Dyma fi nol yng Nghomins Coch a thymor arall ym Mhantycelyn wedi dod i ben! Mae’n braf bod nol adref – gwely cyfforddus, ffrij llawn bwyd, carped sy ddim fel papur tywod a dwr glan yn dod trwy’r tapiau. Ond fyddai ddim yn gweld Gwenllïan rhyw lawer dros y dair wythnos nesaf oherwydd ma genai draethodau i’w gwneud (i. Syniadaeth Wleidyddol Tudur Jones ii. Beirniadaeth Pennar o Bietistiaeth Efengylaidd – dau draethawd dwi’n ysu i’w cychwyn!) a ma hi bant i Iwerddon gyda Chôr Ger y Lli – so dydy hynny ddim yn cwl.

Senedd Cymdeithas yr Iaith

Diwrnod o drafod Gwalia heddiw. Bore ma Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith, ces i fy ail-ethol wythnos diwethaf fel Swyddog ymgyrch ‘Coleg Aml-Safle’ (a.k.a. Coleg Ffederal Cymraeg). Mae’r Asesiad opsiynau mlaen ar hyn o bryd sef yr ymchwiliad ‘cyhoeddus’ i weld beth yw’r model all ddatblygu Addysg Gymraeg yn y Colegau orau. Bu i mi gyfrannu i’r ymchwiliad ar ran Urdd Myfyrwyr Aberystwyth (bydd Ffred Ffransis yn gwneud ar ran y Gymdeithas) – roedd fy nhystiolaeth yn 5,500 o eiriau felly gwell fyddai peidio ail adrodd fan hyn! Ond yn fras roedd pob model heblaw am Fodel 4 sef y ‘Coleg Ffederal Cymraeg’ yn sylfaenol ffaeledig. Ond yn anffodus, beth bynnag fydd swmp y dystiolaeth i’r ymchwilwyr, prin dwi’n gweld Jane Davidson, y gweinidog Addysg, yn mabwysiadu Model 4 fel polisi.

Cyfarfod Cyffredinol Cymru X

Amser cinio i fyny a fi i’r campws i Gyfarfod Cyffredinol Cymru X – mudiad ieuenctid Plaid Cymru. Fy mwriad oedd eistedd yn y cefn a gweld beth oedd yn digwydd. Ond cyn i mi gael cyfle i ddweud ‘Statws cenedlaethol o fewn Ewrop’ roeddwn ni’n pregethu at bawb am bwysigrwydd buddsoddi arian strwythurol Ewropeaidd mewn datblygiadau is-adeiledd tymor hir i Gymru yn hytrach na’i wastraffu ar brosiectau bach tymor byr!!! Cyn pen dim roedd hi’n ddiwedd y cyfarfod a finnau wedi cael fy hun wedi ethol ar bwyllgor cenedlaethol Mudiad Ieuenctid Plaid Cymru.

Cael fy ethol i bwyllgor Cymru X

Ydw i wedi cyfaddawdu felly?! Can i Gymru un munud; cymryd swydd mewn plaid wleidyddol y munud nesa – mae’r 6 mis diwethaf wedi’m troi i yn sefydliadol iawn! Efallai wir ond dwi am ddweud rhyw fymryn am y Blaid. Dwi wedi bod yn euog o besimistiaeth yn ddiweddar (o bosib ar y blog – ddim yn cofio) ynglŷn a Phlaid Cymru. I ddweud y gwir dwi’n meddwl fod yna besimistiaeth yn rhemp trwy aelodau ‘traddodiadol’ y Blaid fel fi a fy rhieni o ran hynny. Os ydych chi wedi cael llond bol ar eich plaid wleidyddol mae yna 2 opsiwn gyda chi:

1. Ymuno a phlaid arall
2. Cwffio oddi mewn iddi i roi siâp ar bethau

Mae’n debyg y byddai rhai yn ychwanegu trydydd categori sef troi at grwpiau pwyso. Gwir – ond gan nad ydw i’n anarchydd dwi yn meddwl fod ymladd o fewn plaid Wleidyddol yn angenrheidiol yn ogystal a phrotestio poblogaidd. Nawr beth bynnag ddywed Guto Bebb a Brooks am y Ceidwadwyr Cymreig plaid wedi ei wreiddio yn Llundain ydy hi ac yn ychwanegol i hynny dydw i ddim yn arddel gwerthoedd cymhedrol-dde. Does dim ail blaid genedlaethol gan Gymru – plaid Brydeinig sy’n digwydd cael agwedd/polisïau weddol iach ar hyn o bryd ydy’r Ceidwadwyr Cymreig – dim byd mwy. Ond fe all newid rwy’n cyfaddef.

Ydw i, ac wyt ti ddigon ar y chwith i Cymru X?

Nawr yr hyn sydd wedi fy ngwneud i yn llugoer tuag at Blaid Cymru yn ddiweddar ac hefyd tuag at Cymru x i ddechrau yw’r busnes ‘Sosialaeth’ yma. Nawr wn i ddim sut fyddech chi’n diffinio sosialaeth. Ond i fi prun bynnag mae sosialaeth yn golygu ‘Cyfiawnder’ – dydw i ddim yn bell iawn ar y chwith oherwydd rwy’n deall natur ddynol ond dwi hefyd a digon o ffydd i gredu fod modd newid llawer er lles pawb yn y gymdeithas. Dwi’n meddwl mae’r lle gorau i Blaid Cymru fod, a Chymru X o ran hynny yw ychydig i’r chwith o’r canol – crowded ground meddai rhai, wel ie ond mae hynny am reswm da oherwydd mae dyna ble mae egwyddorion ac ymarferoldeb yn medru cyd-ddawnsio i wneud gwahaniaeth. Cer di fwy i’r chwith a dydy gweithredu’r polisi ddim yn ymarferol a cer di i’r dde a ma dy egwyddorion di wedi rhoi mewn i gyflwr dyn. Er fod Bethan, un o staff Cymru X a chadeirydd y Cyf. Cyff. tipyn mwy i’r chwith na fi rhaid mi ddweud mod i wedi teimlo heddiw ein bod ni wedi ymryddhau ein hunain o’r jargon chwith trendi yma.

> Nid y Rhyfel yn Irac oedd y drafodaeth heddiw ond sut mae datblygu Economi Cymru gyda arian Ewropeaidd.

> Nid Cardiau Adnabod fu’r gri heddiw ond ariannu addysg fel eu bod hi’n haws ac yn fwy atyniadol i Gymry aros yng Nghymru i astudio.

Pethau go-iawn wnaiff wahaniaeth go-iawn i Gymru. Dwi’n credu felly fod yna le i fi a phobol fel fi o hyd yn y Blaid os ydych chi wedi cael llond bol ar glywed Plaid Cymru yn mynd mlaen am Irac ac ishe clywed mwy am y ddadl Economaidd dros Annibyniaeth er enghraifft dewch gyda Cymru X i ail feddiannu Plaid Cymru – nid er ein lles ni, nac er lles y Blaid OND er lles Cymru.

Please follow and like us: