Heddiw ‘ma ro ni’n cyflwyno papur i fy nghyd fyfyrwyr ymchwil ac i ddarlithwyr yr Adran Ddiwinyddiaeth ym Mangor. Fe aeth y cyflwyniad ei hun yn iawn ond maen rhaid i mi gyfaddef mod i wedi teimlo allan o fy nyfnder pan daflodd pobl gwestiynau ata i ar y diwedd. Amwn i mae fy nghamgymeriad oedd uniaethu fy hun a safbwynt R. Tudur Jones yn y casgliad; maen anodd peidio ond maen wers i mi, amwn i, i gadw y perygl yma mewn cof wrth i mi weithio ar y thesis ei hun.
Un peth ddaeth yn glir i mi heddiw oedd fod angen i mi dreulio mwy o amser yn esbonio man cychwyn Tudur Jones – maen rhaid deall ei fan cychwyn er mwyn deall ei agwedd holistaidd at berthnasedd Arglwyddiaeth Crist i bob sffêr o fywyd gan gynnwys y genedl a gwleidyddiaeth. Wnes i ddim cyfiawnder yn esbonio hynny heddiw yn anffodus; mwy na thebyg oherwydd mod i’n rhannu dealltwriaeth Tudur Jones o Benarglwyddiaeth Crist. Mae angen i mi esbonio y syniadaeth yma yn gliriach er mwyn i’r ddadl gael ei ddeall dwi’n meddwl.
Er mwyn dianc a pheidio hel meddyliau fe es i allan ddiwedd prynhawn ar ôl y ddarlith i dynnu lluniau. Roeddwn ni wedi bod eisiau tynnu lluniau o bont Menai gyda’r hwyr ers tro. Fe es i allan heno ma ac mae’r lluniau yn ber iawn dwi’n meddwl. Dyma nhw:
Mwy o’r casgliad Pont Menai, 2 Mawrth 2009