Mae pawb wedi arfer clywed am yr hwn ar llall sy’n gwneud bara cartref ond dyma un newydd i chi – darllediadau gwleidyddol cartref. Dwi wedi bod yn ystyried y posibilrwydd ers rhai misoedd yn rhannol oherwydd poblogrwydd youtube fel gwefan ac hefyd fel ffordd o ymateb yn bositif i rai issues sydd gyda mi a rhai o’m ffrindiau gyda Phlaid Cymru ar hyn o bryd.

Wel dyma gyhoeddi y gyntaf. Nid darlleqdiad pro-Plaid Cymru na pro-annibyniaeth mo hon ond yn hytrach hysbyseb yn annog pobl i ddod i’r Rali Coleg Ffederal Cymraeg gan fy nghyfeillion yn UMCA. Mi wn nad ydyw’n oll broffesiynol OND mae o’r galon ac fe’i wnaed ar y laptop adref ar gyllideb o £0!! Gadewch mi wybod be dy chi’n feddwl:

Please follow and like us: