Three decades after it was conceived, the world’s most powerful physics experiment has sent the first beam around its 27km-long tunnel. Engineers cheered as the proton particles completed their first circuit of the underground ring which houses the Large Hadron Collider (LHC). The £5bn machine on the Swiss-French border is designed to smash particles together with cataclysmic force. This will re-create conditions in the Universe moments after the Big Bang.

Dychmygwch pe tae Americanwr ar ei wyliau yn Aberystwyth ac yn sefyll tu allan i’r Hen Goleg ac yn holi ei gyfaill lleol: 

“Pwy ddyluniodd ac adeiladodd yr adeilad ysblenydd yma?”

“Neb mewn gwirionedd” meddai’r cyfaill.

“Beth wyt ti’n meddwl neb?” ebe’r Americanwr.

Aeth y cyfaill ymlaen i esbonio:

“Yr hyn ddigwydd ti’n gweld oedd bod bom enfawr wedi ffrwydro yn Aberystwyth yn ystod yr ail Ryfel Byd ac wedi i’r llwch setlo trwy lwc fe laniodd llawer o’r rwbel ar y ffurf yma, Yr Hen Goleg, anhygoel yn de?”

“Dy ni ddim mor dwp a hynny” ebe’r Americanwr.

Mae synnwyr cyffredin a greddf dynol yn holi ac yn dweud fod rhywun wedi gwneud popeth yn enwedig pethau hardd, cymhleth a gogoneddus fel adeilad yr Hen Goleg yn Aberystwyth. Gymaint mwy felly y Ddaear a’r Bydysawd ei hun – mae’r Greadigaeth yn gymhleth ac yn hardd tu hwnt ac i mi maen gwbl eglur fod yn Greawdwr o Dduw tu ôl y cyfan ac mae nid lwc y ‘big-bang’ wnaeth greu ein Byd ni.

Mae’r holl beth yn fy atgoffa o hanes Elias a Phroffwydi Baal ar fynydd Carmel yn 1 Brenhinoedd, Pennod 18. Yn ei hanfod y stori yw fod Elias a Chredinwyr y dydd yn cael ‘show down’ gyda Proffwydi Baal, Baal oedd crefydd ‘boblogaidd’ y dydd. Gwyddorniaeth Ddarwinaidd/Big Bang a Seciwlariaeth ffwndametalaidd ydy crefydd ‘boblogaidd’ heddiw fel Baal yn nyddiau Elias. Roedd Proffwydi Baal mor sicr eu cred eu bod nhw’n iawn nes iddyn nhw osod arbrawf fyny i brofi mae Baal ac nid Duw Elias oedd yn wir. Wrth gwrs, fe chwythodd yr arbrawf fyny yn eu hwynebau oherwydd i Baal fethu darparu tra darparodd y Duw byw i Elias. Bydd yn ddiddorol gweld os lwyddith y gwyddonwyr i greu rhywbeth 1/100000000 mor anhygoel a chreadigaeth Duw draw yn y Swistir dros y misoedd nesa. Dwi’n amau’n fawr.

Please follow and like us: