Cynhadledd Plaid CymruMae gan Plaid Cymru lot o bethau anodd maen rhaid iddi hi ddeilio gyda fe dros y misoedd nesaf os yw hi am osgoi mynd i lawr yr un llwybr a’r pleidiau Prydeinig ac ymddieithrio ac wedyn colli aelodau llawr gwlad. All y Blaid ddim fforddio colli ei adnodd mwyaf sef ei gweithwyr llawr gwlad.

Mae aelodaeth llawr gwlad y Blaid wedi eu hymddieithrio wedi cyfres o benderfyniadau: papur dyddiol, LCO iaith cyfyngedig, cau ysgolion pentref yng Ngwynedd ac yn awr y ffioedd myfyrwyr.

Mae yna bobl wedi cyffroi am y gynhadledd penwythnos yma ond a’i jest staff y Blaid ydyn nhw i gyd? Oes yna aelodau llawr gwlad wedi eu cyffroi neu a’i “buzz” gwneuthuredig sy’n cael ei greu yn ganolog gan staff y Blaid sydd allan yna yn y rhithfro?

Fe ges i fy hun yn weithgar iawn gyda gwaith y Blaid ddwy flynedd yn ôl ar lefel leol yn ymgyrch Elin Jones yng Ngheredigion (wnes i roi y PhD o’r neilltu am fis i bob pwrpas a gweithio’n wirfoddol ar yr ymgyrch – dim byd mawr – dim ond trefnu fod timau o fyfyrwyr yn mynd allan i ganfasio a dosbarthu miloedd ar filoedd o daflenni – dim byd soffistigedig ond gwaith angenrheidiol.) Ond bellach gyda’r Blaid mewn llywodraeth dwi’n ei gweld hi’n fwy addas i mi ddilyn fy egwyddorion drwy weithio oddi mewn i Gymdeithas yr Iaith a’r Eglwysi unwaith yn rhagor, all fy nghydwybod i ddim caniatáu i mi gyfaddawdu fy ngwerthoedd er mwyn symud yr agenda “wleidyddol” mlaen. Dyn yr agenda “gwerthoedd” ydw i, fydda i byth felly’n wleidydd yn yr ystyr llythrennol.

Dwi’n dymuno’n dda i bobl sy’n gweithio tu fewn i’r Blaid – ond cofiwch chi beidio colli golwg ar y raison d’être dyna gyd.

Please follow and like us: