‘All roads lead to rome’ yw’r hen ddihareb, ond fel Cristnogion ‘all roads lead to the cross’ yw hi. Os mai yn Iesu rydym ni’n gweld yn fwyaf clir pwy yw Duw. Yna ar y Groes y gwelwn yn fwyaf clir beth yw natur a phwrpas Duw. Dyma le mae’r ymadrodd “the crux of the matter” yn dod, ‘Crux’ yw croes yn Lladin, dyma yw canolbwynt y stori. Dyma yw’r pwynt lle mae’r stori yn arwain ato, ac yn arwain allan ohono. Dyma yw’r foment lle mae’r stori yn newid a byth yr un fath.
Symbol y Groes
Mae Cristnogion yn enwog am lawer o symbolau fel gwneud arwydd pysgod yn y tywod, colomen wen neu dafodau tân. Ond y symbol sy’n sefyll uwchben pob symbol arall yw’r Groes: ‘Yng nghroes Crist y gorfoleddaf, Croes uwch difrod amser yw’.
Os ydych chi’n meddwl am y peth mae’n symbol rhyfedd iawn i’w ddathlu a theimlo cariad tuag ato. Oherwydd beth oedd y Groes oedd dyfais ar gyfer y gosb eithaf – digon tebyg i’r guilotine, y leathal injection neu’r firing squad. Ond eto mae Eglwysi trwy’r byd yn dangos y symbol yma uwchben eu drysau. Mae Cristnogion yn gwisgo’r symbol ar grysau-t, ar datŵs ac ar emwaith. Ac mae’r rheswm yn amlwg, syml a clir. Oherwydd os mai yng ngardd eden wnaethom ni ddal afiechyd pechod a marwolaeth, yna ar y Groes ni’n ffeindio’r iachâd.
Dros y flwyddyn ddiwethaf ni’n gwybod sut brofiad yw hi i ffeindio vaccine – ni’n gwybod, er falle fod y rhyfel ddim ar ben, fod y stori yn newid cywair a bod gobaith yn y tir. Y Groes yw’r vaccine i fyd sydd wedi torri.
Addoli Duw Croeshoeliedig
Mae Cristnogion yn bobl ryfedd. Rydyn ni’n addoli Duw gafodd ei groeshoelio, Duw gafodd ei ladd. Mae pob crefydd (fwy neu lai) yn addoli rhyw fersiwn o dduw pwerus a buddugoliaethus, ond rydym ni’n addoli Duw gafodd ei fradychu, ei arteithio a’i groeshoelio, Duw oedd yn gollwr.
Dyma sgandal y ffydd Gristnogol: addoli Duw a hoeliwyd ar bren! Ond mae’n dweud rhywbeth wrthym ni am gymeriad a phwrpas Duw.
Prydferthwch y Groes
Ni wnaeth Iesu, Duw’r mab, farw ar y Groes i drio gwneud i Dduw’r tad newid ei feddwl amdanom ni. Buodd Iesu farw ar y Groes i ni newid ein meddyliau am Dduw. Efallai fod angen i ni edrych ar y Groes a bod yn agored i weld prydferthwch y Groes o ongl wahanol er mwyn gweld a phrofi dyfnder cariad Duw drosom ni a’r byd?
Mae un person yn edrych ar y Groes ac yn gweld Iesu’n iachau’r byd o salwch marwolaeth a phechod – delwedd y Meddyg Da. Rhywun arall yn edrych ar y Groes ac yn gweld lle gafodd cyfiawnder ei dalu – y ddelwedd llys barn. Rhywun arall yn edrych ar y Groes a gweld lle enillodd Iesu fuddugoliaeth lawn dros dywyllwch a drygioni – delwedd Iesu’r Brenin Buddugoliaethus. Mae’r holl ddelweddau ac esboniadau amrywiol yma (a mwy) i’w gweld yn y Beibl.
Mae pob un o’r delweddau, theorïau neu fodelau hyn yn ein helpu i ddeall a gweld rhywbeth am be ddigwyddodd ar y Groes a pam y buodd Iesu farw. Ond eto, does dim un ohonyn nhw yn gallu gwneud cyfiawnder gyda phrydferthwch, dirgelwch a dyfnder y Groes.
