Er nad ydw i’n un o’r Cristnogion hynny sy’n wfftio’r byd yma yn llwyr ac yn gwneud dim byd heblaw am aros yn tŷ a rhoi polish a brasso ar fy 12-ball yn ddyddiol yn disgwyl am yr ail-ddyfodiad mi ydw i’n disgwyl mlaen yn eiddgar i fynd i’r nefoedd. I bawb sy’n hoff o gerddoriaeth mae’r nefoedd yn le i chi, dwi’n addo. Mi fydd y nefoedd fel rhyw fath o gig mawr, y gig mwyaf a gorau erioed. Dwi methu’n deg a deall y bobl hynny sy’n gwrthwynebu defnyddio unrhyw offeryn heblaw am yr Organ i addoli oherwydd yn y nefoedd fe gaiff y Cristnogion hynny dipyn o sioc pan fydd Iesu yn dechrau dosbarthu’r symbalau a’r telynau allan (Datguddiad 15:2-3) i bawb er mwyn i’r rock out gychwyn.
Dwi’n teimlo mwy na’r arfer ar hyn o bryd fod angen i ni ail-ddarganfod ysbryd mawl go-iawn a cheisio addoli fel bydd yr addoli yn y nefoedd. Mae addoli Duw yn fwy na channu ond o edrych ar y Beibl does dim gwadu fod canu mawl yn ran bwysig o foli Duw. Dwi bron a mynd mor bell a dweud nad oes modd i chi foli’n llawn oni bai eich bod chi yn gwneud hynny yn eich idiom a’ch diwylliant chi. Yn yr un ffordd nad ydy hi’n bosib i Gymro Cymraeg addoli o waelod ei galon yn y Saesneg dwi ddim yn meddwl fod madd i ni heddiw addoli o waelod ein calon wrth ganu emynau Victorianaidd oherwydd fod y diwlliant Victorianaidd bron a bod mor estron i ni a’r diwylliant Seisnig. Mae addoli o’r galon i fod yn real ac yn naturiol a’r hyn sy’n real a naturiol i mi yw addoli Duw yn defnyddio cerddoriaeth ac idiom ein diwylliant cyfoes.
Dwi wrth fy modd gyda’r rock outs mawl maen nhw’n cael yn Mars Hill yn Seattle. Mae Seattle yn fwy enwog i’r rhan fwyaf o bobl nid fel cartref Mars Hill ond yn hytrach fel cartref y sîn Grunge ddechrau’r 90au, yn arbennig Nirvana a Kurt Cobain. Yr hyn sy’n wych am fandiau Mars Hill yw eu bod nhw’n canu mawl ac yn canu hen emynau hyd yn oed ond maen amlwg eu bod nhw’n dod o’r un lle a Nirvana ac wedi eu dylanwadu gan y sîn Grunge Seattle ar un llaw a gan ras Duw ar y llall a does dim byd yn bod ar hynny! Dyna beth yw mawl, mwynhau y gorau o geradigaeth a Duw ond cadw ein llygaid ar y greadigaeth a’r nefoedd newydd.
Dyma ydy fy ffefrynnau mawl ar hyn o bryd, dau hen emyn ond wedi eu chwarae mewn arddull nodweddiadol Seattle.
How Great Thou Art (gan Team Strike Force, Mars Hill Seattle)
All Creatures Great and Small (gan Team Strike Force, Mars Hill Seattle)
Blogiad diddorol neilltuol Rhys! Yn enwedig o weld taw emynau “hen” iawn yw dy ffefrynnau er lladd ar emynau o oes Fictoria! h.y. …
*Fy Arglwydd Dduw / Mor fawr wyt Ti – emyn yn dyddio o 1886, a’r dôn yn alaw werin draddodiadol.
*Popeth a wnaeth ein Duw a’n Rhi – emyn yn dyddio o 1225, a’r dôn o 1623.
Bydd hi’n neilltuol o ddiddorol a rhyfeddol yn y Nefoedd, mae’n siŵr gen i. Bydd rhai yn canu’r blaen-gan, eraill yn sianto pethe Taize, finne yn ymuno gyda’r hen Bant i ddyblu’r emynau, criw arall yn canu pethe roc, a.y.b. … heb neb yn meddwl bod eu dull nhw o addoli yn rhagori ar y llall.
