Mam, fi, Elain a Cynan yn 1990. Cymru wedi cymryd sawl cam ymlaen a sawl cam yn ôl yn yr un mlynedd ar hugain diwethaf. Roedd Cynan yn 21 wythnos yma!

Ychydig dros flwyddyn yn ôl fe ddechreuodd S4C hyrwyddo Pen Talar. Y gerddoriaeth gefndir i’r trailer a llawer o olygfeydd clo’r penodau oedd ‘Disgwyl rhywbeth gwell i ddod’ gan Meic Stevens. Roedd y gân yn cydio yn nyhead Defi a Doug i weld rhywbeth gwell yn dod yn eu bywydau ac yn hanes eu cenedl. Ym mywydau personol Defi a Doug a hefyd yn hanes y genedl roedd cam ymlaen yn aml yn cael ei ddilyn gan ddau gam rhwystredig yn ôl. Y gerddoriaeth gefndir i’r golygfeydd yma oedd ‘Cyllyll yn dy gefn’ gan Dyfrig Evans. Unwaith eto, cân oedd yn cydio yn yr ing o gael pobl a chael eich cenedl chi eich hun yn eich gadael i lawr.

Rwy’n sôn am Pen Talar drachefn oherwydd bod y stori yn parhau ac rydym ni i gyd, pob Cymro wedi bod yn dyst i’r bennod ddiweddaraf yn ystod yr oriau diwethaf. Yn dilyn llwyddiant y refferendwm roeddem ni, fel Defi a Doug yn disgwyl rhywbeth gwell i ddod ond mewn gwirionedd rhyw gyllell emosiynol yn ein cefn y cawsom ni heddiw.

Ond mae ein dyheadau yn cael eu cyflawni neu eu chwalu yn ddibynnol ar beth yw gwrthrych ein gobaith. Disgwyl rhywbeth gwell i ddod y byddwn ni’n gwneud hyd dragwyddoldeb os ydym ni’n rhoi ein gobaith mewn cestyll tywod. Dyna pam y byddwn ni fel Cymry yn parhau i ethol gwleidyddion bob pedair blynedd, weithiau yn llawn gobaith, weithiau mewn tor calon hyd nes y daw un gwell i sefydlu ei Deyrnas yn derfynol.

Ond er mod i fel pob cenedlaetholwr arall wedi siomi’n arw heddiw rwy’n gwybod, trwy ffydd, y daw rhywbeth gwell i ddod. Ond os ydy Cymru am gael bod yn rhan o’r cyflawniad yma efallai fod yn rhaid i ni fynd unwaith eto fel plant, dysgu gostyngeiddrwydd a rhoi ein gobaith mewn rhywbeth, yn rhywun, mwy na ni a’n cenedl ein hunain.

Please follow and like us: