Dwi wedi gwneud digon o ddadlau dros y ffydd Gristnogol dros y blynyddoedd. Ond y broblem ydy fod hynny’n dod drosodd fel dadlau dros grefydd. Does neb mynd i ddod i ffydd yn Iesu Grist oherwydd eu bod nhw wedi colli dadl efo fi. Mae’n bwysig i fi a pob Cristion arall gofio hynny. Ffydd yn Iesu sy’n achub, nid colli dadl gyda Rhys Llwyd.
Yng Nghaersalem mae gennym ni un aelod tra hynod sef Denis Young. Mae Denis yn gymeriad a hanner. Dwi’n dysgu llawer gan Denis, ond mae’n siŵr mae’r peth pwysicaf dwi wedi dysgu ganddo hyd yma yw mai tystiolaethu ydym ni fel Cristnogion fod ei wneud nid dadlau. Mae yna wahaniaeth pwysig rhwng tystiolaethu a dadlau. Yn y bôn, tystiolaethu yw dweud eich stori. Rhannu am eich ffydd, nid dadlau dros eich crefydd, a gadael i bobl ddod i benderfyniad drostynt hwy eu hunain.Mae llawer o sôn yn y Beibl am Iesu, a hefyd Paul ar Apostolion yn “ymresymu” gydag anffyddwyr eu dydd. Ond mae “ymresymu” yn wahanol i ddadlau. Mae’n awgrymu fod yna ddialog. Ond nid fod dialog yn awgrymu cyfaddawd, dim ond fod mwy o sgwrs a thystiolaethu yn mynd ymlaen a llai o ddadlau pengaled. Dwi wedi gwneud tipyn o niwed i dystiolaeth y ffydd Gristnogol drwy ddadlau yn y gorffennol. Ymddiheuriadau i bawb dwi wedi brifo a plîs peidiwch â chymryd yn erbyn Iesu oherwydd pethau dwi wedi dweud.
Dwi’n gweddïo am fwy o ras i dystiolaethu. I wrando yn ogystal â phregethu gan gredu fod Ysbryd Duw yn gallu mynd drwy waliau dwi wedi bod yn dadlau’n aflwyddiannus a hwynt ers gormod o amser o lawer.
“Mae ateb caredig yn tawelu tymer;
ond dweud pethau cas yn gwylltio pobl.”
Diarhebion 15:1