Yn ôl fy arfer fe es i ddyfroedd dyfnion bore ‘ma ar Twitter. Wnes i fynegi fy marn nad oedd un rhes hir o jôcs brwnt a hiwmor budur o’r rheidrwydd yn gwneud comedi dda. Y cyd-destun oedd fod un comedïwr Cymraeg wedi cyhuddo Peter Hughes Griffiths o siarad 100% “b****s”. Dyma fi’n llawn annoethineb yn ymateb drwy ddweud fod 100% o’i gomedi ef yn dibynnu ar regi neu brynti! Yn naturiol felly daeth rhai i’r casgliad mod i’n ochri gyda Peter Hughes Griffiths yn y ddadl purdeb ieithyddol ar Radio Cymru ac S4C. Dydw i ddim. Rydw i’n credu’n gryf y dylai Radio Cymru ac S4C fod yn wasanaethau uniaith Gymraeg ond tu hwnt i hynny dwi ddim yn credu fod purdeb ieithyddol o dragwyddol bwys. Mae cynnal safon iaith yn bwysig ond er mwyn parhad yr iaith fel cyfrwng dydd i ddydd, yn arbennig mewn diwylliant poblogaidd, mae’n rhaid arfer iaith lafar naturiol hefyd. Yn bersonol dwi’n gorfod gwneud ychydig o’r ddau beth. Gyda’r gwaith PhD ac ati dwi’n gorfod defnyddio Cymraeg safonol ond wedyn yn fy ngwaith dydd i ddydd fel Gweinidog yng Nghaernarfon dwi’n gorfod ystwytho fy Nghymraeg – aneffeithiol iawn fyddai fy ngweinidogaeth taswn ni’n siarad efo pobl Dre fel llyfr. “Euthum yn bopeth i bawb” fel y dywedodd yr Apostol Paul! Rhywbeth sy’n rhaid i Radio Cymru wneud.

Er na wnes i glywed Peter Hughes Griffiths ar Taro’r Post wythnos diwethaf dwi ar ddeall mae’r hyn wnaeth gythruddo’r rhan fwyaf o bobl oedd fod aelodau Cylch yr Iaith yn portreadu eu hunain fel y ‘gweddill ffyddlon’ a ‘cheidwaid y safon’ ac mae nhw, a nhw yn unig, oedd a’r hawl i nodi beth oedd y safon. Pwy oedd mewn, a pwy oedd mas. Pwy oedd yn dderbyniedig, a phwy oedd yn annerbyniol.

Wrth i’r drafodaeth ar Twitter ddatblygu cofiais fod llawer o’r drafodaeth yma yn debyg iawn i’r ddadl a ddigwyddodd rhwng R. Tudur Jones (testun fy PhD) ac arweinwyr Mudiad Adfer yn 1976. Ac nid cyd-ddigwyddiad yw hi wrth gwrs mae arweinwyr Adfer yn yr 1970au, yn fwy na heb, ydy arweinwyr Cylch yr Iaith heddiw. Cyhoeddodd Adfer lyfr gan Emyr Llywelyn o’r enw ‘Adfer a’r Fro Gymraeg’ yn 1976 ac fe gyhoeddodd Tudur Jones adolygiad ohoni, adolygiad oedd yn rhybuddio rhag rhai o beryglon Adfer ac efallai Cylch yr Iaith heddiw. Teitl yr adolygiad, yn dra ddadleuol, oedd ‘Cysgod Y Swastika’.

Yn yr adolygiad y mae Tudur Jones yn mynd ati i bortreadu ideoleg Adfer fel petai’n addasiad Cymreig o ideoleg Hitler a’r Natsïaid. Noda fod y gyfrol yn llawn adleisiau o athroniaethau tramor Comte, Hegel, Fichte, Schelling ac Alfred Rosenberg cyn mynd ymlaen i nodi i’r traddodiad athronyddol yma ‘gyrraedd ei bendraw erchyll yng ngormes y Drydedd Reich’. Canolbwynt beirniadaeth Tudur Jones oedd defnydd yr awdur o’r cysyniad o “eneidfaeth”. Cymdeithas y genedl, yn ôl yr awdur, ydy’r man lle llunnir ystyr a lle chanfyddir canllawiau i fywyd. ‘Cymru yw’r ysbryd yma a fu’n llifo drwy ddynion cyn fy mod,’ meddai. Dadleua Tudur Jones fod y syniad yma am eneidfaeth yn ‘allweddol bwysig’ i ddeall dadl Adfer oherwydd ‘trwy gymorth yr eneidfaeth y gellir gwahaniaethu Cymry ffug oddi wrth Gymry iawn.’

Mae Tudur Jones yn gweld methiant Adfer i ddiffinio ac esbonio beth yn union yw natur yr eneidfaeth yn wendid mawr oherwydd drwy drafod y cyfan yn amwys cyhudda arweinwyr Adfer o hunan-apwyntio eu hunain yn ddehonglwr yr eneidfaeth. ‘Mae’n eithriadol bwysig felly inni wybod,’ medd Tudur Jones, ‘o ba ddefnyddiau y gwnaethpwyd yr eneidfaeth. Ond ofer holi. Ni ddatgelir y gyfrinach. Emyr Llywelyn yn unig a ŵyr beth yn union ydyw. Mae’n rhy gyfriniol i’w fynegi mewn geiriau.’ Er enghraifft, pa fath ddiwylliant sy’n dderbyniol yn ôl safonau’r eneidfaeth? ‘Dim ond yr hyn sy’n gywir ac yn unol â’n traddodiad a’n hanes sydd yn dderbyniol yn y Fro Gymraeg’ medd Emyr Llywelyn.

Derbyniodd Tudur Jones gais gan Wasg Gomer yn 1981 i gyfieithu’r adolygiad i’w chynnwys mewn pecyn addysgol am hunaniaeth Gymreig, ond mynegodd elfen o siom gydag ef ei hun: ‘I am not sure’, meddai, ‘whether I am happy to see this old controversy revived. My two articles all but destroyed Emyr Llewelyn – and it certainly put paid to Adfer.’ Noda hefyd ei fod yn gresynu fod ei adolygiad wedi llesteirio ymgyrchoedd Adfer, rai ohonynt yr oedd ef mewn gwirionedd yn eu cefnogi. Meddai; ‘I regret now that I did not make it clearer at the time that many of the practical aims of Adfer were laudable enough and that what I objected to was the attempt to justify its actions by a pernicious philosophy.’

Mae hyn i gyd yn berthnasol i’r ddadl wythnos diwethaf am Cylch yr Iaith oherwydd mae Cylch yr Iaith, fel Adfer, yn amwys iawn ynglŷn a lle mae tynnu’r llinell. Beth sy’n dderbyniol? Beth sy’n annerbyniol? A pwy sydd i benderfynu hyn? Ond hefyd, mae poethder y ddadl wedi dallu’r ddwy ochr, fel a ddigwyddodd yn yr 1970au, i weld fod gan y ddau ochr bwyntiau digon teg.

Please follow and like us: