Yn ngolwg llawer Dr. Tudur Jones oedd pen-bandit yr “efengylwyr”, o ddefnyddio’r gair bron a bod fel rheg gan wrthwynebwyr y safbwynt, o fewn Annibynia; cymaint nes i Iorwerth Jones anelu ei feirniadaeth o’r Cylchgrawn Efengylaidd yn uniongyrchol at RTJ. ‘Nid oeddwn mor hapus – o bell – gyda chynnwys rhifyn diweddaraf y Cylchgrawn Efengylaidd,’ meddai Iorwerth Jones gan ychwanegu, ‘mae rhai ohonoch yn trio gwthio unffurfiaeth diwinyddiaeth geidwadol ar y wlad.’ Ni fu RTJ erioed yn fwy na chyfrannwr achlysurol i’r Cylchgrawn Efengylaidd fodd bynnag mae’r ffaith fod Iorwerth Jones fel rhyddfrydwr blaenllaw yn portreadu RTJ fel un o’r “efengylwyr” yn dangos i ni heddiw sut yr oedd pobl yn ei gweld hi ar y pryd. Maen amlwg fod RTJ, i’w wrthwynebwyr o leiaf, yn dangos ei ochr ac yn uniaethu’n gyhoeddus gyda’r efengylwyr a’r uniongredwyr diwinyddol. Rhannu pryder am Iorwerth Jones a wnaeth Noel Gibbard (un o arweinwyr y Mudiad Efengylaidd er yn Weinidog gyda’r Annibynwyr ar y pryd) gyda RTJ yn 1973. Adrodda Gibbard am hoffter Iorwerth Jones o ‘ymosod ar y Ffydd Efengylaidd’ yn y frawdoliaeth yn Llanelli, yn arbennig felly ei ymosodiadau ar RTJ a’i lyfr Yr Ysbryd Glan. ‘Nid gwahaniaeth barn ar bethau dibwys sy’n bod’ meddai Gibbard, ‘ond ar bethau hanfodol.’
Ond yn ôl at y Cylchgrawn Efengylaidd, yr hyn oedd yn peri maen tramgwydd i Iorwerth Jones oedd derbyniad llwyr efengylwyr o awdurdod yr Hen Destament. Dyna yn ei hanfod oedd achos cynnen fawr rhyngddo ac RTJ bron i ddeng mlynedd yn ddiweddarach yn 1976. Wedi i Iorwerth Jones gael ei ethol a’i benodi’n Ysgrifennydd Cyffredinol ar Undeb yr Annibynwyr Cymraeg fe ymosododd yn giaidd ar RTJ a’i gyd “ffwndamentalwyr” ar dudalennau’r Tyst. ‘Y Mae’n nodweddiadol o ddiwinyddiaeth ffwndamentalaidd y Prifathro’ meddai Iorwerth Jones ‘ei fod yn ymwrthod â ffrwyth ysgolheictod Beiblaidd er mwyn cynnal ei ddogma.’ Fe aeth Iorwerth Jones ymlaen i awgrymu y dylai unigolion a Gweinidogion oedd yn dal y safbwynt clasurol efengylaidd, fel RTJ, adael Undeb yr Annibynwyr. Mewn llythyr agored a wrthodwyd ei gyhoeddi gan Olygydd y Tyst ar y pryd, Maurice Loader, fe aeth RTJ i’r afael a Iorwerth Jones mewn modd yr un mor ddinistriol. ‘Iorwerth bach,’ meddai RTJ, ‘rhaid ichwi beidio â meddwl ein bod ni wrth eich ethol yn Ysgrifennydd yr Undeb, wedi’ch ethol hefyd yn Bab yr enwad.’ Nid oedd RTJ yn bwriadu gadael yr Annibynwyr ar unrhyw gyfri – dywedodd, ‘boed hysbys ichwi nad oes gennyf y bwriad lleiaf i adael yr Annibynnwr i’ch plesio chwi – hynny yw, os yw’r cyfeillion yn Eglwys Annibynnol Bangor yn fodlon fy ngoddef am ychydig yn rhagor!’
