Maen debyg mae un o broblemau’r argyfwng tai yng Nghymru yw’r diffyg sydd yna o dai ar rent. Yr hen bolisi Torîaidd o werthu bant y stoc o dai cyngor yw craidd y broblem ond maen debyg fod pethau yn debygol yn fynd yn waeth byth yn y dyfodol agos oherwydd fod yn rhaid i Gynghorau Cymru werthu eu holl stoc dai bant oherwydd deddfau Ewropeaidd.

Mae’n debyg fod yn rhaid i lawer o Awdurdodau lleol ryddhau eu stoc tai oherwydd nad oes ganddyn nhw arian i’w cynnal a chadw. Maen debyg y bydd Awdurdodau lleol yn rhoi dewis i denantiaid i aros gyda’r awdurdod a pheidio cael gwasanaeth cynnal a chadw teg neu fynd yn breifat at asiantaeth tai allai gynnig gwasanaeth cynnal a chadw. Y stoc dai yn gyfan yn debyg o gael ei golli yng Ngheredigion – prif swyddog y cyngor ddim yn gweld hyn yn beth da ond ddim chwaith yn gweld hi’n deg fod y tenantiaid yn gorfod aros gyda’r cyngor ar cyngor heb arian i fuddsoddi mewn cynnal a chadw. Byddai angen i’r Cyngor fenthyca arian i fuddsoddi mewn cynnal a chadw’r stoc dai ond Cytundeb Maastricht yr UE yn atal y cyngor rhag gwneud y benthyca yma ac felly y cyngor yn gorfod trosglwyddo hyn ac eraill i’r sector breifat.

Felly, pawb i bleidleisio i UKIP yn yr etholiad Ewropeaidd nesaf!

Please follow and like us: