Oes rhywun am geisio dehongli beth mae R. Tudur Jones yn dweud isod am arwyddocâd Diwygiad 1904-05 yn y cyd-destun o argyfwng ysbrydol a hunaniaethol yr oedd Cymru ynddi ar y pryd? Ydw i’n bell iawn ohoni i dybio mae’r hyn mae R. Tudur Jones yn dadlau, yn y bon, yw fod y diwylliant gorau Cymraeg yn ddiwylliant Cristnogol Cymraeg ac y bod Diwygiad 1904-05 wedi bod yn gyfle, os nad ymyriaddwyfol, i’r Cymry ail afael ynddi cyn ei bod hi’n rhy hwyr? Mae R. Tudur Jones ar ddiwedd y dyfyniad yn sôn am Ddiwygiad 1904-05 fel ‘trobwynt argyfyngus yn hanes Cymru’r Ugeinfed Ganrif’, pam? A’i oherwydd i’r Diwgiad, er gwaethaf ei bendithion, fethu a chyffwrdd Cymru drwyddi a bod yn ddylanwad ffurfianol i fywyd diwylliannol ac ysbrydol Cymru am weddill y ganrif? Trafodwch bobl.

Yr oedd y Cymry’n ymateb i’w cyfrifoldeb gerbron Duw trwy gyfrwng eu diwylliant Cristnogol Cymraeg. A oeddynt i barhau’n ufudd a ffyddlon i’r Duw hwn? Iddynt hwy, yr oedd y Diwygiad yn gosod cwestiwn miniog o’u blaen ynglŷn â’u hymlyniad wrth y diwylliant hanesyddol y mynegodd eu tadau eu cyfrifoldeb gerbron Duw trwyddo. Nid dyna’r cwestiwn yn Norwy nac yn Korea [h.y. gwledydd eraill oedd yn gweld adfywiad run pryd]. Ond gan fod amgylchiadau yng Nghymru’n bygwth y Gristnogaeth hanesyddol, ac anffyddlondeb unigolion yn rhan o’r bygythiad, yma y cyfarfu’r Ysbryd Glân â’i phobl. A dyna sy’n gwneud Diwygiad 1904-05 yn drobwynt argyfyngus yn hanes Cymru’r Ugeinfed Ganrif.

Please follow and like us: