Dyma grynodeb o’m mhregeth i dydd Sul ar Deuteronomiwm 7:9

Felly deallwch mai’r Arglwydd eich Duw sydd Dduw; y mae’n Dduw ffyddlon, yn cadw cyfamod a ffyddlondeb hyd fil o genedlaethau gyda’r rhai sy’n ei garu ac yn cadw ei orchmynion

Mae yna dri pwynt amlwg sy’n sefyll allan yn yr adnod yma: i.) Yn gyntaf rydym ni’n cael ein hatgoffa mai un Duw sydd, ii.) yn ail rydym ni’n cael ein hatgoffa fod y Duw hwnnw yn ffyddlon ac yn cadw cyfamod ac iii.) yn drydedd rydym ni’n cael ein hatgoffa fod angen i ni ddilyn, caru ac ufuddhau i’r Arglwydd yna.

Beth yw pwrpas y llyfr yma yn yr Hen Destament? Diben y llyfr ydy atgoffa pobl am weithrediadau Duw ac yn eu hannog i ymroi o’r newydd i’r Duw hwnnw. Awdur? Moses, meddai’r esbonwyr, ydy awdur y rhan fwyaf o’r llyfr ac eithrio diwedd y llyfr. At bwy? Cafodd y llyfr ei sgwennu at genedl Israel, y genhedlaeth oedd yn dod allan o’r anialwch ac yn cyrraedd gwlad yr Addewid.

Rydym ni gyd wedi hen arfer a chlywed areithiau mawr Barak Obama dros y flwyddyn diwethaf – y ‘motivational speeches’ fel maen nhw’n dweud. Gellid edrych ar Deuteronomiwm fel pregeth o anogaeth gan Moses i genedl Israel. Dyma oedd ei bregeth fawr olaf ef i Israel cyn iddo farw.

Felly pam fod angen i ni fel Cymry gymryd sylw fan yma? Wel, er nad ydym ni yn llythrennol wedi bod yn yr anialwch ers deugain mlynedd rydym ni fel eglwys Crist yng Nghymru wedi bod ac yn parhau i fod mewn anialwch ysbrydol yn dydyn? Ac fel yr oedd cenedl Israel angen eu hatgoffa ac angen eu calonogi gan Moses i gofio am fawredd a ffyddlondeb yr Arglwydd mae angen i ni ynghanol ein alltud mawr ni fel cenedl y Cymry gael ein hatgoffa am fawredd a ffyddlondeb yr Arglwydd.

Pwynt Un: Un Duw

Rhan gyntaf yr adnod i ddechrau: ‘Felly deallwch mai’r Arglwydd eich Duw sydd Dduw’

Yn y cyfnod hwn a thrwy’r Beibl down ar draws llawer o gau-Dduwiau. O gyfeirio at rai o’r rhai amlycaf y cofiwn ni efallai y byddai Proffwydi Baal, beth am y Llo Aur, ac yna duwiau paganaidd y Groegwyr a’r cenedl-ddynion y daeth yr Apostol Paul ar eu traws. Gan gofio hyn dydy ein Cymru aml-ffydd ac aml-dduwiau ni heddiw yn ddim byd newydd.

Mae delio gyd bodolaeth gau-dduwiau a chrefyddau eraill wedi bod yn her i bobl Duw o’r cychwyn un. Maen gysur ac anogaeth felly gweld yn y Beibl sut y bu i Dduw arfogi ei bobl i ymateb a sut i beidio ymateb i her gau dduwiau a chrefyddau eraill. Pan fo pobl Dduw yn ildio tir ac yn rhoi lle i dduw a duwiau eraill y mae’r Duw byw yn tristau. Cymerwch er enghraifft y Llo Aur yn Exodus 32 – diflasodd y bobl ddisgwyl wrth yr Arglwydd ac i ddifyrru eu hunain fe wnaethon nhw dwyllo eu hunain a chreu duw newydd. Tybed oes yna beryg i ni, wrth i ni ddisgwyl wrth yr Arglwydd i ddychwelyd i Gymru eto mewn ffordd nerthol i gael ein twyllo i ddilyn gau-dduw tymor byr cyfforddus yn hytrach na disgwyl am bethau mawr gan y Duw byw? A’i ein adeiladau a’n cyfundrefnau yw’r Llo Aur heddiw?

Un o fy hoff hanesion i yn yr Hen Destament ydy Elias a Phroffwydi Baal. Yma eto rydym ni’n gweld Duw, trwy ei was Elias, yn dangos gwendid a chelwydd y gau-grefydd. Maen herio a dangos gwendid Proffwydi Baal yn hytrach na dod i rhyw gyfaddawd gyda nhw. Yna rydym ni’n gweld ymlaen wedyn yn y Testament Newydd, Actau 17 lle mae Paul yn ymresymu, dadlau ac yna yn cyhoeddi’r gwirionedd am Iesu Grist yn erbyn gwrthwynebiad o ddeallusion crefyddau eraill y cyfnod yn Athen.

Maen bwysig i ni ddeall fod datganiad Moses o ‘mai’r Arglwydd eich Duw sydd Dduw’ yn berthnasol i ni heddiw – nid rhywbeth neilltuol i gyfnod yr Hen Destament a chyfnod y genedl etholedig mohono oherwydd fyddwch chi’n gyfarwydd gyda’r adnod fawr yn Actau 4:12

“Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall, oblegid nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roi i’r ddynolryw, y mae’n rhaid i ni gael ein hachub drwyddo.”

Gyfeillion, dyma ddylai fod ein ymateb ni yng Nghymru heddiw. Fe ddylem wneud safiad a dweud yn hydrus gyda Moses: ‘mai’r Arglwydd ein Duw sydd Dduw!’

Pwynt 2: Duw Ffyddlon

Ymlaen a ni at ail-gymal yr adnod: “y mae’n Dduw ffyddlon, yn cadw cyfamod a ffyddlondeb hyd fil o genedlaethau”

Er ein bod ni fel Cymru wedi is-raddio’r Arglwydd Iesu i fod yn ddim byd mwy na hippy sy’n ymgyrchu dros CND ac yn cerdded o amgylch y lle mewn sandalau’n sipian te masnach deg – mae Duw yn ffyddlon. Er mai canran fechan iawn o Gymry sy’n parhau i arddel eu ffydd yn gyhoeddus mae’r ffydd Gristnogol yn parhau i fwynhau proffil uchel ym mywyd cyhoeddus Cymru. Maen fater arall os ydym ni’n gwneud y defnydd doethaf o’r proffil uchel hwnnw!

Rydym ni wedi etifeddu cyfoeth arbennig o’r cenedlaethau a fu. Yr etifeddiaeth lenyddol yw’r amlycaf maen siŵr ond rhaid i ni beidio anwybyddu’r etifeddiaeth o ran adeiladau a chyfoeth. Unwaith eto, maen fater arall os ydym ni’n gwneud y defnydd doethaf o’r cyfoeth yma rydym ni wedi etifeddu er lles gwaith yr Arglwydd. Mae Duw yn ffyddlon ac yn darparu adnoddau, ni sy’n methu’n lan a gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau hynny.

Hyd yn oed mewn cyfnod o drai y mae Duw wedi gweld yn dda i godi arweinwyr ifanc newydd. Ers tair mlynedd nawr dwi wedi bod yn mynychu cwrs hyfforddi arweinwyr newydd cyd-enwadol yng Ngholeg y Bala yn yr haf, mae’r criw sy’n cyfarfod yn tyfu o flwyddyn i flwyddyn a llynedd roedd tua trigain yna. Gyda’r Annibynwyr maen fendith clywed am bobl fel Rhun Murphy o Fangor ynghyd a Rhodri a Dafydd, wyrion Dr. Tudur, yn codi fel arweinwyr newydd ifanc. Gyda’r Bedyddwyr mae tri ohonom ni bobl ifanc yn rhoi ein hunain ymlaen i’r weinidogaeth flwyddyn nesaf. Er ein bod ni’n byw mewn cyfnod anodd y mae Duw yn dda ac y mae Duw yn ffyddlon.

Er y danchwa, y dirywiad, hyd yn oed y gaethglud mae’r eglwys Gristnogol yng Nghymru wedi bod trwyddo yn ystod yr hanner canrif diwethaf y mae Duw wedi parhau i fod yn ffyddlon. Maen rhaid i ni atgoffa ein hunain o hynny a diolch.

Petai unrhyw sefydliad cymdeithasol arall wedi bod trwy’r hyn mae’r eglwysi Cymraeg wedi bod trwyddo o ran colli aelodau a colli gwrandawyr mi fyddai’r cymdeithasau hynny wedi hen ddarfod a hen roi ffidil yn y to – ond mae’r eglwys Gristnogol dal yma. Dwi’n gyndyn o ddefnyddio llinell Dafydd Iwan “ry’ ni yma o hyd”. Ond mae wir yn tydi? Pam? Oherwydd fod Duw yn ffyddlon ac yn cadw cyfamod! Er gwaethaf ein llusgo traed ni, er gwaethaf ein tonnau o amheuaeth ni y mae’r Arglwydd yn ffyddlon.

