Fe aeth y blog yn dawel.
Fe ddeffrodd y blog.
Nol ym Mhantycelyn bellach – y tymor olaf – teimladau cymysg. Dwi’n berson sy wastad yn barod i symud ymlaen rhy gynnar. Pan o ni’n neud Lefel A mi o ni ishe bod yn fyfyriwr cyn fy amser – a nawr cyn i fi raddio dwi ishe neud y peth nesa – ymchwil gobeithio. Ond maen bosib na cha fi fy ngradd fel ma pethe’n sefyll ar hyn o bryd. Mae’r darlithwyr yn gwrthod marcio gwaith hyd nes y bydd UCEA yn cytuno i roi codiad cyflog – achos teilwng a dwi’n cefnogi’r darlithwyr sy’n sicr ddim yn cael digon o dal.
Ond mae oblygiadau hyn i fy ngradd chydig bach yn anffodus. Fel mae hi ar hyn o bryd caiff fy ngradd ei dyfarnu ar fy marciau hyd yma – sef 2.1 – ond o weithio yn arbennig o galed tymor yma mae ychydig o bosibilrwydd i mi gael dosbarth cyntaf. Mae’r streic felly yn nadu’r ychydig bosibilrwydd hwnnw.
Be arall sy di digwydd dudwch? Ma gan Kenavo wefan ar myspace bellach; MP3 a bob dim (www.myspace.com/kerddoriaethkenavo). Da ni’n recordio Bandit dydd Sadwrn hefyd, can newydd da ni’n exited iawn amdano. Gobeithio cael caneuon newydd eto cyn yr ha.
Dwi di gorffen fy nhraethawd hir ar syniadaeth R. Tudur Jones hefyd – os oes gan rywyn ddiddordeb yn y pwnc gadewch neges. Gwaith – wel gobeithio cychwyn gweithio i’r BYD eto yn fuan. Dwi hefyd yn mynd i Romania mis Mehefin – mwy am hyn eto. Nos da.
Are you stuck in a job that is leading you on the path to no where?
We can help you obtain a College Degree with classes, books, and exams
Get a Genuine College Degree in 2 Weeks!
Well now you can get them!
Call this number now 24 hours a day 7 days a week (413) 208-3069
Get these Degrees NOW!!!
BA, BSc, MA, MSc, MBA, PHD,
Within 2 weeks!
No Study Required!
100% Verifiable
Call this number now 24 hours a day 7 days a week (413) 208-3069
These are real, genuine, They are verifiable and student records and
transcripts are also available. This little known secret has been
kept quiet for years. The opportunity exists due to a legal loophole
allowing some established colleges to award degrees at their discretion.
With all of the attention that this news has been generating, I wouldn’t
be surprised to see this loophole closed very soon
Get yours now, you will thank me later
Call this number now (413) 208-3069
We accept calls 24 hours a day 7 days a week.
Rwy’n amau rywsyt nad yw mandybencon00669036 yn bodoli mewn gwirionedd ac mai darn o sbam yw’r sylwad a ychwanegwyd i’r erthygl hwn. Mae ychydig o ymchwil ar chwilotwr* Blogspot yn cadarnhau fod nifer o flogwyr wedi derbyn sbam-sylwadau tebyg.
Os mai felly y mae hi, dyma yw un o’r cyd-ddigwyddiadau mwyaf doniol i fi ddod ar ei draws ers amser hir iawn. Mae’n amlwg mai ffawd yw hyn Rhys, felly cer amdani: BA mewn pythefnos, a siwr o fod yr MA am hanner pris. Dyna arbed gorfod ceisio am grant i dy gynnal drwy flwyddyn ym Mangor a sicrhau’r dosbarth cyntaf mewn un cam syml. Diolch fyth fod y farchnad rydd yn camu i mewn pan fo dy ddarlithwyr yn dy adael i lawr. God bless America.
*Beth yw’r term cymraeg safonol am “Serach Engine� Oes un? Atebion ar garden bost os gwelwch yn dda.
hia Dafydd,
Ie dyma’r farchnad rydd ar ei gorau.
serch engine yn gymraeg = chwilotwr dwin meddwl.
Rhys