Roedd Dennis yn enwog am ei ddawn artistig, yn gyntaf fel signwritter ac yna fel artist tattoo. Ni fydd yn syndod i chi glywed mod i ddim yn wybodus iawn am datŵs, ond fe ges i fy nghyflwyno i’r stiwdio rownd y cefn yn y garej pan ddois yn Weinidog yn gyntaf i Lanllyfni.
Byddai Dennis wedi mwynhau clywed am y Saeson gor-hyderus a benderfynodd gael “England: Euro Champions 2024” wedi’i datŵio ar eu breichiau yn Berlin dros y penwythnos, dim ond i weld Sbaen yn codi’r tlws!
Roedd Cymru a’r Gymraeg yn bwysig iddo, a hynny mewn ffordd ddi-gyfaddawd ar adegau. Nid yn unig y byddwn i’n cael cerydd ganddo am ddefnyddio cyfieithiad modern o’r Beibl, ond hefyd am ddefnyddio gormod o eiriau benthyg Saesneg weithiau yn fy mhregethau.
Ond yn ôl at y tatŵs. Mae rhywbeth parhaol am datŵs a dyna pam y bydd pobl yn aml yn ceisio anfarwoli’r hyn sy’n bwysig iddynt gyda thatŵs. O Ddraig Goch, i enw eu cyntaf-anedig, o logo eu tîm pêl-droed i lun o’u nain ar ran o’r corff nad sy’n gweld llawer o olau dydd. Cafodd Dennis bob math o geisiadau rhyfedd dros y blynyddoedd.
Mae’r awydd i anforwoli pethau a phobl mewn byd sydd i weld yn llithro rhwng ein bysedd yn un cryf. Tybed a yw’r hiraeth a;r ysfa hwn i anfarwoli pethau a phobl yn dod o’r hyn y mae Llyfr y Pregethwr yn sôn amdano fod “tragwyddoldeb yng nghalonnau pobl” (Pregethwr 3.11)
Dydw i ddim yn siŵr os oedd Dennis yn gweld ei waith fel arlunydd arwyddion ac artist tatŵ fel galwedigaeth, heb sôn am alwad Gristnogol, ond gwir y dywedwyd y gair fod llun yn dweud mwy na mil o eiriau. Efallai y gall natur barhaol tatŵ syml ein helpu i feddwl am realiti’r tragwyddol – ein helpu i ganolbwyntio ar yr hyn sy’n para am byth.
Fel Cristnogion gallwn edrych tuag at dragwyddoldeb gyda hyder tawel oherwydd yr addewid sydd yn y Gair, sef y bydd Crist ei hun yno yn sychu pob deigryn.
Dwi’n cofio galw i weld Dennis rai blynyddoedd yn ôl, a fel yda ni Weinidogion yn trio troi y sgwrs i gyfeiriad pethau ysbrydol dyma fi’n holi Dennis, o weld bod parhau i ddod i addoli bob dydd Sul yn cymryd ymdrech fawr iddo, “Ma’n rhaid fod yr emynau yma, a dod i’r capel yn fwy na dim ond cadw arfer a chadw traddodiad i chi?”
A dyma fe’n ateb yn dawel a syml ar ôl pendroni ryw ychydig: “Ydy, amwn i.” A dyna ffordd Dennis, mewn ychydig eiriau ac mewn ffordd gwbwl nodweddiadol Gymreig, o gyhoeddi ei gyffes ffydd i’r byd.
Roedd yn fraint cael adnabod Dennis, Cymro a Christion, dyn difyr ac annwyl.

