Mae’r newyddion yn adrodd y bydd biliau ynni’n cael eu haneru. Ond mewn gwirionedd maen nhw’n dyblu, er ddim yn codi pedair gwaith.

Ond ni – y bobl – fydd yn talu am yr “arbediad”, a bydd yr holl arian yn mynd yn syth i bocedi’r cwmnïau ynni, ni fydd eu helw yn cymryd unrhyw dolc. Bydd haelioni honedig y trysorlys yn mynd i chwyddo elw cwmnïau yn hytrach na chael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Ydi hi’n gywir i wasanaethau craidd fod yn nwylo cwmnïau er elw, yn arbennig felly mewn amseroedd fel hyn? Fel Cristion, dwi ddim yn credu fod hynny’n stiwardiaeth ddoeth ac mae angen edrych eto ar wladoli’r diwydiant ynni.

Mae modd rhedeg cwmnïau ar seiliau Cristnogol wrth gwrs, a dwi’n adnabod sawl person sy’n gwneud hynny. Ond mae hefyd angen galw allan Mamon pan mae’n dangos ei ben.

“Does neb yn gallu gweithio i ddau feistr gwahanol ar yr un pryd. Mae un yn siŵr o gael y flaenoriaeth ar draul y llall. Allwch chi ddim bod yn was i Dduw ac i arian ar yr un pryd.” (Mathew 6.24)

Please follow and like us: