Ar ddiwedd Ioan 6, mae dysgeidiaeth Iesu yn peri i nifer o’i ddilynwyr ei adael. Ar ôl iddyn nhw adael, mae Iesu’n gofyn i’r rhai sydd ar ôl, “Dych chi ddim am adael hefyd, ydych chi?” (ad. 67). Mae Pedr, yn torri ei galon fwy na thebyg wrth weld cynifer yn gadael, yn dweud: “Arglwydd, at bwy awn ni? Mae beth rwyt ti’n ei ddweud yn arwain i fywyd tragwyddol. Dŷn ni wedi dod i gredu, a dŷn ni’n gwybod mai ti ydy Un Sanctaidd Duw.” (ad. 68-69) Fel un sydd wedi mynd ar daith araf o ddad-adeileddaeth ffydd (faith deconstruction) dim ond i lanio nôl mewn ffydd uniongred-glasurol yn Iesu, dyma hefyd fy stori i.
DAD-ADEILEDDAETH FFYDD
Dros y blynyddoedd darllenais lyfrau a gwrandewais ar bodlediadau pobl fel Rob Bell, Brian McClaren ac eraill. Yna darganfyddais y podlediad dylanwadol The Liturgists, podlediad ddechreuodd wrth i’r prif gyflwynydd, y cerddor Michael Gungor, olrhain ei daith i ffwrdd o ‘pop christianity’ bas diwedd yr Ugeinfed Ganrif. Wrth iddo ef, ac eraill fel y diweddar Rachel Held-Evans, rannu eu stori roeddwn yn clywed fy stori i. Pobl oedd yn gwybod yr atebion ond dim ond yn dechrau dysgu gofyn y cwestiynnau. Roeddwn hefyd yn mwynhau ac yn cytuno gyda’r feirniadaeth deg oedd yn cael ei gyflwyno’n aml o broblemau diwylliant Cristnogaeth gyfoes.
Roedd hyn i gyd yn gymorth mawr, tan ei fod yn peidio â bod.
Ymhen ychydig roedd y feirniadaeth deg yn troi’n chwerw. Ac nid oedd y daith o ddad-adeileddaeth ffydd yn arwain yn ôl at ffydd glasurol yn Iesu ond yn hytrach yn achos nifer o’r cydymaith (ond nid pob un) yn arwain at ryw fath o bantheistiaeth ar y gorau ac at nihilistiaeth ar y gwaethaf.
Rwy’n credu fod mentro ar daith o ddad-adeileddaeth ffydd yn bwysig i bawb sydd wedi etifeddu Cristnogaeth a hefyd pobl sydd efallai yn cario rhagfarnau am Gristnogaeth. Ond diben taith o ddad-adeileddaeth ffydd yw eich arwain yn ôl at ffydd newydd, ddyfnach a chyfoethocach o Iesu. O ddychwelyd at eiriau Pedr: “Arglwydd, at bwy awn ni? Mae beth rwyt ti’n ei ddweud yn arwain i fywyd tragwyddol. Dŷn ni wedi dod i gredu, a dŷn ni’n gwybod mai ti ydy Un Sanctaidd Duw.” (ad. 68-69)
AIL-ADEILADU FFYDD
Felly, sut i ail-adeiladu eich ffydd ar ôl bod trwy ddad-adeileddaeth? Wel, dydy jest dychwelyd at yr un system, dylanwadau a diwylliant Cristnogol ddim am dycio gan fod y gwersi a ddysgoch wrth ddad-adeiladu yn ddigon dilys ac wedi eich arwain at ffydd ansad yn y gorffennol. Rhaid darganfod tir newydd i blannu eich ffydd, ond rwy’n grediniol fod y tir newydd mewn gwirionedd i’w ganfod wrth droi’r hen feysydd eto ac ail-blannu yno drachefn – yn y ffydd glasurol a roddwyd unwaith i’r saint.
Amwn i mae’r cam cyntaf i mi oedd profi’r rhyddid i ddarllen a dehongli’r Beibl yn llenyddol ac nid yn llythrennol. Nid fy mod yn credu nad oes rhai rhannau o’r Beibl i’w darllen yn llythrennol, dim ond i ddweud na ddylem ddarllen y Beibl i gyd yn llythrennol. Rhaid darllen pob rhan o’r Beibl mewn ffordd sy’n llenyddol addas i’r rhan benodol hwnnw ohono.
