Ydych chi wedi gweld ymateb sarhaus David Davis AS, Ceidwadwr, i’r LCO Iaith? Mae’n gwbl gwbl ofnadwy. Tybed a fyddai David yn cael get-awê gyda dweud pethau fel yma am fesur anableddau neu rhyw leiafrif arall? Dwi ddim yn meddwl.
Annwyl Mr Llwyd
Thank you for your email regarding the Welsh Language LCO.
I am personally against plans to create a new Welsh Language Act, which will include the right to require some private companies to employ Welsh speakers and translators.
We are facing the biggest recession for decades and the last thing we should do is impose a raft of expensive obligations onto companies in Wales or those thinking of coming to Wales. If we do then we could see them relocating across the border or not bothering to come here at all.
If companies wish to offer services in Welsh they should be free to do so but it should be a decision they make for themselves.
The reality is that not enough people speak Welsh fluently for a language scheme to make commercial sense in the private sector. Companies like BT, which offer a Welsh language scheme, say that the number of people using it is actually falling.
There is a statistic that 20 per cent of the population can speak the language but frankly it is bogus. The reality is that 20 per cent can say “Bore da” and count to ten but outside of Carmarthenshire, Anglesey and Gwynedd Welsh speakers are few and far between.
Instead of adopting expensive and tokenistic schemes which compel companies to offer Welsh, we should be doing more to ensure that people who choose to are given the opportunity to learn the language.
If given the green light, the LCO would be detrimental to my constituency for three reasons:
1) Firstly, it would discourage inward investment at a time when many, such as those working for Corus, have lost their jobs.
2) Secondly, the additional costs to utility companies will simply get passed onto customers who will end up paying higher bills.
3) Thirdly, it will discriminate against non-Welsh speakers who will find it harder to get jobs with the companies affected.
The overall effect will be to turn people away from the Welsh language instead of creating the positive attitude towards it which it needs to flourish.
I also shall not hesitate to point out that unlike many of those demanding this measure, I actually speak Welsh with enough fluency to appear on the radio and television on a regular basis. Those who wish to force the language onto private companies would do well to set an example by learning it themselves first.
Finally, a number of people have written to me calling for the LCO to be decided in Cardiff Bay and not in Westminster. My view is that Welsh Members of Parliament have all been elected first past the post by Welsh constituents, usually on a higher turnout than Welsh Assembly Members receive.
The Government of Wales Act makes it clear that responsibility rests with MPs and unless the Welsh Assembly Government holds a referendum, MPs have the legal and moral right to amend or throw out LCOs as and when they feel there is a purpose to do so.
I hope this helps to clarify my position.
Yn gywir
David T C Davies MP
Member for Monmouth
Dwi’n gweld yr ymateb hwn yn gwbl resymol Mr Llwyd. Mae nifer y Cymry Cymraeg sy’n gofyn am wasanaethau Cymraeg gan lywodraeth leol a chenedlaethol, swyddfeydd trethi, etc etc mor eithriadol o fach, fel mae’n anodd iawn cyfiawnhau parhau’r gwasanaeth o gwbl. Mae David Davies, sydd wedi dysgu Cymraeg yn dda, yn berffaith iawn, mai’r hyn sydd ei angen yw sicrhau mwy o ddysgwyr a’u cael i siarad yr iaith. Mae llawer gormod o arian yn cael ei wastraffu ar bethau cwbl diangen fel adroddiadau dwyieithog y Cynulliad nad oes NEB yn eu darllen – nac yn eu deall, o ran hynny. Gresyn ar yr un pryd, i Mr Davies ateb eich e-bost yn Saesneg!
Nid yw’n deg o gwbl ychwaith i chi gymharu hyn a deddfau enabledd na lleiafrifoedd eraill.
Gallwn gael llond gwlad o arwyddion dwyieithog a ffurflenni swyddogol o bob math, a gwasanaethau Cymraeg i bawb – ond i beth – os yw niferoedd siaradwyr Cymraeg yn disgyn o flwyddyn i flwyddyn? Efallai bod ystadegau cyfrifiadau yn dangos bod yna gynnydd yn niferoedd y Cymry Cymraeg – ond i ba ddiben os nad yw’r diawliaid yn ei siarad hi!
Ychbydig iawn o barch yr ydch chi eich hun yn dangos at y Gymraeg o ran hynny os ydych yn defnyddio bratiaith fel ‘get-awê. Gwarthus, a chithau’n fyfyriwr ymchwil PhD, fel y byddwch yn mynnu ein hatgoffa’n barhaus.
A oes wir modd disgwyl mwy gan David Davies? Dyma ddyn, wedi’r cyfan, sy’n dangos tro ar ôl tro nad oes ganddo’r syniad lleiaf am y wlad y mae’n byw ynddi na’i phobl y tu allan i’w gornel fach ei hun – heb sôn am arddel y fath o wleidyddiaeth asgell-dde sy’n wrthun i fwyafrif helaeth y Cymry.
Ofnadwy? Ydi. Sarhaus? Ydi. Annisgwyl? Yn anffodus, y gwrthwyneb!
Annwyl Caradr,
Mae eich neges, mewn ffordd, yn ategu fy mhwynt. Rydych chi’n cyfeirio at gyfieuthu adroddiadau yn y Cynulliad does neb yn eu darllen – rydym ni’n galw am wasanaethau Cymraeg yn y sector breifat y bydd pobl yn dod ar eu traws yn ddyddiol! Mae eich hagwedd hefyd tuag at fy iaith a’r defnydd o’r ymadrodd ‘get awê’, yn nodweddiadol hefyd, i chi iaith academia, iaith PhD, ydy’r Gymraeg nid iaith naturiol dydd i ddydd.
Nid ydw i’n tybio y bydd hawliau sifil ym mhob sffer i siaradwyr Cymraeg yn ateb i’r broblem i gyd ond mi fyddai’n gam yn nes tuag at normaleiddio’r iaith.
Wn i ddim, efallai mae’r ateb yw i ni gyd fynd i weithio i’r Llyfyrgell Gen fel y chi; mi fydd yr iaith wedyn yn “saff” o fewn twr ifori hyd yn oed os na fydd yn berthnasol!
Rhys
Dwi’n cymryd y byddi’n rhyddhau’r llythyr i’r wasg?! Be fydd gan y degau o filoedd o siaradwyr Cymraeg y tu allan i’r fro i ddweud am ei sylwadau tybed?
Wrth gwrs, does dim disgwyl dim byd gwell ganddo.
Ond i ba raddau mae’r iaith yn dod yn bwnc fydd yn creu rhwygiadau go ddwfn yng Nghymru? Mae rhai aelodau Llafur yn eithaf cas ar hyn o bryd. Oes patrwm fan hyn?
Derbyniais i yr un llythyr wythnos diwethaf, gyda’r enwau wedi eu newid wrth gwrs, wedi i mi yrru e-bost. Amlwg nad oes ganddo amser i ateb gyda dadleuon call felly mae’n ailgylchu’r un sbwriel.
Rhydian Fôn
Mae ateb David Davies ddim yn annisgwyl fel llawer o toriaid eraill fel David Jones agyb.
Mae atlas newydd UNESCO, corff addysg y Cenhedloedd Unedig, wedi nodi bod angen mwy o help ar y Gymraeg fel y gall oroesi yn y ganrif hon. Atlas digidol ieithoedd y byd mewn perygl, gafodd ei gyhoeddi’r wythnos hon, sydd wedi dweud bod yr iaith yn “anniogel”. Mae’r Cynulliad yn symud yn y cyfeiriad iawn a mae hynny yn adlewyrchu ewyllys da pobol Cymraeg a di-Gymraeg. Mi ddylwn ni gallu trafod a llunio deddfwriaeth yn yr Cynulliad am y ffordd orau ymlaen yn aeddfed a rhesymol a dim i droi yr iaith yn dadl wleidyddol. Mae agwedd draws bleidiol ar y iaith, ers 1980’au, wedi bod hanfodol i thyfiant yr iaith.
Mae rhai yn honni fysa fwy o deddfu iaith yn atal busnes yng Nghymru. Edrychwch ar yr tystiolaeth ar hyd a lled Ewrop, edrychwch ar Sbaen a lle mae’r ardaloedd fwyaf llwyddiannus yn economaidd ymhlith cymunedau ieithoedd llai, sef Catalonia a gwlad y Basg. Be sy gan rheini? Deddfa iaith llym, llymach o lawer na yng Nghymru. Ond ydi nhw llwyddiannus oherwydd y deddfau yna? Nag ydyn, ond dy nhw ddim yn methu oherwydd y deddfau hynny.
Os mae rhai yn dweud fod fwy o deddfu yn eithrio rhai sydd ddim yn ddwyieithog, dyna pam bod plant i fyny tan 14 yn gorfod dysgu y ddwy iaith. Mae’r gofyn am addysg cyfrwng Cymraeg yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, felly mae rhaid ehangu a gwella addysg dwyieithog go iawn felly bydd pob plentyn yn gadael ysgol yn rhugl yn y dwy iaith. Mae’r ffaith bod 40% o blant dan 16 yn rhugl yn yr dwy iaith yn dangos llwyddiant sydd yna.
Sôn ydan ni am hawliau pobol. A beth bynnag yw eich dewis chi, os ydych chi eisiau wneud y peth yn Saesneg a chroeso gewch chi wneud o’n Saesneg. Ond os mae rwy’n eisiau wneud rhywbeth tro gyfrwng y Gymraeg yn gorfod gofyn o hyd, neu mae rwy’n ansicr pwy i ofyn, felly be mae’r deddf yn trio sicrhau fod cyrff cenedlaethol ag ambell i rhan o’r rhan o’r sector preifat fod hwnnw ar gael i ni os ydyn ni dymuno cael yr gwasanaeth. Dwi ddim yn sôn am rhyw ffurflenni mawr a chymhleth, ond allwch chi fynd yno a holi a sgwrsio hefo rwy’n yn Gymraeg. Cwmnïau mawr sydd yn cynnig gwasanaeth i’r cyhoedd, a mae hynny wedi cael ei ddeffinio a’i dderbyn ers 1993. Neu derbyn arian sylweddol gan yr trethdalwyr yna mae yna ofyniad arnyn nhw i ddelio hefo’r cwsmeriaid yn ei dewis iaith.
Mae yna lot o bethau ymarferol hefyd all yw wneud fel cael rhifau ffon yr gwasanaethu iaith Gymraeg i fod yn glir ag yn hwylus i’w cael. Achos os mae o’n arawahan i’r rhif Saesneg fydd hi’n anodd i bobol gofio nhw. Hen dadl ydi peidiwch a gwario ar dim byd ar y diwylliant Cymraeg mae gen ni ysbyty i godi. Da ni wedi clywed am hynny degawdau yn ôl a da ni wedi dod dros hynny, da ni wlad fwy aeddfed erbyn nawr. Ddylai bachu ar hwn a gweld y peth fel rhywbeth cadarnhaol a blaengar unlle rhywbeth negyddol. Mae’r iaith Gymraeg a’i hadfywiad parhaol yn destun balchder i bawb yng Nghymru, dim ots os ydynt yn medru’r iaith ai peidio. Mae’r ffaith y bydd pwerau deddfu dros yr iaith yn dod i Gymru yn gam pwysig arall a charreg filltir arall yn adfywiad yr iaith. Rwy’n obeithiol y bydd y Gymraeg, fel iaith fyw a siaredir yn eang, yno i’w chofleidio’n falch gan genhedloedd o Gymry’r dyfodol o ganlyniad i’r deddfu hyn ac ymdrechion pobl Cymru
Mae’r ddadl nad yw siaradwyr Cymraeg ddim yn defnyddio’r cyfleodd prin yn un deiniadol dros ben, ond does neb yn meddwl (neu eisiau meddwl) pam mae hyn.
Mae David Davies yn dweud:
“Companies like BT, which offer a Welsh language scheme, say that the number of people using it is actually falling.”
Dyma enghraifft perffaith. Dw i’n un (o’r rhai prin mae’n debyg), sy’n dewis derbyn biliau Cymraeg. Mae BT byth a hefyd yn gofyn i mi a hoffwn i dderbyn bil elecroneg, ble gallaf arben arian a’r amgylchedd. Ond damia, chai mohon’n Gymraeg webyn. Grrrr.