Pwynt Tri: Galwad i’w ddilyn

“Felly deallwch mai’r Arglwydd eich Duw sydd Dduw; y mae’n Dduw ffyddlon, yn cadw cyfamod a ffyddlondeb hyd fil o genedlaethau gyda’r rhai sy’n ei garu ac yn cadw ei orchmynion”

Cyn mynd ymhellach rhaid i ni ddeall beth yw cyfamod: Mae cyfamod yn rhywbeth gan Dduw. Dim ond Duw all drefnu cyfamod. Allw ni fel pechaduriaid ddim bargeinio a llunio cyfamod ar y cyd gyda Duw. Rhywbeth sydd ar gynnig i ni fel rhodd gan Dduw ydyw: it’s not up for discussion, take it or leave it. Er mae Duw sydd wedi llunio’r cyfamod gras y maen rhaid i ni ymateb iddo er mwyn iddo fod yn weithredol fel petai.

Sut mae ymateb i’r cyfamod? Trwy ffydd yn yr Arglwydd Iesu Grist ac yna ei ddilyn yn ufudd ac nid nid fel gorchwyl ddiflas ond ei ddilyn yn llawen ac mewn ysbryd o fawl! “Duw… yn cadw cyfamod a ffyddlondeb hyd fil o genedlaethau gyda’r rhai sy’n ei garu ac yn cadw ei orchmynion” Felly sut allwn ni fod yn fwy ufudd i’r Duw sy’n ein caru? Fe ddyliem arddangos am ymroi i ufuddod mewn chwe ffordd:

Ufudd yn ein calon: Rhaid i ni roi Duw cyn unrhyw berthynas arall. Fe ddylem ni ymroi i Dduw a’i waith. Dylai Dduw ddod cyn unrhyw uchelgais. A dylai Dduw ddod cyn unrhyw eiddo. Mae nhw’n dweud mae’r ffordd orau i edrych ar galon dyn yw edrych lle maen buddsoddi ei arian! Ydym ni’n Gristnogion sy’n buddsoddi a rhoi yn fodlon i waith yr Arglwydd neu ydym ni’n gwario a prynu popeth rydym ni yn ei chwennych ac yna yn taflu unrhywbeth sydd ar ôl i mewn i’r Casgliad ar y Sul?

Ufudd yn ein ewyllys: Fe ddylem ni ufuddhau ein ewyllys i Dduw. Drwy ymroi ein hunain yn llwyr iddo.

Ufudd yn ein meddwl:Fe ddylem ni ymroi i ddeall yr Arglwydd a’i air yn well er mwyn i’r gwerthoedd hynny reoli ac arglwyddiaethu yn ein bywydau ac yn y ffordd rydym ni’n meddwl.

Ufudd yn ein corff: Mae angen i ni gydnabod fod ein cryfderau, ein talentau, ein doniad a hyd yn oed ein rhywioldeb wedi cael ei roi i ni er mwyn eu defnyddio i ogoneddu Duw. Rhaid i ni gofio fod y pethau hyn yn roddion i ni gan Dduw i’w ogoneddu ef ac nid er mwyn i ni eu defnyddio yn ôl ein dymuniad a’n chwantau ni.

Ufudd yn ein cyfoeth: Maen rhaid i ni gydnabod fod ein holl gyfoeth, yn y bon, yn dod gan Dduw felly rheolwyr ac nid perchnogion ydym ni. Ydy hynny yn cael ein adlewyrchu?

Ufudd yn ein dyfodol: Maen rhaid i ni holi ni ein hunain, a’i gwaith y deyrnas neu uchelgais bersonol sydd ar flaen ein meddwl wrth wneud penderfyniadau?

Casgliad

“Felly deallwch mai’r Arglwydd eich Duw sydd Dduw; y mae’n Dduw ffyddlon, yn cadw cyfamod a ffyddlondeb hyd fil o genedlaethau gyda’r rhai sy’n ei garu ac yn cadw ei orchmynion”

Ein Harglwydd yw’r unig wir Dduw bobl.

Y maen Dduw ffyddlon sy’n cadw cyfamod

Ac maen galw arnom i’w garu ac i gadw ei orchmynion.

Gadewch i ni gyd heno wneud yn siŵr ein bod ni’n credu yn a charu’r Arglwydd arbennig yma.

Please follow and like us: