seimon Thomas (cyn AS a darpar AC ond “Ymgynghorydd Arbennig” i Blaid Cymru ar y pryd) ddatgelu nad oedd e yn cefnogi sefydlu S4C yn y lle cyntaf! Ond roedd y ddadl yn tycio gyda’r rhanfwyaf o bobl. Cyn sefydlu S4C mi oedd yna beth darlledu Cymraeg ar y telibocs ond roedd y cyfan yn dameidiog. Wrth sefydlu S4C gwelwyd step change, ys dywed y Sais. Wedi sefydlu S4C roedd yna un corff a hwnnw’n gorff annibynnol a chanddo un cenhadaeth ac un ffocws yn unig sef darlledu Cymraeg o safon. Wrth ddangos i bobl y newid er gwell y gwnaeth sefydlu S4C i ddarlledu Cymraeg bu i ni ennill llawer drosodd i weld y byddai sefydlu Coleg Cymraeg yn dod a’r un dylanwad llesol i addysg Gymraeg yn y sector addysg uwch.

Ond, och! Ar yr wythnos lle gwthiwyd y Coleg Ffederal i’r dŵr fe long ddrylliwyd S4C gan Lywodraeth Llundain gyda’r BBC yn ceisio dwyn yr ysbail. Bellach, wrth geisio esbonio i bobl pam fod cadw S4C yn sefydliad annibynnol yn bwysig mi fydda i’n defnyddio’r Coleg Cymraeg fel enghraifft. Yr eironi.

Mae’n tynnu yma i lawr,
Yn codi draw:

Please follow and like us: