deiniolen_1Rhywfodd fe ymlwybrais draw i ddalen Plaid Cymru ar Wikipedia a dod ar draws y ‘five stated aims’. Yn amlwg fe es i ati i weld os oedd creu Cymru Gymraeg ei hiaith yn un ohonynt – nac ydoedd yn anffodus ond mi roedd creu Cymru ‘ddwyieithog’ drwy hybu adferiad yr iaith Gymraeg yna, da iawn. Fe berodd hynny i mi ofyn beth yn union yw’r Gymru ddwyieithog yma rydym ni’n ei ddeisyfu? Sut le fydd y Gymru ddwyieithog unwaith i ni ei chyrraedd os y cyrhaeddwn ni byth?

Ar y cyfan fe welir yr ymadrodd o ‘greu Cymru dwyieithog’ fel un positif ond ystyriwch Deiniolen, y pentref rwyf fi’n byw ynddi ers mis Medi. Mae dros 75% o’r pentrefwyr yn siaradwyr Cymraeg – ym mhentref cyfagos Llanrug mae’r ffigwr yn nes at 85%. Yr hyn sy’n wych yw fod y rhan fwyaf o bobl yr ardal ddim yn ymwybodol o hyn, maen nhw jest yn cymryd y peth yn ganiataol – sy’n hyfryd a naturiol o beth. Rwyf fi felly yn byw mewn cymuned naturiol a mwyafrifol Gymraeg ei hiaith; mewn cymuned fel yma y mae sôn am ‘greu cymunedau ddwyieithog’ ar ryw wedd yn gam yn ôl. Yr hyn sydd angen mewn gwirionedd ydy gwarchod y gymuned fel un Gymraeg ac nid ei troi hi’n un ddwyieithog yn enw rhyw cotton wool rhyddfrydol chwedl Simon Brooks.

I greu Cymru wirioneddol ddwyieithog rhaid i bob Cymro fedru siarad y ddwy iaith. Y mae pob Cymro Cymraeg eisoes yn siarad Saesneg felly maen rhaid i’r Cymry di-Gymraeg ddysgu Cymraeg os am weld Cymru ddwyieithog. Perygl mawr y prosiect o greu Cymru dwyieithog ydy y byddwn ni’n colli cymunedau naturiol Gymraeg yn y broses. Bydd hynny’n gam mawr yn ôl oherwydd waeth i bob gwir genedlaetholwr gyfaddef mae cam tuag at creu Cymru Gymraeg ydy’r Gymru ddwyieithog. Dwi’n medru siarad a chyfathrebu’n Saesneg ac dwi’n gwerthfawrogi elfennau esberanto’r iaith a’r diwylliant Saesneg – ond dwi am fyw mewn Cymru Gymraeg nid Cymru ddwyieithog yn y pen draw.

Please follow and like us: