Prif gryfder ffilmio gyda DSLRs, fel y Canon 7D, ydy’r manylder wrth saethu gyda depth of field bâs ac/neu mewn golau isel. Mae hyn yn amlwg iawn yn y siots sydd 4.24 i mewn yn fy ffilm Brwydr Caerdegog; saethwyd y siots yna yn defnyddio apeture o f/1.4 yn unig. Ond un o wendidau’r DSLRs wrth saethu ffilm ydy fod llawer o fanylder yn cael ei golli wrth saethu gyda depth of field dwfn – e.e. siots lydan o dirwedd ac yn y blaen. O’i gymharu a’r stwff rhagorol a geir wrth saethu a depth of field bâs, mae’r deunydd sy’n cael ei saethu yn ddwfn yn siomedig braidd a’r deunydd yn “mucky” iawn.
Es am dro heddiw i Borth Nobla ger Aberffraw ar Ynys Môn i arbrofi gyda saethu a depth of field dwfn. Fy lens llydan yw’r Canon 17-40mm f/4.0 L USM. Wele isod fontage o’r hyn wnes i ei ffilmio heddiw:
Fel y gwelwch chi mae’r deunydd yn siomedig braidd o’i gymharu a stwff eraill – e.e. cyfweliadau – dwi wedi ei gael allan o’r Canon 7D. Roedd y stwff yn dod allan o’r camera yn ddiflas iawn ac roedd angen ei drin. Dyma’r gosodiadau wnes i ddefnyddio yn Final Cut X i fywiogi’r llun:
Ond wrth ei drin roedd y llun yn dirywio mewn rhai mannau. Roedd angen miniogi’r llun a bywiogi’r lliwiau ond mae’n ymddangos fod hynny wedi peri i rhyw fath o effaith pixelated ymddangos o amgylch manylder y cymylau a’r brwyni. Dyma drio dangos y gwahaniaeth rhwng y ffilm ddaeth yn awrwd oddi ar y camera a’r deunydd wedi ei drin yn Final Cut X:
Mae’n ymddangos ei bod hi’n dipyn o gamp cydio ffilm a depth of field ddofn ar y Canon 7D i gymharu a’r stwff a depth of field bâs trawiadol. Rhaid i mi arbrofi mwy.