Roedd yna lythyr diddorol tu hwnt gan Dafydd Iwan yn Golwg heddiw. Fel Cristion, a hwnnw’n Gristion sydd a diddordeb arbennig yn ymwneud Cristnogion a bywyd y genedl ar lefel gymdeithasol a gwleidyddol, roedd y llythyr yn chwa o awyr iach. Cefndir y llythyr oedd datganiad David Davies AS wythnos diwethaf na ddylai Barry Morgan, Archesgob Cymru, fod yn rhan o’r ddadl dros ddyfodol cyfansoddiadol Cymru ac y dylai fel arweinydd crefyddol gyfyngu ei weithgarwch a’i ddylanwad i’r cylch preifat ac eglwysig yn unig.
Dyma lythyr Dafydd Iwan:
Ar adeg pan yw stoc ein Haelodau Seneddol yn is nag ar unrhyw adeg o fewn cof oherwydd y camddefnydd o dreuliau seneddol, mae’n drist a dweud y lleiaf i weld un o’u plith, David Davies AS, yn lladd ar Archesgob Cymru am roi arweiniad cadarn ar fater pwerau deddfu i’r Cynulliad.
Ar adegau fel yma, mae gwir angen arweiniad arnom gan arweinwyr crefyddol, fel a ddangoswyd gan Desmond Tutu yn Ne’r Affrig, Dr Martin Luther King yng Ngogledd America a’r Archesgob Oscar Romero yn El Salvador, a nifer o’u bath drwy hanes. Gwleidydd llwfr sy’n condemnio arweinydd crefyddol am ddatgan barn groyw ar faterion o bwys, ac y mae a wnelo Cristnogaeth lawn gymaint a’r modd y trefnwn bethau yn y byd hwn ag y mae a wnelo a pharatoi ar gyfer y byd a ddaw.
Nid ymgyrchu dros unrhyw blaid wleidyddol y mae’r Archesgob, ond datgan yn glir ble mae’n sefyll ar fater o bwys fel hawl cynulliad cenedlaethol etholedig i gael pwerau deddfu llawn dros ei bobl. Rwy’n diolch i Dduw fod gennym yn y dyddiau dyrys hyn arweinwyr crefyddol o galibr y Dr Rowan Williams a’r Dr Barry Morgan.
Dafydd Iwan, Llywydd Plaid Cymru
Er nad ydw i’n cytuno gyda holl bwysleisiadau Rowan Williams a Barry Morgan maen rhaid i mi nodi mod i’n cytuno 100% gyda trywydd llythyr Dafydd Iwan. Yn un peth maen wych fod Dafydd Iwan yn siarad am Gristnogaeth fan yma yn hytrach na siarad am “grefydd” neu “ffydd” mewn rhyw ffordd niwlog sydd wedi dod yn nodweddiadol o arweinyddiaeth y Blaid yn y blynyddoedd diwethaf. Nid person “ysbrydol” ac nid person “crefyddol” ydy Dafydd Iwan, mae’n Gristion ac mae yna wahaniaeth pwysig rhwng ysbrydolrwydd a Christnogaeth. Hefyd dwi’n hoff iawn o’r frawddeg gan Dafydd sy’n dweud: ‘y mae a wnelo Cristnogaeth lawn gymaint a’r modd y trefnwn bethau yn y byd hwn ag y mae a wnelo a pharatoi ar gyfer y byd a ddaw.’ Maen swnio’n union fel brawddeg o enau Dr. Tudur Jones ac mae hefyd yn fy atgoffa o’r frawddeg wych am y Piwritaniaid: ‘Previous theologians had explained the world: for Puritans the point was to change it.’
Yn ysbryd llythyr Dafydd Iwan felly dyma fideo bach o fy hoff araith i gan Martin Luther-King, dwi wedi rhannu hi ar y blog o’r blaen ond dyma hi eto:
Diolch am rannu dy feddyliau ar y blog; rwy’n mwynhau eu darllen nhw. Dwi ddim yn siwr os wyt ti’n ymwybodol o hyn, ond mae ‘brawddeg wych’ R. Tudur Jones wedi’i seilio ar ddyfyniad enwog gan Karl Marx: ‘The philosophers have only interpreted the world in various ways; the point, however, is to change it’ (‘Theses on Feuerbach’, 1845, — diolch, Google!). Dyna yw tarddiad yr idiom, ta beth; dyw hyn ddim yn bychanu pwynt y dysgiedig ddoctor, wrth gwrs. Sori os oeddet ti’n gwybod hyn i gyd yn barod; mae’n anodd dweud o’r ffordd wyt ti’n ei ddyfynnu.