Dros y ddeuddydd diwethaf mae sgwrs ddifyr wedi digwydd ar Twitter. Yn ddigon diniwed fi wnaeth ddechrau’r cyfan gyda’r neges yma:
Lluniau difyr iawn o'r Comet. Ond siawns fod meysydd gwyddonol eraill mwy teilwng o'n buddsoddiad? Ymchwil meddygol, ynni adnewyddadwy etc
— Rhys Llwyd (@rhysllwyd) November 12, 2014
Rhywsut fe ddehonglwyd y neges fel person o ffydd yn ymosod ar ymchwil gwyddonol. Fel person o ffydd rwy’n credu mewn gwyddoniaeth ac yn credu mewn ymchwil gwyddonol – roedd fy ngwestiwn yn ymwneud â blaenoriaethau o fewn byd ymchwil gwyddonol. Ar ôl i bobl ateb fy neges roeddwn i’n ddigon hapus fod y daith i’r Comet yn debygol o ddod a gwerth.
Ond rhywsut aeth y drafodaeth ymlaen a mynd yn ddadl fawr gwyddoniaeth Vs ffydd. Yn bersonol tydw i ddim yn meddwl fod yn rhaid i rywun ddewis rhwng gwyddoniaeth a ffydd. Fel sydd yn hysbys i bawb tydw i ddim yn wyddonydd, does gen i ddim meddwl gwyddonol ac fe wnes i’n drychunebus yn y pynciau yn yr ysgol. Ond, dydy hynny ddim i ddweud nad ydw i’n gwerthfawrogi pwysigrwydd a gwerth gwyddoniaeth, ddim o gwbwl. I mi mae’r gwyddonydd yn derbyn ei ddoniau gan Dduw, ac fel mae’r gwyddonydd o Gristion John Houghton (sy’n enwog am dynnu sylw’r byd am broblemau cynhesu byd eang) yn dweud yn aml, un o gyfrifoldebau’r gwyddonydd yw dod i ddeall a dygymod a creadigaeth Duw yn well.
Wrth i’r sgwrs nol a blaen ar twitter ddatblygu yr hyn ddaeth yn amlwg oedd fod pobol, eto, yn cam-ddeall fy safbwynt. Gan mod i’n Gristion “efengylaidd”, roedd pobol yn gwneud y camgymeriad o feddwl mod i felly yn Gristion “ffwndamentalaidd” o’r math a gwelir yn aml yn bytheirio ar y teledu.
Felly jest i glirio pethau i fyny dyma rannu tabl dwi wedi rhannu sawl tro o’r blaen yn dangos y gwahaniaethau rhwng fy nghristnogaeth ‘efengylaidd’ i a Christnogaeth ‘ffwndamentalaidd’ anffodus eraill.
Pan mae anffyddwyr yn mynd i’r afael a Christnogaeth yr opsiwn hawdd, diog efallai, ydy mynd i’r afael a’r boogeyman ffwndamentalaidd. Weithiau byddwn i’n hoffi petai anffyddwyr yn eu gadael nhw allan o’r sgwrs er mwyn i ni gael sgwrs gall go-iawn. Ond wedyn mae’n haws dadlau yn erbyn yr abswrd yn tydi?
Nid dy safbwynt di oeddwn i, ac eraill, yn ei ddadlau yn erbyn. Erbyn i’r sgwrs droi’n wyddoniaeth v ffydd oeddet ti wedi stopio cyfrannu.
Rhys, ti’n gor-gymhlethu petha braidd. Ffwndamentalwyr yw rywun sy’n gwadu y big bang, ac esblygiad, yn wyneb tystiolaeth, a sy’n deud fod holl ddigwyddiadau’r beibl yn wir.
Dim byd i’w neud a brwdfrydedd at ymchwil.
A hyd yn oed wedyn, dwi’n nabod sawl efengylydd sy’n hollol daer yn dilyn ochr chwith y tabl ‘na.
Os ti’n gwadu esblygiad, a deud fod y ddaear yn llai na 10,000 oed, ti’n ffwndamentalydd, dim bwys pa mor neis wyt ti am y peth.
Fel y dywed Ceribethlem rwyu’n credu mai penderfyniad trydarwr arall i ddod i mewn i’r drafodaeth gyda’r un ysgafnder a chraffter a Miley Cyrus ar gefn ‘wrecking ball’ a achosodd i’r drafodaeth fynd i lawr y trywydd yna. A dydw i ddim yn credu fod gan y rhan fwyaf o’r anffyddwyr diddordeb cymryd rhan wedyn.
Serch hynny rwyt ti wedi rhoi cic i nyth cacwn arall fan hyn! Rwy’n credu y gellid dadlau yn y bon bod safbwynt y ‘ffwndamentalydd’ yn fwy rhesymol na’r ‘efengylwr’. Hynny yw, rwy’n derbyn bod lle i ddehongli’r Beibl, ond mae llawer o’r hyn sydd wedi ei ysgrifennu ynddo mewn du a gwyn. Serch hynny, dewis yr efengylwr yw ‘dehongli ymaith’ y rhannau sydd bellach yn ei wneud yn anghyffyrddus, tra’n derbyn rhannau eraill verbatim. Gall wneud hynny, oherwydd drwy weddio (hynny yw, ymddiddan gyda’i hun, a gofyn ei farn ei hun) gall ddod i’r casgliad bod Duw (ei ymwybod ei hun) wedi dod i’r casgliad nad yw bellach am iddo ufuddhau i’r rhannau trafferthus o’r Beibl oherwydd nad yw Duw mor aywddus arnynt mwyach (hynny yw, bod yr unigolyn, dan ddylanwad y cymdeithas o’i amgylch, bellach yn anghyffyrddus a nhw).
Yn y bon, naill ai rwyt ti’n derbyn bod y Beibl yn air Duw, neu bod Duw hollbwerus wedi dewis cyfathrebu efo’r ddynoliaeth mewn ffordd mor aneffeithlon byddai unrhyw awdur werth ei halen yn gochel rhagddo, neu nad ydi o’n air Duw wedi’r cwbl. Ond os nad ydi o’n air Duw, pam rhoi unrhyw awdurdod iddo o gwbl? Yn enwedig gan bod moesoldeb y di-grefydd mewn cymdeithasau gwaraidd bellach wedi goddiweddyd moesoldeb gwersi’r Beibl.
Yr esboniad mwyaf tebygol ydywi bod y Beibl yr hyn y mae’n ymddangos, sef casgliad o chwedlau wedi eu hysgrifennu ymhell ar ol y digwyddiadau mae’n honni ei conodi. Mae hynny’n ei wneud yn gofnod hanesyddol diddorol, ond dylid cymryd yr elfennau goruwchnaturiol gyda’r un pinsied o halen a tase ti’n darllen y Mabinogi. Os ydi o’n air Duw, yna derbyn bob gair ohono, ‘warts and all’, os ydyn nhw’n cyd-fynd a moesau y diwylliant ehangach yr wyt ti’n byw ynddo ai peidio.
Fel arall y cyfan yw safbwynt yr ‘efengylwr’ fel y cofnodwyd uchod yw carreg sarn ar y ffordd i anffyddiaeth. Cyfaddawd ydyw rhwng y Beibl a’r hyn y mae si synhwyrau yn ei ddweud wrtho am y byd sydd o’i gwmpas.
Diolch am y sylwadau Ifan. Mae Efengylwyr YN credu fod y Beibl i gyd yn air Duw. Ond yn wahanol i ffwndamentalwyr rydym ni’n derbyn nad un llyfr yw’r Beibl ond yn hytrach casgliad o lyfrau yn cynnwys sawl genre llenyddol wahanol. Tydi pob llyfr a rhan o’r Beibl ddim i’w ddarllen yn lythrennol OND tydi hynny ddim i ddweud fod y rhannau a’r llyfrau yna ddim yn rhannu gwirionedd. Mae’r ddadl ynglŷn a pa mor llythrennol ydy Genesis 1 neu beidio ddim yn effeithio’r ddiwinyddiaeth a’r building blocks syniadaethol mae Genesis 1 yn gosod. Mae Cristnogion sy’n credu mewn esblygiad yn credu fod Genesis 1 YN dysgu mai Duw greodd y byd gan adael i’r gwyddonwyr wedyn esbonio sut. O ran y genres gwahanol wedyn, cymharer er enghraifft Y Salmau gyda Llythyrau Paul. Llyfr o farddoniaeth ydy’r Salmau ac fel llyfr o farddoniaeth y dylid ei ddarllen – fel pob bardd arall mae’r Salmydd yn defnyddio trosiadau ayyb… i ddisgrifio pethau, cyfleu gwirioneddau gyda delweddau nad sydd efallai yn llythrennol a hanesyddol wir. Ar y llaw arall mae Llythyrau Paul yn lythyrau i bobl go-iawn yn delio gyda sefyllfaoedd go-iawn (er, mae’n wir fod profiad y Salmydd hefyd yn dod allan o brofiadau go-iawn). Felly nid ‘esbonio i ffwrdd’ y Beibl mae efengylwr OND yn hytrach darllen y Beibl mor gywir a medrwn at y modd y dylid ei ddarllen. Enghraifft arall sydyn – pan mae Paul yn defnyddio’r gair ‘cyfiawnhad’/’justification’ mae’r arbennigwyr yn dweud mae cyfeirio at derm cyfreithiol penodol mae o nad sydd a chynsail iddo yn systemau cyfreithiol y Gorllewin ac felly does dim reference point call gyda ni ddeall y cysyniad. Y math yna o ymchwil dwi’n meddwl sy’n caniatau efengylwyr i ddeall y Beibl yn well rhagor na’i ‘esbonio i ffwrdd’ fel rwyt ti’n dweud.
Fel mae’r lleill wedi’i ddweud, doedd neb yn dy alw di’n ffwndamentalwr na’n dy drin felly. Roedd y sgwrs yn berffaith seciwlar a synhwyrol nes i Mike neidio mewn a dechrau mwydro am ei Feibl am ddim rheswm. Aeth pethau lawr allt yn ddifrifol wedyn, a doedd gan y ffraeo yna ddim byd i’w wneud â’th sylwadau di o gwbl.
Beth bynnag am hynny, dw i’n ddigon hapus i herio Cristnogaeth o bob lliw ar y sbectrwm yn ôl y galw!