Mae pawb sy’n fy adnabod i’n gwybod mod i’n lysgenad i dri peth yn fwy na dim. Yn gyntaf i Grist, yn ail i’r Gymraeg ond yn drydydd i Apple Mac. Roedd hi’n Basg 2005 a finnau ar fy ail mlwyddyn yn y Brifysgol. Bu fy ngliniadur 2.4Ghz AMD, 512RAM oedd yn rhedeg Windows XP brotestio ers misoedd mod i’n ei orweithio; yn bennaf drwy recordio stwff Kenavo a dechrau arbrofi gyda rhaglenni graffeg fel Photoshop. Daeth y cyfan i ben tua’r Pasg. Dim ond ar ôl blwyddyn a hanner fe ddaeth oes fy ngliniadur i ben. Ac nid gliniadur rhad oedd chwaith, gostiodd y peth £900. Ond roedd y cyfan allan o waranti ers 6 mis felly roedd rhaid mynd am un newydd.
Gan mod i wedi bod yn potsian cychwyn efo dylunio graffeg roeddwn i wedi dechrau edrych mewn i droi i’r ochr arall a mentro i fyd yr Apple Mac. Ond roedd gen i fy amheuon a rheiny yn rai dwfn. Roeddwn i’n ffansio fy hun yn ychydig bach o wizz kid ar y cyfrifiadur ac felly roedd meddwl am symud i system cwbwl newydd a dysgu eto fel plentyn yn fy nychryn braidd. Roeddwn i hefyd yn poeni y baswn i’n colli defnydd o fy holl feddalwedd oedd yn feddalwedd Windows. Ond yr amheuaeth mwyaf oedd y pris. Ar papur byddai rhaid i mi dalu dwbwl y pris am Apple Mac i beth, roeddwn i’n meddwl ar y pryd, oedd yn beiriant cyfatebol Windows.
Ond ar ôl ymgynghori a rhai pobl oedd eisoes wedi newid, ac ar ôl cael fy siomi un tro yn ormod dyma fi’n mynd amdani. A ches i ddim fy siomi o gwbl – a dweud y gwir ces fy nghyfareddu o’r foment gyntaf a dwi erioed wedi edrych yn ôl. Disgrifiais y profiad, yn dra gableddus rhaid cyfaddef, fel tröedigaeth dechnegol. Ac mae’n rhaid mod i’n genhadwr effeithiol oherwydd prin yw’r ffrindiau sydd gen i bellach sydd ddim wedi dod i gredu!
Felly, ar y diwrnod trist y collodd Steve Jobs y frwydr yn erbyn cancr dyma rannau rhai lluniau dwi wedi ffeindio yn fy llyfrgell iPhotos a rhai sylwadau dan y lluniau:
Dyma oedd fy Apple Mac cyntaf. PowerBook G4 12 modfedd. Gan mod i’n betrusgar wrth brynnu fy Mac cyntaf doeddwn i ddim eisiau archebu ar y wê felly fe es i’r siop fach Apple yna oedd arfer bod ym Mirchgrove, Caerdydd ar y groesffordd ger Lidl!
Dyma fi’n defnyddio’r PowerBook G4 yn un o Gyfarfodydd Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith.
Dyma’r PowerBook eto yn Archifdy Prifysgol Bangor yn gweithio ar y PhD.
Hydref 2008, y MacBook Pro yn cyrraedd! Doedd dim byd o’i le ar y PowerBook, roedd dal yn gweithio fel newydd ond fe ges i grant gan y Brifysgol i brynu gliniadur newydd felly dyma fi’n cymryd mantais a gwneud.
Roedd y PowerBook dipyn fwy tew na’r MacBook Pro newydd – ond mae sgrin y MacBook Pro dair modfedd yn fwy. O ran maint roedd gwell gen i’r PowerBook a gan fod gen i iMac nawr hefyd pan fydd hi’n amser i gael gluniadur newydd dwi’n meddwl o ddifri yr af i yn ôl lawr i faint llai, mentro at un o’r MacBook Air’s hyd yn oed gan fod gen i’r iMac i wneud y gwaith codi trwm.
Diwrnod ffarwelio a’r PowerBook, ond fe gafodd gartref da gyda fy mrawd-yng-nghyfraith.
A dyma ni heddiw, diwrnod ffarwelio a Steve Jobs. Y dyn wnaeth droi cyfrifiaduron o fod yn bethau oedd yn ein herbyn ni i fod yn declynnau oedd yn rhyddhau creadigrwydd. Diolch.