Rai wythnosau yn ôl roedd Geraint Davies, cyn Aelod Cynulliad y Blaid dros y Rhondda, yn siarad yn Undeb y Bedyddwyr am waith yr Eglwys lle mae’n ysgrifennydd yn Blaenycwm. Roedd Geraint yn dwyn atgofion am ei blentyndod ac yn cofio’r ddau ddylanwad mawr yn y gymuned – y capel a chlwb y gweithwyr. Un cymuned ond dau ddylanwad a sefydliad oedd ddim yn siarad llawer gyda’i gilydd. Roedd y gwahaniaeth rhwng y ddau sefydliad yn dod yn eglur glir pan roedd y clwb yn trefnu eu trip blynyddol i Borthcawl ar y Sul o bob diwrnod! Ar y pryd ‘doedd plant y capel, er mawr siom i’r Geraint ifanc, ddim yn cael gwneud dim byd a’r peth! Y syndod mawr i lawer yw bod y clwb nawr wedi cau ond y capel yn cadw ei thir yn rhyfeddol, yn y gymuned yn Blaenycwm beth bynnag.
Y ddau sefydliad yma oedd power base ein dwy blaid “flaengar” eu gwleidyddiaeth. Daeth y capel i fod yn gadarnle i Blaid Cymru, o leiaf yn y Gymru Gymraeg, a chlwb y gweithwyr yn angor gadarn i’r Blaid Lafur. Problem sylfaenol Plaid Cymru a’r Blaid Lafur, fel ei gilydd, yw bod y ddau sefydliad wedi colli tir a bron a diflannu’n llwyr. Heb y power bases yma a heb eu dylanwad cymdeithasol mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael eu haddysg wleidyddol bellach gan y wasg adain dde a dyna esbonio, yn fy marn i, pam fod y Ceidwadwyr, UKIP a’r ymgyrch ‘Leave’ wedi gwneud cystal yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae Plaid Cymru yn gwybod fod dylanwad y capel a’r drai, dyna pam gwnaeth y mwyafrif llethol o aelodau Plaid Cymru ethol Leanne Wood, simsan ei Chymraeg ac anffyddiog ei ffydd, yn arweinydd. Dyma doriad dramatig a phragmatig o’r Gymru Gymraeg Anghydffurfiol. I bobl o fewn Plaid Cymru sy’n parhau i arddel ideoleg a delfryd cenhedlaeth Valentine am y “winllan wen”, gan fy nghynnwys i i raddau, ac yn gweld brwydr Plaid Cymru cymaint fel brwydr ysbrydol ag ydyw yn frwydr wleidyddol, maen nhw’n ddoeth i beidio defnyddio’r fath rethreg yn gyhoeddus bellach.
Ond beth am y Blaid Lafur? Mae’r map yma rannodd Vaughan Roderick llynedd yn dweud cyfrolau. Tu hwnt i ganol dinasoedd prin y mae gan Lafur apêl tu hwnt i gymunedau gyn-lofaol bellach. I raddau gwaeth ‘na Phlaid Cymru rwy’n meddwl, mae’r Blaid Lafur dal yn or-ddibynnol ar eu power base traddodiadol sy’n brysur ddiflannu ac mewn sawl cymuned wedi diflannu’n llwyr eisoes.
Ymlaen felly at Owen Smith. Deled yr awr, deled y dyn? Er gwaethaf ei yrfa gyfalafol lwyddiannus fel lobïwr i rai o gwmnïau mwyaf haerllug y byd fel Pfizer ac Amgen, mae Owen Smith yn ffitio’r mowld i’r dim. Yn fab i’r Hanesydd “Cymreig” Dai Smith, yn AS ym Mhontypridd ôl-ddiwydiannol ac, fel rydym ni’n gwybod erbyn hyn, yn “normal”. Ond o bersbectif Cymreig ac o bersbectif datganoli mae Smith yn broblematig iawn.
Os ydym ni am weld datganoli yn datblygu yna Senedd San Steffan, de facto, yw Senedd Lloegr. Sut all hynny fod gydag AS o Gymru yn arwain yr wrthblaid ac efallai rhyw ddydd yn Brif Weinidog? Eisoes, ym meysydd iechyd ac addysg, bydd yr hyn fydd Smith yn ei bregethu yn Llundain yn cael dim effaith ar ei etholwyr ei hun nol ym Mhontypridd – ac oherwydd gwendid y cyfryngau nid llawer fydd yn gwerthfawrogi hynny. Yna dros bwy fydd Smith yn siarad? Gweledigaeth i bwy fydd ganddo? Lloegr neu Gymru? Wrth gwrs cododd y broblem yma o’r blaen pan roedd Gordon Brown ac Alistair Darling yn ASau o’r Alban ond yn arwain y Blaid Lafur yn lefel Brydeinig. Ond mae’r dialog cyfansoddiadol wedi symud ymlaen gymaint ers hynny, heddiw wn i ddim a fyddai ASau o’r Alban yn codi i entrychion y Blaid Brydeinig? Yn un peth, does yna ddim ASau Llafur Albanaidd i gael!
Fy mhroblem i gydag Owen Smith yw ei fod yn nodweddiadol o’r hen genhedlaeth o Lafur yng Nghymru sy’n gweld Cymru onid fel rhanbarth o Brydain Fawr. Llundain yw’r llwyfan. Wrth glywed Dai Smith, ei Dad, yn trafod Cymru a Chymreictod mae’r peth yn dod yn gwbl eglur. Gwyliwch y cyfweliad yma rhyngddo fe ag Adrian Masters, yn arbennig 7:20 ymlaen tan 11:50.
Face to Face Dai Smith Vimeo from ITV Wales on Vimeo.
Nid fod y Smithiaid yn wrth-Gymreig, dim ond eu bod efallai ac ychydig o embaras am eu Cymreictod. Dydyn nhw ddim cweit yn siŵr beth i’w wneud ag e, mae ychydig yn anghyfleus. Maen nhw’n gyfforddus gyda’u Cymreictod cyhyd a’i fod yn aros fel hunaniaeth kitsch – hunaniaeth rygbi a chlwb y gweithwyr. Mae fel petai nhw’n ofn gweld hunaniaeth Gymreig yn dod i oed fel cysyniad gwleidyddol cadarn.
Eu problem, sef problem Cymry sydd wedi bod yn bleidiol i unoliaetholdeb ers canrif a mwy, yw eu bod yn methu gwerthfawrogi fod yn rhaid i bawb, boed i chi hoffi hynny neu beidio, ddal gafael ar ryw hunaniaeth genedlaethol ochr yn ochr a’ch hunaniaethau eraill fel dosbarth a/neu grefydd. Ac felly drwy fod yn ddifrïol a phlentynnaidd eich agwedd tuag at hunaniaeth Gymreig rydych chi wedyn yn anorfod yn mabwysiadu hunaniaeth Brydeinig. Neu fel y disgrifiodd R. Tudur Jones Lloyd George: yn Gymro yn y cartref, yn Brydeiniwr yn y gwaith.
…how does the individual Welshmen get his hands on the reigns of power? That was the question in the late nineteenth century and it was brilliantly answered by David Lloyd George. A Welsh man becomes a member of the ruling elite at London precisely by becoming one of them. He may sing Pantycelyn’s hymns in the front parlor at Downing Street on Sunday nights, but otherwise he must forget his nationality. That solution has been perfectly acceptable to hundreds of Welshmen.
Er bod Dai Smith wedi cyfrannu llawer at ein bywyd cenedlaethol fel hanesydd a darlledwr, bu’n gyfrifol hefyd am ffrwyno hunaniaeth a dyheadau cenedlaethol a’i gadw fel rhywbeth kitsch hefyd. Pa hanesydd Cymreig sy’n achub ar bob cyfle i chwarae i lawr ei fod yn hanesydd sy’n portreadu hanes cenedl? Pa ddarlledwr Cymreig fodlonodd ar gadw BBC Wales fel darlledwr “rhanbarthol”? A mhryder i, os ennilla Owen Smith, yw y bydd y math stunted yma o Gymreictod yn dod eto i’r brig.
Rwyt ti’n lygad dy le fan hyn. Fel y nodais ar Twitter yn ddiweddar, rwy’n credu mai ethol Owen Smith yw gobaith olaf gwedd ar genedlaetholdeb Cymreig/Prydeinig ‘contributionist’ sydd wedi bod mewn bri ers yr 19eg ganrif (ac ynghynt ymysg yr elit e.e. Morysiaid Mon). H.y. mai brwydr yw y Cymro yw hwnnw am gydraddoldeb o fewn y Deyrnas Unedig (neu yn flaenorol yr Ymerodraeth). Ni all y Cymro ddiosg ei Gymreictod yn llwyr, ac felly rhaid iddo bwysleisio y nodweddion rheini sydd yn ein wneud yn well Prydeiniwr na’r Sais – ei deyrngarwch, ei foesau, ei angerdd, ei hudoliaeth wleidyddol etc.
Os yw Smith yn colli’r frwydr hon rwy’n credu y bydd y frwydr rhwng Contributionism a Cenedlaetholdeb o fewn y Blaid Lafur wedi ei cholli, oherwydd fe fydd y Blaid Lafur Gymreig yn sylweddoli mai’r unig fodd o gadw gafael ar rym yw ei ddatganoli i Gymru, Cawn weld beth ddaw!
¨… fe fydd y Blaid Lafur Gymreig yn sylweddoli mai’r unig fodd o gadw gafael ar rym yw ei ddatganoli i Gymru …¨
Fe fydd bwlch neu gwagle mewn cenedlaetholdeb Cymreig ond beth i´w lenwel? Rhyw Plaid Lafur Gymreig annybynnol? Plaid Cymru mor gynhwysfawr tebig i´r SNP? Plaid genedlaethol newydd? UKIP (neu rhyw fath o ´UKIP-cymreig´ ??) … ???