lost1
Fy hoff raglen deledu i erioed ac o filltiroedd ydy LOST, rhaglen gan ABC yn yr UDA sy’n cael ei ddangos yn y wlad yma ar Sky 1 ac ar y wê dros iTunes a gwasanaethau tebyg. Wythnos yma mae’r gyfres olaf un yn cychwyn ac mae yna ddisgwyl eiddgar gan fod yna lawer o bethau, wedi pum cyfres, dal heb gael eu hateb. Mae’r rhaglen yn gyfuniad unigryw o antur, gwyddonias, ffantasi a drama. I ddarllen mewn i fwy o fanylder cliciwch ar y dolenni sydd yng nghorff y post o hyn ymlaen fydd yn eich arwain i wybodaeth berthnasol ar Lostpedia.

RHYBUDD SBWYLIWR!

Mae gweddill y cofnod wedi ei anelu at bobl sydd eisioes wedi gweld cyfresi 1-5 neu sydd am gael gwybod beth sy’n digwydd yng nghyfresi 1-5 er mwyn dechau gwylio cyfres 6 yn syth.

Y plot ydy fod awyren wedi cael damwain a glanio ar Ynys bellennig, yn fuan iawn daw i’r amlwg mae nid Ynys arferol mohoni ac fod yna bethau rhyfedd amdani. Mae gan yr Ynys bwerau goruwchnaturiol sy’n iachau pobl. Fe ddaw goroeswyr y ddamwain ar draws hen ganolfannau ac arbrofion y DHARMA Initiative, grŵp o ymchwilwyr gwyddonol fu’n gwneud arbrofion ar electro-fagnetedd ar yr Ynys yn yr 1970au. Daw’n amlwg yn fuan iawn hefyd nad yw’r goroeswyr ar eu pennau eu hunain ar yr Ynys ac fr ddoent ar draws The Others sef brodorion di-groesawgar yr Ynys.

Yn fras, y mae’r gyfres gyntaf yn olrhain hanes y goroeswyr yn sefydlu eu hunain ar yr Ynys. Mae’r ail gyfres wedyn yn olrhain darganfyddiad y goroeswyr o’r Hatch, un o ganolfannau’r DHARMA. Mae’r drydedd gyfres yn olrhain y frwydr rhwng y goroeswyr ar brodorion. Tua diwedd y drydedd gyfres mae yna gwch yn cyrraedd yr Ynys ac mae’r goroeswyr yn meddwl, o’r diwedd, fod modd iddyn nhw gael eu hachub. Ond mae rhai o’r goroeswyr yn amau cymhellion y tîm achub – mae rhai yn dilyn Jack ac yn gadael yr Ynys ond mae rhai sy’n amheus yn dilyn Lock ac yn aros.

Lock oedd yn gywir gan mae dod i gipio arweinydd yr Others, Ben, y gwnaeth y llong. Gŵr o’r enw Charles Widmore anfonodd y llong, dyn oedd arfer bod yn un o’r Others ond adawodd i’r tir mawr ac yn awr maen ceisio dychwelyd er mwyn ecsbloetio’r Ynys a’i hadnoddau a’u phwerau goruwchnaturiol. I warchod yr Ynys rhag Widmore mae Ben yn cyhoeddi ar ddiwedd cyfres pedwar “We need to move the Island.” Symud yr Ynys?! Beth? Dyma lle mae pethau’n dechrau mynd yn gymhleth!

Rhywsut roedd modd harneisio grym electro-fagneteg yr Ynys er mwyn ei symud hi ond sgil-effaith hyn oedd fod yr Ynys bellach yn teithio drwy amser. Gydol hanner cyntaf cyfres pump mae’r criw arhosodd ar yr Ynys yn teithiol nol a mlaen trwy hanes, mae hyn yn peri i rai ohonyn nhw farw ac felly mae Lock yn darganfod ffordd i roi stop ar y teithio. Y broblem ydy fod yr Ynys wedi dod i stop yn yr 1970au ac nid yn y cyfnod presennol felly mae’r goroeswyr wedi ffeindio eu hunain yng nghanol arbrofion a gweithwyr y DHARMA Initiative.

Yn y cyfamser mae Ben wedi teithio i’r tir mawr i geisio perswadio Jack a gweddill y rhai adawodd yr Ynys fod angen iddyn nhw ddychwelyd er mwyn achub y rhai a adawyd ar ôl ac i achub yr Ynys. Mae Ben yn dweud fod rhagluniaeth wedi dod a nhw i’r Ynys felly y bod angen iddyn nhw ddychwelyd i wireddu’r arfaeth. Mae nhw’n dychwelyd yn y diwedd ac yn ail gyfarfod gyda’r rhai â adawyd ar ôl yn 1977. Yn 1977 maen nhw’n ffeindio hen fom atomig ac maen nhw’n credu y gallan nhw ddinistrio’r grym electro-fagnetig gyda’r bom a thrwy hynny newid cwrs hanes a pheri iddyn nhw fod byth wedi glanio ar yr Ynys yn y lle cyntaf. Ffordd o ddod a’r hunllef i ben. Y grym electro-magnetedd dynnodd yr awyren i lawr ‘dy chi’n gweld. Daw cyfres pump i ben heb i ni wybod os ffrwydrodd y bom neu beidio ac os do beth fu ei effaith. Dyma felly lle fydd cyfres chwech yn dechrau wythnos yma.

Mae’r fideo isod yma yn esbonio beth sy’n digwydd yn y pum cyfres cyntaf mewn wyth munud pedwar deg eiliad:

Yn gefnlen i’r cyfan mae yna gwestiynau mawr am natur, mytholeg a hanes yr Ynys a’i phobl. Beth yn union yw’r Ynys? Pwy yw’r brodorion go-iawn? A oes yna rhyw fath o endid dwyfol ar waith yn yr Ynys? Gydol y cyfresi cyntaf fe glywn ni Ben yn sôn am “Jacob”, rhyw fath o arch-arweinydd fyddwn ni byth yn cyfarfod. Ond erbyn cyfres pump rydym ni’n cael ei gyfarfod a chael ar ddeall ei fod e wedi bod ar yr Ynys ers amser hir iawn iawn, cannoedd o flynyddoedd o leiaf. Ond cawsom ni sbec hefyd mewn un golygfa ar Jacob yn sgwrsio gyda’i Nemesis yn y Bedwaredd Ganrif a’r Bymtheg. Yn yr olygfa yma mae’r Nemesis yn addo y byddai’n darganfod rhyw ffordd o ladd Jacob yn y diwedd. Erbyn cyfres pump fe ddown i ddeall fod Nemesis Jacob wedi llwyddo i wneud ei ymddangosiad i edrych fel Lock, felly nid y Lock go-iawn sydd gyda ni bellach ar yr Ynys, mae’r Lock go-iawn mewn arch ac wedi marw. Trwy hyn mae’r Nemesis yn llwyddo i gyflyru Ben i ladd Jacob (oherwydd fod Ben wedi cael i mewn i’w ben fod Lock wedi ei rhag-ethol i fod yn arweinydd newydd yr Others) ac mae e’n gwneud hynny OND wrth i Jacob farw y mae’n yngan y geiriau “They’re coming” ac mae’r Nemesis yn ymateb mewn modd sy’n awgrymu panic a gorchfyciad. Tybed a oedd Jacob yn gwybod fod hyn mynd i ddigwydd ac felly trwy ei arfaeth wedi cynllunio adferiad drwy alw Jack a’r lleill i’r Ynys?

Dyma rai o’r cwestiynau dwi’n disgwyl mlaen i gael eu hateb yn y gyfres olaf. Y mae’r deunydd hyrwyddo yn awgrymu thema sy’n lled seiliedig ar yr efengyl! Y mae’r poster hyrwyddo yn seiliedig ar lun Da Vinci o’r Swper Olaf, gweler:

lost2

Yn ogystal mae Mathew Fox, sy’n actio Jack, wedi dweud mewn cyfweliad fod y cyfan yn gorffen mewn modd “redemptive” iawn. Dyna ni – mae’n siŵr y bydda i’n blogio mwy am hyn dros y misoedd nesaf wrth fod y gyfres yn mynd yn ei blaen.

Please follow and like us: