Mae llawer o sylw wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf i lyfr mawr yr hanesydd Tom Holland – Dominion: The Making of the Western Mind. Mae’n glamp o lyfr, 624 o dudalennau, yn olrhain dylanwad y traddodiad Judeo-Gristnogol ar y Gorllewin ers dros 2,000 o flynyddoedd. Mae’n rhaid i mi gyffesu fod yna rai penodau lle wnes i wibio trwyddyn nhw heb ddarllen pob gair yn fanwl. Bydd unrhywun sy’n gyfarwydd gyda phodlediad boblogaidd Tom Holland a Dominic Sandbrook, The Rest is History, yn ymwybodol fod Tom Holland yn un o’r bobl yma sy’n ffoli gyda manylion ac mae’r manyldeb fforensig yna i bawb ei weld yn Dominion. O fy rhan i, sydd a mwy o ddiddordeb yn y darlun mawr nag yn y manylion, mae’n drueni fod golygyddion y wasg heb fod yn fwy llym gyda’r awdur oherwydd rwy’n credu y galli’r awdur fod wedi cyflwyno ei thesis mewn llyfr hanner ei faint a thrwy wneud hynny agor y peth allan i ddarlleniad a thrafodaeth fwy eang.

Thesis cyffredinol y llyfr yw mai Cristnogaeth yw dylanwad mwyaf ffurfiannol yn hanes a datblygiad y Gorllewin. Mae’r llyfr yn dadlau fod y rhan fwyaf yn y Gorllewin heddiw sydd wedi cefnu ar ffydd eu cyndeidiau, ac yn diystyru Cristnogaeth fel ofergoeliaeth, yn parhau i fod yn etifeddion iddi boed iddyn nhw fod yn ymwybodol o hynny ai peidio. Er ei bod hi’n ymddangos fod y gagendor rhwng y credadun a’r anghredadun heddiw yn un sy’n dod yn gynyddol anodd ei bontio, mae Holland yn dadlau nad felly y dylai hi fod mewn gwirionedd gan fod hyd yn oed seciwlariaeth Orllewinol yn gysyniad sylfaenol Cristnogol gan nad yw’n syniad niwtral ond yn hytrach yn syniad sydd wedi ei seilio ar syniadau am hawliau dynol a naturiol nad sydd mewn gwirionedd yn syniadau cyffredinol ond yn hytrach a’i gwreiddiau mewn Cristnogaeth. 

Un o haeriadau dadleuol Holland yw ein bod ni i gyd yn y Gorllewin yn “Gristnogion”, hyd yn oed yn ein cyflwr o anghrediniaeth bresennol, pinnau ydym ni’n ymwybodol o hynny ai peidio. Sail ei haeriad yw dadlau ein bod ni oll yn “Gristnogion” gan fod ein rhagdybiaethau sylfaenol ni wedi eu seilio ar egwyddorion creiddiol Cristnogol am werth sylfaenol pob person a’n galwad i ofalu am ein gilydd.

Er bod rhywun yn gallu dilyn a deall dadl Holland o ran seiliau moesegol y Gorllewin, eu bod yn sylfaenol Gristnogol, erys un broblem fawr sef nad crefydd foesegol yn unig yw Cristnogaeth ond yn hytrach crefydd sydd â chyffes wrth ei wraidd.  “Pwy meddwch chwi ydwyf fi?” oedd y cwestiwn sylfaenol gan Iesu i Pedr a’r disgyblion yn Mathew 16, ac ymatebwyd drwy ffydd wrth ddatgan: “Ti yw’r Meseia, Mab y Duw byw.” Mater o gyffes a ffydd yw Cristnogaeth yn gyntaf, ac er bod “ffydd heb weithredoedd yn farw” (Iago 2.26), nid Cristnogaeth yw Cristnogaeth heb gyffesu’r Khristós yn Arglwydd a Duw.

Rwyf wedi sylwi dros y blynyddoedd diwethaf fod diddordeb newydd wedi bod mewn Cristnogaeth ymhlith dosbarth breintiedig o ddeallusion sydd, yn gyffredinol, o’r traddodiad ceidwadol yn wleidyddol. Yr enwocaf a’r mwyaf dadleuol o bosib yw Jordan Peterson, mae Douglas Murray a hefyd Ayaan Hirsi Ali yn ffitio i mewn i’r duedd hefyd er bod pob un ohonynt, a bod yn debyg, wedi dilyn eu llwybr eu hunain. Tybed ydi hi’n deg gweld Tom Holland ymhlith yr un duedd? Hynny yw, pobl sydd wedi eu denu o’r newydd at Gristnogaeth am resymau diwylliannol a gwleidyddol yn fwy nag am resymau ysbrydol a chyffesiadol? Ar ryw wedd dylid croesawu pob diddordeb yng Nghristnogaeth yng nghanol yr oes anghrediniol yma, fodd bynnag nid wyf yn gwbl gyfforddus gyda phobl sydd i weld yn cael eu denu at ein ffydd dim ond oherwydd cyfleustra gwleidyddol a’u bod nhw, efallai, yn gweld Cristnogaeth fel platfform i’w ddefnyddio i golbio’r rhyddfrydwyr adain-chwith y maent yn anghytuno gyda nhw.

Yn olaf, hyd yn oed os y rhywun yn derbyn thesis Tom Holland fod y Gorllewin yn parhau i fod yn sylfaenol (er anymwybodol) Gristnogol rhaid holi am ba hyd y peri hyn wrth ddibynnu’n unig ar ffydd a gwerthoedd etifeddol yn unig? Un, dwy, tair cenhedlaeth? Ac yna beth? Credaf fod moeseg Gristnogol, yn arbennig y pwyslais ar werth sylfaenol pob bod dynol, a hefyd yr alwad i amddiffyn a chodi’r lleiaf a’r olaf, yn llwyr ddibynnol yn y diwedd ar gredu a chyffesu yn y Duw a ddangosodd i ni yn Iesu Grist beth yw sail y gwerthoedd yma sef cariad hunanaberthol. 

‘All you need is love’ oedd maniffesto newydd y Beatles yn yr 1960au, maniffesto na allai’r un Cristion anghytuno a hi fel y dywed Tom Holland. Ond dywedaf fy mod yn caru fy ngwraig, a charu Pizza hefyd, sy’n dangos nad yw pob cariad o’r un gwerth. Mae syniad y gorllewin o beth yw cariad wedi ei selio yn hanesyddol ar y math o gariad a welwyd yn fwyaf clir i ni yng nghariad hunanaberthol Iesu Grist. Ac y pellaf awn o gofio a deall natur y cariad hwn, yna rwy’n ofni mae’r pellaf y bydd gwerthoedd y gorllewin yn llithro o’r gwerthoedd y cyfrifa Tom Holland, a phob un ohonom, yn bwysig.

Please follow and like us: