Cynhadledd Ddiwinyddiaeth ac Athroniaeth

Heddiw fe fynychais gynhadledd adrannau Diwinyddiaeth ac Athroniaeth Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru yng Nghanolfan Merched y Wawr, Aberystwyth. Nawr mod i’n fyfyriwr ymchwil ac yn giw-academydd (a hwnnw wedi sylwi heddiw ei fod yn ddi-brofiad a di-sylwedd ddifrifol) dwi am wneud ymdrech i fynychu cyfarfodydd a chynadleddau fel heddiw er mwyn gwneud yr orchwyl o lunio traethawd doethur fymryn yn fwy amrywiol.

Dechreuwyd gyda teyrnged gan Meredydd Evans i Dewi Z. Phillips bu farw yn gynt eleni. Dydw i ddim yn gyfarwydd o gwbl a Dewi Z. Phillips, ei waith na’i ddaliadau – yr oll yr oeddwn yn gwybod oedd ei fod yn ‘athronydd crefyddol’ beth bynnag bo hwnnw yn ei feddwl. Wrth holi os y soniodd Tadcu o gwbl amdano yr unig gof oedd gan Mam oedd nad oedd yn Nhadcu yn cyfeirio ato mewn golau rhy lachar – fel pob athronydd maen siŵr rhoddai ormod o le (i Galfin fel Tadcu) i syniadau dyn a ddim digon o le i awdurdod y gair sanctaidd. Rwy’n disgwyl ymlaen dros y dair blynedd nesaf i geisio ymgyfarwyddo y rhai o gysyniadau a theorïau cyffredinol Dewi Z gan ei fod wedi bod yn athronyddu gydol yr un cyfnod y bu Tudur Jones yn diwinydda.

Nesaf yn traddodi yr oedd Richard Wyn Jones – boed i chi gytuno a fe neu beidio roeddech chi’n gwybod eich bod chwip o ddarlith ar y ffordd. Fe gymerais nodiadau yn y ddarlith hon felly dyma rai sylwadau ychydig bach yn fanylach nar arfer! Ei destun oedd “Athroniaeth Wleidyddol” gyda ystyriaeth arbennig i’r haeriad ‘ein bod ni gyda yn ryddfrydwyr seciwlar bellach’. Rhoddodd wibdaith i ni drwy brif dueddiadau Athroniaeth y ganrif ddiwethaf. Honnodd fod yr ystod o syniadau wedi crebachu erbyn diwedd yr G20 – yn yr 20au a’r 30au roedd ystod o syniadau yn herio rhyddfrydiaeth – Adorno yn ei herio o’r chwith a Schmit yn ei herio o’r dde. Nododd hefyd fod Crefydd dal yn cael ei weld yn ganolog i lawer system feddwl ddechrau’r G20 ond bellach fod hyn ddim yn wir – rhyddfrydiaeth seciwlar yw’r norm.

Tynnodd sylw at Habermas fel enghraifft o feddyliwr “chwith” cyfoes oedd wedi newid ei ffordd o feddwl i’r oes bresennol. Er enghraifft ei fod wedi rhoi y syniad o lafur tu ôl ac wedi symud ffocws i gyfathrebu. Hefyd fod Habermas wedi derbyn y Wladwriaeth fodern fel yr unig ffurf realistig o lywodraethiant – yn ogystal mae’n derbyn fod yn rhaid i’r economi fod yn rhydd. Felly am Farcsydd mae wedi symud tipyn! Fe aeth RWJ ymlaen i gloriannu beth a enillwyd a beth a gollwyd yn y shifft yma. Ennill: nododd fod pwyslais mawr wedi dod ar ddemocratiaeth a disgwrs adeiladol o bob cyfeiriad am natur democratiaeth. Collwyd: Y brif beth sydd wedi ei golli yn y shifft athronyddol yma medd RWJ ydy colli iwtopaeth; yn ôl RWJ mae hyn “drasiedi”. Nododd fod iwtopaeth yn angenrheidiol i weld unrhyw newid radical ac i weld unrhyw fudiadau torfol yn codi. Yn y bôn mae’r shifft yma a’r cyrraedd rhyw wastatir yn brawf fod Fukuyama yn gywir pan ddywedodd ein bod ni (yn y gorllewin beth bynnag) wedi ‘cyrraedd diwedd hanes’ gydag ein ffurf ryddfrydol, seciwlar gyfalafol o lywodraethu, byw a bod.

Wedyn fe aeth RWJ ymlaen i drafod sut mae’r ‘Gwleidyddol’ (the political) wedi newid – a bod yn gwbwl onest fe wnes i golli’r trywydd fan yma; fy mai i – doeddwn ni jest ddim yn deall – mi oedd hyn yn eithaf ‘hard going’ ys dywed y Sais! Ta beth, fe ddaeth RWJ i ben drwy honni mae problem fawr athroniaeth Wleidyddol erbyn dechrau’r G21 oedd ei fethiant i gydnabod cenedlaetholdeb fel ffactor sy’n rhaid ei gydnabod, ei drafod a’i ddelio hefo mewn ffordd ystyrlon. Polisi ac athroniaeth ar lefel ryngwladol wedi ei ddallu gan y ffaith fod UDA a Phrydain yn ddall i’w cenedlaetholdeb nhw eu hunain er enghraifft. Gorffennodd drwy honni fod trafodaethau athronwyr mawr fel Mill a Rousseau a chenedlaetholdeb yn gefndir iddynt ond fod hyn, ar y cyfan wedi ei anwybyddu.

Dwi’n meddwl mae casgliad RWJ ar y diwedd oedd ein bod ni bellach i gyd yn ryddfrydwyr seciwlar. Ces air byr gydag ef ar y diwedd ac fe ddywedodd wrtha i ‘…mi wyt ti siŵr a fod yn cytuno efo fi.’ gan wybod mod i’n argyhoeddedig fod y Gymru seciwlar wedi cyrraedd or diwedd fel petai (er mwyn i’r eglwys ddechrau eto hynny yw nid fod seciwlariaeth yn beth da o’r rheidrwydd er mod i’n tybio ei fod yn well os nad ar y run lefel a crefydd farw/sych), ac yna aeth ymlaen i ddweud ‘…er nad wyt ti debyg yn hapus efo hynny’. Yn y tymor hir na dwi ddim yn hapus fod Cymru yn genedl ryddfrydol seciwlar ond yn y tymor byr dwi’n meddwl ei bod hi’n beth iach ein bod ni’n derbyn y ffaith yna yn blwmp ac yn blaen er mwyn delio ag ef ac ymladd yn ôl fel petai.

Mae’r postiad yma wedi mynd yn gythreulig o hir felly mwy am y gynhadledd yn y postiad nesaf….

(Lluniau Top i’r Gwaelod: Dewi Z Phillips, Francis Fukyama a Jean-Jacques Rousseau)

Please follow and like us:

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.