O ganu bendigedig
Fydd canu’r dydd a ddaw,
Pan una’r holl gantorion
Yng nghôr y Wynfa draw…
Jiw, meddylia, Rhys, falle taw Cymanfa Ganu gei di’n y Nefoedd wedi’r cwbwl! 😉
Diolch am dy sylwad. Ie ro ni’n sylwi mae hen emynau oedd rheini, fy mhwynt i oedd fod angen i ni eu canu mewn idiom gyfoes. Pan dwi’n arwain gwasanaethau dwi’n mynd a’r gitar OND dwi wedi gosod fy hoff hen emynau mewn arddull fwy ysgafn/werinol i’w canu mas achos wyn meddwl mae dyna sut oedde nhw’n cael eu canu yn wreiddiol ta beth. Dydd Sul wyn bwriadu arwain y gan gyda Caned Nef, Mae Iesu’n fwy nai roddion a Mor fawr wyt ti ond ar y gitar.
Dwi’n meddwl fod yr organ ac hefyd yr arfer o ganu mewn 4 llais i raddau wedi cyfundrefnu ein mawl yn ormodol ac wedi ei wneud yn rhy strwythyriedig.
Rhan o dristwch difrifol ein cyflwr yw fod yr hyn a ddylai fod yn begwn ein byw yn troi yn fater o ddadl. Rwy’n credu y bydd llawer ohonom yn gorfod plygu ein pennau mewn cywilydd pan ddatguddir cyflwr ein calonnau ar y dydd diwethaf. Beth allai fod yn fwy rhyfeddol na’n bod yn codi ein lleisiau i ddychrafu’r enw mwyaf mawr, a datgan iddo Ef, i’n gilydd ac i’r byd fod ein Duw ni yn fendigedig. Rwy’n credu mai un o’r trysorau mawr sydd gan ein cenedl yw ein hetifeddiaeth wych o emynau. Ond mae’r traddodiad yn troi yn beth marw pan fyddwn yn ei osod mewn ffram aur a dweud na chawn ei gyffwrdd na’i newid. Mae traddodiad byw yn parhau i ddatblygu a newid. Y gamp yw dal gafael ar y gorau o’r hen, tra’n cynhyrchu pethau newydd cyfoes sydd o safon. Mae’n ddiddorol gweld mai’r dadleuon a ddefnyddir gan rai yn erbyn y newydd yw’r union ddadleuon a ddefnyddiwyd yn erbyn Pantycelyn a’i debyg.
Un o’r bendithion rwyf fi’n ei gwerthfawrogi yw’r gallu i gyfieithu rhai o’r emynau gwell newydd o’r Saesneg. Mae Stuart Townend yn un y byddaf yn ddiolchgar am ei waith, ac rwy’n credu fod ambell un o’i emynau yn mynd i fod yn ennill eu lle am flynyddoedd – Speak O Lord, O church arise, O to see the dawn (pob un wedi eu cyfieithu i’r Gymraeg). Mae dwy broblem yn wynebu cyfieithydd – y naill yw caniatad gan ddeiliaid yr hawlfraint, a’r llall yw sut mae lledu’r defnydd o unrhyw emyn newydd. Fel un sy’n ceisio cynorthwyo mawl ymhlith Cristnogion Cymraeg eu hiaith mae hyn yn rhwystredigaeth ddifrifol.
Ond pam dim ond cyfieithu? Mae angen i ni fod yn cynhyrchu ein hemynau gwreiddiol yn y Gymraeg. Ac un o’r anghenion mawr yw cael rhywun sy’n ysgrifennu tonau canadwy. Mae gan Towned ei Keith Getty. Mae Duw yn haeddu’r gorau y gallwn ei gyflwyno iddo. Felly ble mae’r cerddor sy’n mynd i gysegru ei ddawn i gynhyrchu tonau y gall cynulleidfa eu canu? (Ac rwy’n golygu tonau mewn idiom gyfoes – nid dim ond dynwarediad gwael o rai o’r hen emyn-donau, na thonau sy’n addas i unigolyn ond ddim i gynulleidfa.) Gallai hyn adnewyddu rhai o’n hen emynau, (fel y gwnaed yn Saesneg gyda rhai emynau fel Before the throne of God above – un sydd wedi ei chyfieithu i’r Gymraeg) yn ogystal a bod yn sianel i gynhyrchu emynau newydd. A rhag ofn bod rhywun yn credu fod Williams wedi dweud yn cwbl sydd angen ei ddweud -“Rhy fyr yw tragwyddoldeb llawn i ddweud yn iawn amdano”!!!
Diolch am y sylwadau Dafydd. Yn arbennig o hoff o’r cyffyrddiad olaf am Bantycelyn! Da wir.
Byddwn yn argymell y llyfr Worship By The Book – wedi ei olygu gan Don Carson a’i gyhoeddi gan Zondervan – i unrhywun sy’n ceisio ystyried ein haddoliad cyhoeddus cyfoes. Er ei fod yn trafod y sefyllfa yn yr Unol Daleithiau, mae llawerr o egwyddorion gwerthfawr yn dod i’r golwg ynddo.