Efallai ein bod ni fel Cristnogion dros y canrifoedd wedi bod yn canolbwyntio gymaint ar be wnaeth Iesu ar y Groes (neu o leiaf yn dadlau dros y theorï sy’n ffefryn gennym ni wrth geisio deall be wnaeth Iesu ar y Groes) nes ein bod ni wedi colli golwg ar bwy oedd ar y Groes a be mae hynny’n dysgu ni am natur a chymeriad Duw.
Cariad nid llid Dwyfol
Mae hagrwch y groes i weld yn ein pechod ni ac yng ngrym a trais bydol y rhai groeshoeliodd Iesu. Ond mae harddwch y Groes i’w weld ym maddeuant dwyfol Duw i ni. Ar Galfaria y gwelwn gariad Duw yn fwyaf clir. Wrth i Iesu gael ei groeshoelio gan bwerau crefyddol a gwleidyddol ei ddydd mae’n dangos natur cariad Duw. Mae’n dangos mae ffordd Duw oedd trwy dorri cylch dieflig trais a phechod a gwneud maddeuant yn bosib. Ar y Groes rydym ni’n gweld y byddai’n well gan Iesu farw yn enw cariad na lladd yn enw rhyddid.
“Ydy, mae Duw wedi caru’r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy’n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.”
Ioan 3:16
Doedd Dydd Gwener y Groglith ddim yn bennaf ynglŷn â llid Dwyfol; ond yn hytrach cariad dwyfol. Dydy Ioan 3:16, un o adnodau enwocaf y Beibl, ddim yn dweud: ‘casaodd Duw y byd gymaint nes iddo lofruddio ei unig Fab’, fel y mae rhai pobl wedi cam-ddeall, cam-ddehongli neu cham-glywed neges y Groes. Ond yn hytrach mae’r adnod yn dweud: ‘carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab.’
Mae Duw yn Dduw cyfiawn ac mae’r ddelwedd o gyfiawnder yn cael ei fodloni ar y Groes i’w weld yn y Beibl. Ond rhaid i ni ddeall nad cyfiawnder sy’n mynnu dial neu gyfiawnder sy’n gorfod gweld rhywun yn dioddef i fodloni duw sy’n debycach i Zeus na Duw yng Nghrist yw cyfiawnder y Groes. Ond yn hytrach cyfiawnder sy’n adfer a maddau a thorri cylch dieflig pechod a thrais. Nid cocyn hitio duw blin oedd Iesu’n marw ar y Groes – ond Duw ei hun mewn gweithred o hunanaberth yn tywallt ei gariad i’n hachub ni oddi wrth ein hunain. Ni wnaeth Iesu farw i’n hachub ni oddi wrth dduw blin – bu farw i’n hachub ni ohonom ni ein hunain, ein pechod a chanlyniad marwolaeth.
Iesu’n tanseilio pwerau’r byd ar y Groes
Doedd y peiriant crefyddol a gwleidyddol yn Jerwsalem methu delio gydag Iesu felly dyma nhw’n ei Groeshoelio. Ond, be doedden nhw ddim yn gwybod oedd y byddai Iesu’n defnyddio’r union beth roedden nhw’n meddwl byddai’n rhoi taw arno a’i droi o fod yn symbol o drais a gorthrwm i fod yn symbol newydd o ffydd, gobaith a chariad.
Dim cael “one up” ar bwerau’r byd wnaeth Iesu, ddim hyd yn oed eu “curo”, ond yn hytrach eu tanseilio, dwyn eu grym a thynnu eu holl rym a phŵer i lawr gydag e. Wrth i Iesu farw ar y Groes fe fu farw grym pechod a marwolaeth. I arall eirio Obi-Wan Kenobi o’r ffilm Star Wars: “If you crucify me, I’ll become more powerful than you can possibly imagine”. Mae Paul yn defnyddio delwedd bwerus iawn wrth siarad efo’r Colosiaid:
“Wedi iddo ddiarfogi’r pwerau a’r awdurdodau, arweiniodd nhw mewn prosesiwn gyhoeddus – fel carcharorion rhyfel wedi’u concro ganddo ar y groes.”
Colosiaid 2:15
Yng Nghrist rydym ni’n gweld fod hi’n well gan Dduw farw dros ei elynion na’u lladd, a drwy wneud hynny mae’n diarfogi unrhyw rym oedd ganddyn nhw. Y Groes yw lle mae Duw yng Nghrist yn cymryd holl bechod y byd ac yn ei le yn tywallt allan maddeuant.
Cyfiawnder adferol nid cyfiawnder dialgar
Fy hoff ddrama deledu i erioed oedd y gyfres Ddaneg The Bridge. Yn y ddrama dditectif pwerus hon mae’r llofrudd yn herwgipio a lladd mab Martin, un o’r ditectifs. Yn ddigon naturiol mae byd Martin yn cau amdano ac mae galar dwfn yn dod drosto. Erbyn diwedd y gyfres maen nhw’n llwyddo i ddal y llofrudd ac mae’n cael ei anfon i garchar am oes. Ond er bod cyfiawnder y wlad a’r llysoedd wedi ei weinyddu dydy Martin, yn ddigon naturiol, dal ddim wedi ffeindio heddwch. Yn y gyfres nesaf mae’n ffeindio ei hun yn ymweld â’r llofrudd yn y carchar yn rheolaidd i siarad ag e a thrio ffeindio heddwch, ond yn ofer. Yn y diwedd mae’n smyglo gwenwyn mewn i’r carchar ac yn llofruddio’r llofrudd. Ond hyd yn oed ar ôl dial – llygad am lygad – dydy e dal ddim yn ddigon a dydy e dal ddim yn ffeindio heddwch; ac i wneud pethau yn waeth mae e ei hun bellach yn y carchar am gyfnod maith hefyd.
Mae’r cymeriad yma oedd yn hoffus iawn ar ddechrau’r gyfres gyntaf yn cael ei fwyta’n fyw gan ddialedd. Pam? Oherwydd bod cyfiawnder dialgar ddim yn torri syched.
A dyna pam nad dyna rydym ni’n gweld ar y Groes. Mae Iesu’n dangos ffordd arall – cyfiawnder adferol. Cyfiawnder sy’n amsugno holl bechod, poen a dialedd y byd ac anadlu allan maddeuant. Ac os ydym ni eisiau torri syched dyna yw’r afon sydd angen i ni nofio ynddi, hyd yn oes os yw cymryd y naid yn gofyn am ddewrder ffydd.
Nol yn 2005 cafodd Anthony Walker o Lerpwl ei ladd mewn ymosodiad hiliol. Roedd yn stori ddychrynllyd ar y pryd a’r hanes wedi tynnu sylw at sgandal ymosodiadau hiliol yn y ddinas. Ond beth oedd y sgandal fwyaf yn llygaid rhai oedd ymateb mam Anthony Walker, Gee, wnaeth siarad yn gyhoeddus ar ôl yr achos llys ynglŷn â’r angen i faddau i’r rhai wnaeth lofruddio ei mab. Ar ôl i’r troseddwyr gael dedfryd oes, roedd hi’n dweud mai’r ddedfryd oes fwyaf ffiaidd oedd dedfrydu eich hun i chwerwder a bod nhw fel teulu ddim eisiau hynny. Dyma oedd ei geiriau mewn cyfweliad ar y pryd:
“What does bitterness do? It eats you up inside, it’s like a cancer. We don’t want to serve a life sentence with those people. Has my faith been tested? Lord, yes. My name’s Gee, not Jesus! It’s been hard, so hard, but I have to follow what the Lord teaches.”
Gee Walker
Addoli’r Duw Croeshoeliedig
Felly ffrindiau, ar ddechrau wythnos y Pasg gadewch i ni gyhoeddi a chredu ein bod ni’n addoli Duw croeshoeliedig. Duw sydd ddim yn curo gelynion, ond Duw sy’n marw dros ei elynion. Duw sydd ddim yn tywallt olew ar dân ein pechod. Ond Duw sy’n troi ein galar yn dawnsio, Duw sy’n rhoi mawl yn lle lludw a Duw sy’n troi cywilydd yn obaith. Duw croeshoeliedig sy’n cymryd holl bechod a phoen y byd arno fe ei hun – ac anadlu allan maddeuant i ni gael byw.
“Ydy, mae Duw wedi caru’r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy’n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.”
Ioan 3:16
A dyma galon ein ffydd. Diolch Rhys