Ddydd Sul bues i’n pregethu ar yr adnodau yma o Broffwydoliaeth Jeremeia 31:

‘Mae’r amser yn dod,” meddai’r ARGLWYDD, “pan fydda i’n gwneud ymrwymiad newydd gyda phobl Israel a Jwda … Dyma’r ymrwymiad fydda i’n ei wneud gyda phobl Israel bryd hynny,” meddai’r ARGLWYDD: “Bydda i’n rhoi fy nghyfraith yn eu calonnau nhw, ac yn ei hysgrifennu ar eu meddyliau nhw. Fi fydd eu Duw nhw, a nhw fydd fy mhobl i.’


Buon ni’n trafod pethau fel bod Duw yn ein caru ni jest fel ydym ni ond ei fod yn ein caru ormod i’n gadael ni fel ydym ni.

Hefyd wedi bod yn ystyried y gwahaniaeth rhwng rhyddid a phenrhyddid. Dydi haelioni Duw ddim yn golygu ein bod ni’n rhydd i fyw bywyd sut bynnag rydym ni isho. Yn drist iawn mae penrhyddid yn aml yn arwain at dor-perthynas ar sawl lefel: rhwng ein gilydd, rhyngom ni a byd natur a rhyngom ni a Duw ei hun.

Meddyliwch am adeiladu dodrefn IKEA. Gewch chi ddilyn eich trywydd a’ch penrhyddid eich hun os ‘da chi isho, ond os ydych chi isho cadair gyfforddus sy’n edrych yn dda jest dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr.

Please follow and like us: