Wythnos yma draw yn Barcelona mae Cyngres Ffonau Symudol y Byd yn cael ei chynnal. Maen ymddangos mae prif thema’r gyngres eleni yw ymgais pawb a phopeth i ddal fyny gyda’r iPhone ac App Store Apple. Mae’r holl gwmnïau ffonau symudol ar draws yr holl ddarparwyr bellach yn cynnig ffonau cyffyrddiad sgrin – y ffonau cyffyrddiad sgrin bellach ydy flagships yr holl gwmnïau (ag eithrio RIM, y cwmni sy’n cynhyrchu’r Blackberry’s). Ac nawr mae Google gyda’i platfform Android yn ogystal a Microsoft gyda’i Windows Mobile 6.5 wedi neu yn lansio App stores i gystadlu gydag App Store Apple i’r iPhone.

Dyma rhai o’r pigion sy’n sefyll allan i mi:

palm-pre-rm-ces-main-600Palm Pre: Palm oedd un o brif gwmnïau y byd ffonau-clyfar rhai blynyddoedd yn ôl ond ers i Blackberry’s RIM godi i ddominyddu’r sector mae Palm wedi bod yn stryglo. Yn ôl y sylwebwyr y Palm Pre bydd gobaith olaf Palm i adfer y cwmni ac ei hatal hi rhag mynd i’r wal a chau i lawr. Dyna pam fod Palm wedi tynnu’r stops i gyd allan gyda’r Pre, maen nhw hyd yn oed wedi dwyn rhai o brif ddylunwyr a thechnegwyr yr iPod oddi wrth Apple i weithio ar y prosiect! Mi fydd yn gwneud popeth mae’r iPhone yn gwneud a mwy, camera gwell, gallu i tethero data i’ch laptop a gallu i ail-wefru’r batri heb geblau! Mae hefyd yn cynnwys bysellfwrdd QWERTY fydd yn siŵr o ddenu rhai pobl ato cyn yr iPhone. Ond maen ymddangos fod rhai sgil effeithiau anffodus wedi dod ar ôl i Palm fachu rhai o dechnegwyr a dylunwyr Apple. Maen debyg y bod Apple yn barod i herio Palm yn gyfreithiol ar y sail fod y Pre wedi dwyn llawer o dechnoleg yr iPhone sydd dan patent gan Apple. Gellid darllen mwy am hyn fan yma. Dwi’n meddwl fod y Palm Pre yn debygol o wneud mwy o niwed i Apple a’r iPhone nag y gwnaeth y G1 a’r Blackberry Storm; ond wn i ddim eto os y buasw ni’n newid iddo yn lle’r iPhone. Rwy’n gobeithio o leiaf y gwnaiff cystadleuaeth go-iawn orfodi Apple i godi eu gêm a dod ac iPhone tipyn cryfach allan yn y flwyddyn nesa.

2579427HTC Magic: Dyma’r ail ffon i ddefnyddio system weithredu Google Android, y G2 felly. Mae’r Magic wedi ei gynhyrchu gan HTC ac mi fydd ar gael ar y rhwydwaith Vodafone; mae hyn felly yn debygol o ddod ac Android i farchnad ehangach gan fod y G1 wedi ei gyfyngu i rwydwaith fechan T-Mobile yn unig. Yn wahanol i’r G1 ni fydd bysellfwrdd QWERTY ar hwn, bysellfwrdd cyffyrddiad sgrin yn unig y ceir. Mae hwn yn edrych yn neisach o lawer na’r G1 ond efallai mae un o brif atyniadau’r G1 dros yr iPhone i lawer oedd y QWERTY sydd yn awr wedi diflannu.

jasces-lg-watchphone-hedLG Watch Phone: Ie, ffon ar dy arddwrn. Dyma yn fy nhyb i ydy’r syniad mwyaf hurt erioed. Mae yna ddau ffordd o’i ddefnyddio sef nai llai cael pen-declyn bluetooth i mewn yn dy glust yn barhaol neu siarad i mewn i dy arddwrn tra’n ffonio. Nawr dychmygwch y peth, y ffon yn canu, ac yna dyna lle rwyt ti’n cerdded i lawr y stryd yn cael sgwrs gyda dy arddwrn. Mi fydd pawb yn meddwl dy fod yn honco bost! Maen syniad gwreiddiol ond fedraim deall yn fy myw pam fod LG yn dod a’r concept allan i’r farchnad yn nes ymlaen eleni.

Dyna ni, mae’r pigion sy’n ein cyrraedd o’r gyngres yn dangos fod ein ffonau yn ymdebygu fwy fwy i gyfrifiaduron go-iawn bob dydd.

[O Metastwnsh.com]

Please follow and like us: