Yn ei ddarlith heddiw dadleuodd Simon Brooks y dylai Cymdeithas yr Iaith ymwrthod yn derfynol gyda’r mathau mwyaf difrifol o anufudd-dod sifil. Mae’n dadlau hyn gan mai Cymry ac nid Saeson sydd a chyfrifoldeb bellach dros y rhan helaethaf o bolisïau yn ymwneud a’r Gymraeg. Mae Simon yn gywir i nodi’r ffaith yma ond rwy’n anghytuno’n llwyr ag ef na ddylid dal llywodraeth Cymru yn atebol a’u herio gyda’r math mwyaf difrifol o anufudd-dod sifil os yw’r amgylchiadau yn mynnu hynny. Ydy Simon, er enghraifft, yn meddwl bod yna rhyw enaid uwch gyda’r Cymry sy’n peri i ni allu gwneud penderfyniadau moesegol ‘uwch’ na’r Saeson? Ymha ffordd sylfaenol y mae democratiaeth Gymreig yn wahanol i ddemocratiaeth Seisnig? Onid y realiti yw y bod Cymry Cymraeg yn leiafrif o fewn democratiaeth Gymraeg yn yr un ffordd ag yr oedd Cymru yn leiafrif mewn democratiaeth Brydeinig? Hyd yn oed os yw’r consensws gwleidyddol presennol o blaid y Gymraeg (ac rwy’n amheus o hynny) sut y medr Simon ddweud fel dewin na fydd y sefyllfa yn newid yn y dyfodol? Ac yn olaf, onid gelyn pennaf y Gymraeg yw materoliaeth ac mae hwnnw a gafael yr un mor dyn ar wleidyddiaeth Gymreig ag yr oedd ganddo ar wleidyddiaeth Brydeinig?

Fy ngobaith i, yn sicr, ydy y bydd llywodraeth Gymreig yn fwy cefnogol i’r Gymraeg na llywodraeth Seisnig ond dydy hynny ddim yn dilyn bob tro. Dydy’r ffaith fod gyda ni ddemocratiaeth Gymreig nawr ddim yn golygu fod ein democratiaeth bellach yn naturiol gyfiawn. Nid ydw i’n mesur pa mor gyfiawn yw llywodraeth yn ôl lleoliad daearyddol ei siambr nac chwaith etholfraint y sawl a bleidleisiodd drosti. Mae’n rhaid credu fod cyfiawnder amgenach na’r cyfiawnder sy’n tyfu’n hanesyddol o draddodiad cenedl. Er enghraifft, os traddodiad cenedl yw dienyddio pawb sy’n cyrraedd ei ben-blwydd yn bedwar ugain oed, ofer cwyno? Wrth gwrs ddim! Dydy cael llywodraeth gynhenid yn pasio deddfau gynhenid ddim yn golygu fod cyfiawnder yn dilyn yn anorfod.

Fel Cristion dydw i ddim yn credu fod deddfau dynion yn absoliwt. Rhaid eu sgrwtineiddio yng ngolau deddf uwch. Os mai awgrym Simon yw fod herio llywodraeth Cymru yn yr un ffordd a heriwyd llywodraeth Loegr (a defnyddio’r run tactegau os yn briodol) yn annilys yna mae’n gosod cynsail beryglus iawn. Ni ddylem ni fel Cymry fod mor falch i dybio fod beth bynnag a wnawn yn well na beth a wnaed yn Llundain – os rhywbeth mae angen sgrwtineiddio manylach ac – os cyfyd y sefyllfa – brotest hyd yn oed gadarnach.

Efallai dylwn ddweud fel gair clo mod i’n cytuno gyda galwad Simon am weld mudiad newydd yn codi sy’n canolbwyntio’n llwyr ar lobïo. Mae Cymdeithas yr Iaith yn gwneud gwaith lobïo pwysig – celwydd mawr yr wythnos yw fod Cymdeithas yr Iaith yn aneffeithiol fel lobïwyr. Cyn i Menna Machreth a fi sgwennu Coleg Ffederal Cymraeg – Cynllun Gweithredu dim ond slogan gan Blaid Cymru a’r Blaid Lafur oedd y polisi. Dyna pam ges i fod ar bwyllgor HEFCW wrth fynd ati i roi polisi’r llywodraeth ar waith a gweld y Coleg Cymraeg yn y diwedd yn cael ei sefydlu. Fe ŵyr pawb, gan gynnwys Richard Wyn Jones ei hun, pa mor gwbwl greiddiol oedd rôl aelodau Cymdeithas yr Iaith wrth gael y maen i’r wal gyda’r ymgyrch yma. Dyna’r ymgyrch bues i ynghlwm a hi ond mae sawl enghraifft arall. Ond, mae lle i fudiad ganolbwyntio ar lobïo’n unig dwi’n meddwl. Pob hwyl i Richard Wyn Jones, Simon Brooks a phwy bynnag fydd ynghlwm a’r fenter; ond gweithredu tu allan i’r system sy’n gorwedd mwyaf esmwyth ar fy nghydwybod i.

Please follow and like us: