Ar y ffordd adre o gynhadledd y BMS yn Sheffield ddoe fe wnaethom ni alw mewn yng nghynhadledd Plaid Cymru yn Llangollen. Dyma oedd y tro cyntaf i mi fynd i gynhadledd y Blaid.
Pan yn astudio bywyd a gwaith R. Tudur Jones dwi’n cofio dod ar draws gohebiaeth rhyngo fe a Gwynfor yn trafod sut roedd cynadleddau’r Blaid wedi newid dros y blynyddoedd. Cynhadledd Plaid Cymru yn Nolgellau yn 1967 oedd y trobwynt yn ôl Tudur Jones. Yno y dechreuodd y Blaid lunio polisïau ymarferol a phellhau oddi wrth rethregu ar egwyddorion yn unig. Rhybuddiodd Tudur nad oedd hyn heb ei beryglon: ‘Ni cheid mwyach y darlithiau i ysbrydoli. Prin y soniwyd am hanes Cymru. Ychydig a glywyd mwyach am egwyddorion cenedlaetholdeb. Bellach symudwyd y pwyslais a’i osod yn hytrach ar yr elfennau pragmataidd hynny sy’n ennill pleidleisiau yn awr.’
Dywedodd Tudur Jones wrth Gwynfor Evans yn 1981, wrth i’w lywyddiaeth ef ddod i ben, ei fod yn parhau’n fwy cyfforddus gyda’r ‘hen bwyslais’ ac iddo ‘orwedd yn esmwythach ar gydwybod y Cristion na’r un arall.’ Er bod Tudur Jones yn cydnabod pwysigrwydd trafod ‘y pethau sy’n debyg o ddenu cefnogaeth ar ddydd etholiad,’ mynnai bwysleisio nad ‘mater o gofleidio set o dybiaethau athronyddol yw cenedlaetholdeb ond yn hytrach cael pobl i gydnabod nodweddion eu dynoliaeth eu hunain. Ffurf ar hunan-adnabyddiaeth ydyw.’ Tybiodd fod perygl yn perthyn i’r trywydd mwy ymarferol yma, sef mabwysiadu agweddau ar wahanol athroniaethau economaidd, arwain Plaid Cymru i’r un gors a’r pleidiau Prydeinig: ‘Gwelsom eisoes beth a ddigwyddodd i’r Blaid Lafur pan lyncodd bragmatiaeth Harold Wilson,’ meddai. ‘Yn lle ymddiosg o’r caledwch doctrinaire a oedd yn mygu’r haenau dynol yn ei neges, fe ddatblygodd yn blaid ddiegwyddor yn yr ystyr lythrennol.’ Mynnodd Tudur Jones fod rhaid cadw’r ffocws ar raison d’être y Blaid, sef rhyddid i’r Cymry: ‘Nid ymgiprys am rym yn unig yr ydym. Grym er mwyn cyrraedd nod rhyddid y genedl yw’r peth yr ydym eisiau ei gael.’ Y rhyddid hwnnw oedd rhyddid oddi wrth Brydeindod.
Rhyddid sydd yn parhau i fod yn bosib yn unig drwy amcan hir dymor y Blaid, annibyniaeth. Ymlaen!