Yn arwain ymlaen o hynny roedd datblygu dealltwriaeth newydd o’r Atgyfodiad a gweld cysylltiad hynny gyda’r addewid o nefoedd newydd a daear newydd. Yn flaenorol fy nealltwriaeth o’r gobaith Cristnogol oedd dim llawer mwy na “cael mynd i’r nefoedd ar ôl marw” oherwydd i chi gredu a dweud gweddi benodol “yn eich calon”. Trwy ddylanwad llyfrau Tom Wright, rwyf wedi symud o weld calon yr efengyl fel “dianc i’r nefoedd” i weld yr efengyl fel cynllun Duw i sefydlu Ei Deyrnas ac adfer popeth trwy ei farwolaeth a’i fuddugoliaeth ar y Groes a’i Atgyfodiad sy’n flaenffrwyth o’r ddaear a’r nefoedd newydd pan fydd popeth yn cael ei adfer. Ond beth am yr alwad bersonnol ar angen am ffydd ac ail-enedigaeth? Wel, mae’n deyrnas ac yn obaith sydd dal yn estyn gwahoddiad i ni ymateb yn bersonol iddo – mae yna wahoddiad i ni gyd-gyfrannogi fel cyd-etifeddion yng Nghrist.
Yn fwy diweddar, dan ddylanwad pobl fel Scot Mcknight a Brian Zahnd, dwi wedi dod i ail-werthfawrogi athrawiaethau clasurol y Drindod a hyd yn oed Athrawiaeth yr Iawn drwy ei ddeall fel un metaffor ymhlith nifer sydd yn y Beibl sy’n ein cynorthwyo i ddeall yr hyn a gyflawnwyd gan Iesu ar y Groes. Nid fy mod wedi mynd i wadu Athrawiaeth yr Iawn, ond yn hytrach fy mod yn credu ei fod yn un athrawiaeth ymhlith nifer sydd yn y Beibl gyda phob un yn ein cynorthwyo i weld y darlun llawn a chyfoethog.
PWYSIGRWYDD SIARAD AM EICH TAITH FFYDD
Pam fy mod yn siarad gymaint am fy nhaith yn gyhoeddus? Yn syml, oherwydd rwy’n synhwyro fod llawer o bobl ar daith debyg ac, yn anffodus, mae’r daith yn arwain llawer o bobl i ffwrdd o’r ffydd yn llwyr. Rwy’n rhannu fy stori i ddangos fod modd glanio yn ôl mewn ffydd sydd, efallai ychydig yn wahanol i’r ffydd oedd gyda chi ar ddechrau’r daith, ond ffydd sydd wedi ei wreiddio mewn Cristnoleg Gristnogol a gobaith am Deyrnas dragwyddol. Rwyf hefyd yn credu ei fod yn bwysig i mi rannu fy stori oherwydd rwy’n synhwyro fod eraill mewn gwewyr tebyg ond yn ofn rhannu am hyn gyda Christnogion eraill gan eu bod yn ofn yr adwaith ceidwadol – yn ofn yr ‘othering’ all ddigwydd.
CYNGOR I ARWEINWYR EGLWYS
Prin fod fy stori’n unigryw. Yn wir, mae’n dod yn fwyfwy cyffredin ac felly mae angen i arweinwyr eglwysig ddysgu sut mae ymateb yn hael a graslon i rai sydd ar daith debyg i fi. Dyma ddau awgrym:
1. Fel y dywedodd Jwdas, “Byddwch yn amyneddgar gyda’r rhai sy’n ansicr.” (Jwdas 1:22). Peidiwch ag ymateb i amheuon, cwestiynau na phryderon gyda beirniadaeth, ysbryd o ddiystyru, nag atebion bas. Byddwch yn amyneddgar gyda chwestiynau caled, a gweithio gyda’ch pobl i gael atebion ystyrlon a theg. Byddwch yn gyfforddus hefyd gyda’r realiti fod yna safbwyntiau dilys gwahanol yn bodoli ymhlith gwahanol Gristnogion, hyd yn oed o fewn un gynulleidfa leol.
2. Dysgwch gyfoeth y traddodiad Cristnogol nid dim ond eich traddodiad chi. Peidiwch â bodloni ar Gristnogaeth fas ystrydebol sy’n ddim byd mwy ‘na fersiwn Gristnogol o blatoniaeth neu fateroliaeth, neu’n waeth byth gyfuniad o’r ddau. Rhowch atebion cymhleth i gwestiynau cymhleth. Dangoswch sut mae Iesu yn cyfarch pob agwedd ar fywyd a chymdeithas gyda thosturi, cariad a gras.
Os na fydd yr eglwys yn rhoi gofod saff i bobl fynd ar daith o ddad-adeileddaeth ac ail-adeileddaeth ffydd – fel yr wyf fi wedi cael gwneud – yna bydd yr eglwys yn colli mwy o bobl. Yng Nghrist, mae gennym bopeth sydd ei angen arnom.