Mynnai Iorwerth Jones, fel llawer oedd yn dal y safbwynt rhyddfrydol ar y pryd, i gyferbynnu’r Hen Destament gyda dysgeidiaeth Iesu Grist, yn arbennig felly y Bregeth ar y Mynydd. Dywedodd Iorwerth mewn llythyr at RTJ flynyddoedd ynghynt y ‘gellir gwrthod derbyn, e.e. II Bren. X. etc. etc. etc. etc., fel Gair Duw, nid oherwydd ofn dynion na pharch i wyddoniaeth na hubris meddylion, gobeithio, ond oherwydd cred yn yr Arglwydd Iesu.’ Ffolineb oedd dealltwriaeth o’r fath yng ngolwg RTJ, meddai;
Wrth geisio dysgu gan yr Athro Mawr, ni allaf beidio â sylwi ar y lle a rydd yn ei ddysgeidiaeth i’r Hen Destament. Yr ydych chwi’n medru dweud, ar ei ben, ei fod yn y Bregeth ar y Mynydd yn “disodli” rhannau o’r Hen Destament. Ond dyna’n union beth nad yw’n ei wneud…
Yn ddieithriad mae Iesu Grist yn trafod yr Hen Destament gyda’r parch dyfnaf. Nid yw byth yn dweud dim condemniol na sarhaus am unrhyw ran ohono. Dyma lle’r ydwyf yn methu â sgwario eich safbwynt chwi â dysgeidiaeth Iesu.Â
Er i RTJ ddadlau ei safbwynt yn gref a chytbwys ar adegau maen debyg mae llithriadau megis: ‘Yr ydych am ei wneud yn un o erthyglau ffydd yr Annibynwyr fod yn rhaid iddynt gredu mewn Beibl annigonol’, ac; ‘…yr ydych wedi dangos, heb i mi ddweud dim, fod anoddefgarwch yn rhan o’ch credo’, wnaeth gymell Maurice Loader i wrthod cyhoeddi’r llythyr agored yn Y Tyst. Diddorol yw nodi i RTJ ysgrifennu mewn llaw fer ar ben y llythyr rai blynyddoedd wedyn wrth ei ffeilio; ‘Gwrthododd Maurice Loader, fel y golygydd ar y pryd, gyhoeddi hon – ac yn berffaith iawn, hefyd!’
Dengys y dadlau cyhoeddus rhwng RTJ a Iorwerth Jones mae RTJ oedd ceidwad deallusol y ffydd glasurol efengylaidd o fewn rhengoedd Annibynia ac Anghydffurfiaeth yn gyffredinol yn ei gyfnod. Gellid gwneud cymhariaeth yn y fan yma gyda safiad J.E. Daniel, cyn athro RTJ, dros y gwirioneddau diwygiedig genhedlaeth ynghynt.
Mae’r ymchwil yn parhau!
Dyma stori sy’n fy atgoffa o Marcion, diwinydd a gafodd ei frandio fel heretic gan Gristnogion yr ail ganrif. Credai Marcion na ddylai’r hen destament gael ei gynnwys yng nghanon y Beibl o gwbl oherwydd credai ei fod yn mynd yn groes i’r hyn a ddysgai’r Iesu ac epistolau Paul. Yn wir, dim ond rhannau o Luc ac epistolau Paul oedd yn ei ganon ef, ac roedd e hyd yn oed wedi tynnu mas bob cyfeiriad neu ddyfyniad o’r hen destament! Gan fod yr eglwys yn dewis llyfrau’r Ysgrythur wrth yr egwyddorion o ba lyfrau a ddarllenwyd ac a oedd fwyaf bendithiol iddynt fel disgyblion i Grist, yn ogystal wrth gwrs a pha rai oedd yn gydlynnus o ran athrawiaeth a phrofiad y Cristnogion cynnar. Cafodd ymgeision Marcion eu gwrthod, ond mae’n ddifyr mae diwinydd yn gallu dewis cynnwys a hepgor er mwyn hyrwyddo syniadau yr unigolyn hwnnw.
Fodd bynnag, credaf mai iach o beth yw i’r eglwys drafod a chwestiynu materion fel hyn, oherwydd canlyniad hynny yw cadarnhau ffydd yn ddeallusol ac fel profiad personol. Yr egwyddorion hyn a arweiniodd at bennu canon y Beibl gan yr egwys fore, nid dilyn mympwy unigolion yn unig – boed hwnnw’n ryddfrydwr Cristnogol fel Iorwerth Jones neu hyd yn oed, och a gwae, uniongrededd Tudur Jones!
Er gwaetha’r gwahaniaethau diwynyddol, mae gen i gof bod Dr Tudur yn arfer dweud y byddai cystal ganddo dreulio gyda’r nos yn sgwrsio â Iorwerth Jones â neb.