Dwi wrth fy modd yn teithio ar y trên, ond rwy’n cytuno gyda’r angst cyson ar twitter ynglŷn a gwasanaeth Arriva. Pan dy’ chi’n teithio i Lundain mae newid o drên Arriva i drên Virgin yn Crew neu yng Nghaer yn teimlo fel camu o’r gorffennol i’r dyfodol.
Roedd hi’n ddiddorol darllen heddiw fod Deutsche Bahn, y cwmni trafnidiaeth cyhoeddus o’r Almaen yn rhedeg ar elw anferthol ac eu bod nhw’n darogan elw o €2.75 biliwn yn 2012 fydd yn codi i €3.85 biliwn erbyn 2016. Yr hyn sy’n ddiddorol am Deutsche Bahn yw mai’r Wladwriaeth yw llawn berchnogion y cwmni.
Yr hyn sy’n berthnasol i ni yng Nghymru yw sylwi mae perchnogion ein Trenau Arriva Cymru bondigrybwyll yw Deutsche Bahn! Oes syndod felly fod Deutsche Bahn yn medru troi elw mor aruthrol drosodd ag ystyried cyn lleied maen nhw’n ei fuddsoddi yng nghangen Gymreig eu cwmni? Mae’r Almaenwyr yn mwynhau rhwydwaith reilffordd rhagorol, yn gweld yr elw yn llifo i mewn tra’n chwerthin ar ein pennau ni mae’n siŵr. Effeithlonrwydd Almaenig ar ei orau.
“fydd yn codi i €3.85 biliwn erbyn 2016”
Paid poeni, os yw’r ewro yn chwalu bydd €3.85 biliwn werth tua £3.85 erbyn 2016…
“Arafa” dw i’n galw fe yn lle “Arriva”!
Ie, mae’r sefyllfa yma’n blydi cheek wir.