Gweledigaeth Llanw yn ddigon syml ydy cynorthwyo Cristnogion i ddathlu’r hyn y mae Duw yn Iesu Grist wedi ei wneud drosom ni ac i lawenhau yn realiti ei waith ac i ddathlu fod yr hyn y mae e wedi dod i’w gyflawni wedi ei orffen ac felly fod modd i ni bellach ddathlu a mwynhau’r fendith honno. Maen braf cael dod at ei gilydd mewn cynhadledd Gristnogol heb orfod ymboeni am drafod busnes a chyllid a chynigion ar yr hyn ar llall, mae hynny yn ein rhyddhau yn hytrach i ddod at ein gilydd i addoli Iesu heb gael ein llethu a’r negyddiaeth arferol mewn cyfarfodydd cyfundeb, cymanfa a chyrddau chwarter. Y mae’r cyfan oll yn naturiol rhyng-enwadol gyda mynychwyr ers sefydlu’r ŵyl yn dod o bob fath o eglwysi gwahanol, ond a phob un yn eiddgar i addoli’r un Gwaredwr, Iesu Grist. A dyma yw’r weledigaeth mewn gwirionedd, codi calon Cristnogion yng Nghymru a’u hatgoffa fod y ffydd Gristnogol yn rhywbeth i fod yn llawen o’i blegid. Fe atgyfododd yr Iesu a dyna beth y mae Llanw yn ei ddathlu.

Ar ddiwrnod arferol mi fydd y mwyaf eiddgar yn ein mysgu yn cyfarfod am air o weddi am 8.30 cyn troi am frecwast. Bydd prif gyfarfod cyntaf y dydd am 9.45 gyda chyfnod o addoli ar y cychwyn yn cael ei ddilyn gan sgwrs gan Meirion Morris fydd yn arwain bob bore gan ganolbwyntio ar ein buddugoliaeth yng Nghrist (2 Corinthiaid 2:14). Yn ystod y cyfarfod yma bydd yna glwb plant i’r rhai oedran cynradd a chlwb ieuenctid i’r rhai ym mlynyddoedd cyntaf uwchradd. Gydol y dydd bydd yna seminarau dewisol ar bynciau perthnasol fel gwaith Tearfund, sut mae arwain astudiaeth Feiblaidd yn eich cartref a phynciau tebyg. Yn ogystal, bydd holl weithgareddau hamdden Llangrannog ar agor i bawb ddefnyddio, y llethr sgïo, y gwib-gartio, pwll nofio a llawer mwy. Gyda’r nos mi fydd cyfarfod mwy anffurfiol am 7 gyda mwy o bwyslais ar yr addoli gyda band Llanw dan arweiniad Owain Edwards, Coleg y Bala yn ein harwain. Mi fydd sgyrsiau byr yn rhan o wasanaeth y nos yn ogystal gyda Phil Ellis, Rhun Murphy a Greham Daniels yn ein harwain. Bydd clybiau i’r plant a’r ieuenctid unwaith eto yn cyd redeg. Yn dilyn oedfa’r hwyr bydd cyfle i ymlacio a chymdeithasu neu fynychu gwahanol weithgareddau fydd wedi eu trefnu. Mewn gair felly, y mae rhaglen lawn a chyffrous wedi ei threfnu i chi!

Rhan o weledigaeth Llanw ers y cychwyn oedd gwasanaethu a chynorthwyo Cristnogion i fyw eu ffydd yn ôl yn eu hardaloedd a’u eglwysi lleol wedi’r wŷl. Y mae gwefan Llanw felly wedi datblygu i fod yn adnodd gwerthfawr, fe wneir defnydd o dechnoleg er mwyn gwneud pregethau, sgyrsiau, cyfweliadau a hyd yn oed caneuon mawl cyfoes ar gael ar ein gwefan i chi ddefnyddio gydol y flwyddyn. Mae llawer wedi tystio i Llanw eu harfogi i geisio addoli neu sôn am Iesu wrth eraill mewn ffordd newydd yn eu heglwysi adref ar ôl mynychu’r ŵyl.

Llanw 09 – tu ôl i’r lleni from Llanw on Vimeo.

Mae mwy o wybodaeth am yr wŷl i’w gael ar ein gwefan www.llanw.org ac bydd yr amserlen lawn yn ymddangos yno yn fuan iawn. Mae croeso cynnes i bobl leol yng Ngheredigion a Sir Gâr i droi mewn am ddiwrnod neu am un o’r cyfarfodydd – nid gŵyl i’r rhai sy’n lletya yn unig ydyw. Gan ddisgwyl ymlaen felly i weld cynifer ohonoch a phosib yn Llanw 2010. Buaswn yn ei chyfri hi’n fraint cael dathlu Ei Atgyfodiad gyda chi.

Please follow and like us: