Dr. Tudur a’i gefnogaeth i CYIG

Dyma ypdet bach am y gwaith ymchwil. Heddiw fe ddes i derfyn pori drwy un mlynedd ar hugain o bapurau Plaid Cymru, yr un mlynedd ar hugain oedd ac R. Tudur Jones yn eu golygu – Y Welsh Nation rhwng 1952 a 1962 a’r Ddraig Goch rhwng 1963 a 1973. Roedd y swmp gwaith iddo yn rhyfeddol yn enwedig wrth gofio fod y Welsh Nation yn bapur wythnosol dan ei olygyddiaeth am gyfnod. Fe ddaeth sawl peth diddorol i’r wyneb ond un o’r pethau mwyaf diddorol erbyn y diwedd oedd cefnogaeth gadarn ac agored Dr. Tudur i Gymdeithas yr Iaith. Dyma ddywedodd am y Gymdeithas yn 1972:

“Llyfryn gyda’r pwysicaf a gyhoeddwyd eleni yw MANIFFESTO CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG wedi’i lunio gan Cynog Dafis. Bydd croeso cynnes iawn iddo ymhlith cenedlaetholwyr Cymru a bydd ei ddarllen yn lles i bawb sydd am ddeall beth sy’n digwydd yng Nghymru’r dyddiau hyn… Y peth sy’n drawiadol am y llyfryn yw gwarineb sylfaenol ei agwedd at Gymru a’i phroblemau.”

Roedd cefnogaeth Dr. Tudur i’r Gymdeithas a’i resymeg craff dros y gefnogaeth honno yn glyfar ac yn ddwfn iawn ac mae’n rhaid fod ei resymu a’i ddadlau wedi ennill llawer o barchedigion eraill draw i gefnogi’r Gymdeithas. Dyma ei eiriau eto:

“O ddarllen y maniffesto hwn; daw mor eglur â’r dydd mor gyfoethog a dwfn yw’r cymhellion sy’n ysgogi gweithgarwch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Nid pobl yn ceisio datgymalu cymdeithas yng Nghymru mohonynt, ond pobl sy’n ceisio’i hadfer. Nid dymchwelwyr cyfraith a threfn mohonynt, ond pobl sy’n eirias tros amgenach cyfiawnder na’r un a weinyddir trwy gyfrwng cyfraith a llysoedd Lloegr. Nid barbariaid newydd mohonynt, ond amddiffynwyr y traddodiad gwâr yn ein plith.”

Tybed a oes gwers gan Dr. Tudur yn y dyfyniad yna i rai sy’n gweithredu yn ddi-ofal, yn eu cwrw hyd yn oed, a heb gymryd cyfrifoldeb yn ddiweddar dros ei gweithredoedd? Dim ond holi ydw i…

Cam nesaf yr ymchwil a’r hyn fydd yn fy nghadw yn brysur bron a bod tan yr Hydref maen siŵr fydd dychwelyd i’r archifdy a gweithio trwy bapurau Dr. Tudur a manylder yn arbennig ei ohebiaeth yn ymwneud a Phlaid Cymru a drafftiau o ysgrifau ac anerchiadau gwleidyddol ganddo yn ogystal a rhai diwinyddol sy’n cyflwyno ei rationale dros ei ymwnelo gwleidyddol fel Cristion. Fe wnes i annerch yn gyhoeddus am y tro cyntaf am yr ymchwil ddydd Sadwrn, dim byd mawr, dim ond cyfarfod i ddysgwyr dan nawdd Eglwys Efengylaidd Aberystwyth, wedi dweud hynny mi roedd yr Athro R. M. Jones a’r Athro R. Geraint Gruffydd yn bresennol felly doedd dim modd siarad ar fy nghyfer! Mae’r frwydr ymchwil yn parhau!

Please follow and like us:

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.