Maen nhw’n dweud mai’r math o flogio mwya diflas yw blogio sy’n trafod pethau arferol bywyd fel bwyta, cysgu, magu … a DIY. Ond yn fy achos i nid rhywbeth ‘dydd i ddydd’ yw DIY. Anaml iawn dwi’n troi fy llaw at ychydig o DIY ac fel rheol mae’n mynd yn fler iawn. Dechreuodd y stori yma mewn modd tebyg. Dyma fi’n drilio tyllau yn wal y bathrwm er mwyn sgriwio drych uwchben y sinc. Driliais dwll rhy agos i gornel y wal nes peri i’r gornel roi a syrthio i ddarnau. Panig. Galwad ffôn i Dad. “Dos i Stermat i nol Polyfilla”. Fel rheol wrth droi fy llaw at DIY i drwsio rhywbeth dwi’n tueddu i waethygu’r sefyllfa. Ond ces dipyn o hwyl tro yma – dyma rannu’r campwaith!
Please follow and like us:
Job deidi. Mae’n taro fi bod ein cenhedlaeth ni (fi yn gynwysedig) mor di-gelm a dihyder am wneud DIY.
Da ‘di Stermat!