Un o’r pethau gret am yr iPhone ac un or pethau sy’n ei wneud mor wahanol i ffonau symudol eraill ar y farchnad yw’r gallu i’w blygio fewn i’ch cyfrifiadur ac islwytho diwedderiadau. Gyda pob ffon arall (ac eithrio’r Blackberry’s o bosib) rydych chi’n sownd gyda’r ffon fel y mae am flwyddyn a mwy. Os nad ydy eich ffon yn medru gwneud rhywbeth yna maen rhaid aros blwyddyn cyn cael ffon newydd sy’n gallu neud y dasg dan sylw. Ond mae’r iPhone yn wahanol oherwydd fod Apple yn gwella a dod a rhaglenni a gosodiadau newydd allan i’r iPhone yn barhaus. Wythnos yma fe rhyddhaodd Apple ddiweddariad 2.2.

Y ddau brif welliant gyrhaeddodd fy ffon gyda 2.2 wythnos yma oedd

(i.) y gallu i roi predictive text i ffwrdd yn llwyr. Tan wythnos yma roedd rhaid gwrthod pob awgrymiad yn unigol, a gan mod in sgwenu’n Gymraeg roedd awgrymiadau Saesneg parhaus yn boen. Roedd Apple yn hurt i beidio rhoi yr opsiwn yma mlaen or dechrau ond y pwynt ydy fod modd uwchraddio wrth ein bod ni’n mynd a bod dim rhaid i mi brynnu model newydd ymhen y flwyddyn i gymryd mantais or diweddariad yma fel y byddai rhaid gyda teclyn gan Nokia neu Sony Ericson.

(ii.) yr ail eitem yn y diweddariad dwi’n ei hoffi ydy’r gallu i islwytho podlediadau’n syth i’r ffon. Hyn yn gret os ydych chi i ffwrdd o’ch cyfrifiadur ac am islwytho sioeau yn barod ar gyfer taith hir adref ar y tren. Wedi dweud hynny maen siwr y bod islwytho sioeau hir dros rwydwaith O2 yn cymryd peth amser ac amynedd; ond dylai weithio mewn egwydor.

Unwaith eto mae’r iPhone wedi profi ei fod yn dal technoleg sydd flynyddoedd o flaen teclynau eraill y farchnad.

Please follow and like us: