Carreg i goffau 'Cymwynaswyr Madagasgar' tu allan i Gapel Neuaddlwyd, Sir Aberteifi

Carreg i goffau 'Cymwynaswyr Madagasgar' tu allan i Gapel Neuaddlwyd, Sir Aberteifi

Pur anaml y bydda i’n dal hanner cyntaf y Post Cyntaf ar Radio Cymru ond roedd bore yma yn wahanol, roeddwn i’n effro ac fe wrandawais ar ‘Munud i Feddwl’. Wnes i ddim dal enw’r ddynes oedd yn dweud ei dweud ond sôn oedd hi am genhadon Neuaddlwyd, nepell o faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanerchaeron, aeth allan i Fadagasgar. Ar y cyfan mae cenhadon y gorffennol yn dioddef llawer o ‘bad press’ dyddiau yma gyda llawer o or-gyffredonoli ynglŷn a’u rôl y hybu a lledaenu coloneiddio. Oes, mae yna enghreifftiau anffodus o wahanol agweddau oedd yn amlygu eu hunain ymysg rhai cenhadon ond yn amlach na pheidio stori ddaionus sydd i’w hadrodd am y cenhadon, yn enwedig y cenhadon o Gymru.

Dylanwad llesol nid imperialaidd heb os ddaeth cenhadon Neuaddlwyd i Fadagasgar. Fe aeth y cenhadon ati, yn naturiol, i ddysgu iaith y bobl sef y Malagasy ac fe gyfieithwyd y Beibl i’r iaith honno. Y weithred yma rhoes ddechrau ar y dasg o droi’r Malagasy yn iaith ysgrifenedig ac mae cenhadon Neuaddlwyd yn cael eu cofio yn y wlad fel ‘cymwynaswyr’ Madagasgar.

Please follow and like us: